Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Footpath 21, Mountain Ash - Rail Crossing Diversion Order

CF37Published 09/09/25
Western Mail • 

What is happening?

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 119A
GORCHYMYN GWYRO CROESFAN RHEILFFORDD
LLWYBR TROED 21 ABERPENNAR (CROESFAN UCHAF BRUCE)

Ar 28 Awst 2025, cadarnhaodd Cyngor Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) y Gorchymyn a wnaethpwyd o dan Adran 118A o Ddeddf Priffyrdd 1980 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992) (“y Ddeddf 1980”).

Bydd y gorchymyn yn dargyfeirio’r llwybr troed cyhoeddus ger Croesfan Uchaf Bruce fel sydd wedi’i nodi yn yr Atodlen i’r hysbysiad yma.

Mae copi o’r Gorchymyn a Map y Gorchymyn ar gael i’w weld yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor arferol Swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH ac yn Llyfrgell Aberpennar, Canolfan Pennar, Stryd Rhydychen, Aberpennar, CF45 3HD. Mae modd derbyn copïau yno.

Bydd y gorchymyn yn dod i rym ar 5 Medi 2025 ond os bydd unrhyw berson wedi’u tramgwyddo gan y gorchymyn yn dymuno herio dilysrwydd hyn, neu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi’i nodi yn rhan o’r gorchymyn ar y sail nad yw’n berthnasol i bwerau’r Ddeddf, neu os dydy unrhyw reoliad sydd wedi’i wneud yn unol â’r ddeddf ddim yn cydymffurfio â’r Ddeddf, mae modd i’r sawl sy’n herio dilysrwydd y gorchymyn gyflwyno cais i’r Uchel Lys cyn pen chwe wythnos o 5 Medi 2025, yn unol â pharagraff 2, Atodlen 2 y Ddeddf fel y caiff ei nodi ym mharagraff 5, Atodlen 6 y Ddeddf.

ATODLEN
RHAN 1
DISGRIFIAD O SAFLE Y LLWYBR TROED PRESENNOL
Y rhan o Lwybr Troed 21 Aberpennar a ddangosir gan linell ddu barhaus amlwg ar Fap y Gorchymyn ac sy’n cychwyn o bwynt A (ST03239967) ar y B4275 (Heol Aberdâr) ac sy’n mynd i gyfeiriad dwyreiniol cyffredinol am bellter o 262 metr trwy goetir ac ar draws rheilffordd Aberdâr-Pontypridd gan ddefnyddio croesfan gerddwyr Uchaf Bruce i bwynt B (ST03499969) o fewn Parc Heddwch, Aberpennar.

Hyd: 262 metr
Lled: 1.8 metr

RHAN 2
DISGRIFIAD O SAFLEOEDD Y LLWYBRAU TROED NEWYDD
Dangosir y llwybr newydd gan linell ddu doredig sy’n dechrau o bwynt B (ST03499969) ar Lwybr Troed 21 Aberpennar o fewn Parc Heddwch, Aberpennar ac sy’n mynd i gyfeiriad de-ddwyreiniol cyffredinol am bellter o 193 metr ar hyd llwybr glaswelltog anffurfiol gan ddilyn ffin y parc i bwynt C (ST03669963) lle mae’n cysylltu â Llwybr Troed 22 Aberpennar.

Hyd: 193 metr
Lled: 2.5 metr

Dyddiad: 5 Medi 2025

Andrew Wilkins, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH

RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL
HIGHWAYS ACT 1980 SECTION 119A
RAIL CROSSING DIVERSION ORDER
FOOTPATH 21 MOUNTAIN ASH (BRUCE’S UPPER LEVEL CROSSING)

On 28 August 2025 Rhondda Cynon Taf County Borough Council (“the Council”) confirmed this Order made under section 118A of the Highways Act 1980 (as amended by the Transport and Works Act 1992) (“the 1980 Act”).

The effect of the Order as confirmed is to divert the public footpath at Bruce’s Upper pedestrian level crossing as described in the Schedule to this Notice.

A copy of the Order as confirmed and the map contained in it have been placed and may be seen free of charge during normal opening hours at the offices of the Council at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH and at Mountain Ash Library, Canolfan Pennar, Oxford Street, Mountain Ash CF45 3HD during normal opening hours. Copies may be obtained there.

The Order comes into force on 5 September 2025 , but if any person aggrieved by the Order desires to question its validity, or that of any provision contained in it, on the ground that it is not within the powers of the 1980 Act, or of any regulation made under it has not been complied with in relation to the Order, he or she may under paragraph 2 of Schedule 2 to the 1980 Act as applied by paragraph 5 of Schedule 6 to the 1980 Act, within six weeks from 5 September 2025 , make an application to the High Court.

SCHEDULE
PART 1
DESCRIPTION OF SITE OF EXISTING FOOTPATH
A part length of Footpath 21 Mountain shown by a bold continuous black line on the Order Map starting from point A (ST03239967) on the B4275 (Aberdare Road) and running in a general easterly direction for a distance of 262 metres through woodland and across the Aberdare-Pontypridd railway using Bruce’s Upper pedestrian level crossing to point B (ST03499969) within Peace Park, Mountain Ash.

Length: 262 metres
Width: 1.8 metre

PART 2
DESCRIPTION OF SITE OF NEW FOOTPATH
The new path is shown by a dashed black line starting from point B (ST03499969) on Footpath 21 Mountain Ash within Peace Park, Mountain Ash and running in a general south-easterly direction for a distance of 193 metres along an unmade grass path following the park boundary to point C (ST03669963) where it connects with Footpath 22 Mountain Ash.

Length: 193 metres
Width: 2.5 metres

Dated: 5 September 2025

Andrew Wilkins, Director of Legal and Democratic Services, 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association