Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Slip Roads at Junction 9 Treborth Interchange , Gwynedd - Temporary Prohibition of Vehicles, Cyclists & Pedestrians

LL57Published 08/09/25
Daily Post • 

What is happening?

HYSBYSIAD STATUDOL 

I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru 

GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A487 (FFORDD GYSWLLT RHWNG CYLCHFAN PARC MENAI A CHYLCHFAN FFORDD TREBORTH, BANGOR, GWYNEDD) A CHEFNFFORDD YR A55 (FFYRDD YMUNO AC YMADAEL WRTH GYFFORDD 9 (CYFNEWIDFA TREBORTH), GWYNEDD) (GWAHARDD CERBYDAU, BEICWYR A CHERDDWYR DROS DRO) 202- 

MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffyrdd yr A484 a’r A55, neu gerllaw iddynt, wrth Gyfnewidfa Treborth, Bangor, Gwynedd.

Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, pob beiciwr a phob cerddwr rhag mynd ar y darnau o gefnffyrdd yr A484 a’r A55 a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y trefniadau ar gyfer llwybrau eraill yn yr Atodlen honno hefyd.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 22 Medi 2025. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau dros dro yn weithredol dros nos (19:00 – 05:00 o’r gloch) rhwng 22 Medi a 5 Hydref 2025, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.

Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.

C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

YR ATODLEN

Y darn o gefnffordd yr A487 rhwng Cylchfan Parc Menai a Chylchfan Ffordd Treborth, Bangor. 

Cerbytffyrdd cylchredol Cylchfan Parc Menai a Chylchfan Ffordd Treborth yr A487, Bangor. Y darnau o ffyrdd ymuno ac ymadael tua’r dwyrain a thua’r gorllewin yr A55 wrth Gyffordd 9 (Cyfnewidfa Treborth), Bangor. Y llwybrau eraill Codir arwyddion priodol i nodi’r gwyriad ar gyfer y llwybrau eraill. Bydd y llwybrau’n amrywio gan ddibynnu ar ben y daith ac yn unol â pha ddarn o’r ffordd ymuno/ymadael a/neu ffordd gyswllt a ddisgrifir uchod sydd ar gau dros dro i draffig. 

Bydd llwybrau eraill ar gael ar hyd yr A55, yr A4087 Ffordd Caernarfon, yr A487, yr A5, y Ffordd Gyswllt Dosbarth 3, Ffordd Penrhos a Ffordd Faenol, fel sy’n briodol.

STATUTORY NOTICE 

For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales 

THE A487 TRUNK ROAD (LINK ROAD BETWEEN PARC MENAI ROUNDABOUT AND TREBORTH ROAD ROUNDABOUT, BANGOR, GWYNEDD) AND THE A55 TRUNK ROAD (SLIP ROADS AT JUNCTION 9 (TREBORTH INTERCHANGE), GWYNEDD) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES, CYCLISTS & PEDESTRIANS) ORDER 202- 

THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A487 and A55 trunk roads at Treborth Interchange, Bangor, Gwynedd.

The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the A487 and A55 trunk roads described in the Schedule to this Notice. The alternative route arrangements are also explained therein.

The Order will come into force on 22 September 2025. The temporary prohibitions are expected to operate overnight (19:00 – 05:00 hours) from 22 September to 5 October 2025, or until the temporary traffic signs are permanently removed.

Although the Order is only expected to operate during the period specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work begins.

C WYNN, Transport, Welsh Government 

SCHEDULE 

The length of the A487 trunk road between Parc Menai Roundabout and Treborth Road Roundabout, Bangor. 

The circulatory carriageways of the A487 Parc Menai Roundabout and Treborth Road Roundabout, Bangor. The lengths of the A55 eastbound and westbound exit and entry slip roads at Junction 9 (Treborth Interchange), Bangor. 

Alternative routes The alternative routes will be signed with appropriate diversion signs and will vary depending on destination and according to which length of slip road and/or link road described above is temporarily closed to traffic. 

Alternative routes will be available via the A55, A4087 Caernarfon Road, A487, A5, the Class 3 Link Road, Penrhos Road and Faenol Road, as appropriate.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association