Cwmbran, Public Footpath Diversion Order
What is happening?
HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN LLWYBR CYHOEDDUS
DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990
ADRAN 257
CYNGOR BWRDIESTREF SIROL TORFAEN
DARGYFEIRIO LLWYBR TROED CYHOEDDUS RHIF 216 (RHANNOL) YN SAIN DERFEL, CWMBRÂN
Ar 13 Awst 2025 Cadarnhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen y Gorchymyn uchod
Effaith y Gorchymyn fel y’i Cadarnhawyd yw dargyfeirio rhan o Lwybr Cyhoeddus Rhif 216 yn Sain Derfel yng Nghymuned Cwmbrân, sy’n dechrau wrth ei gyffordd â St Dials Road
(GR ST 2895 9512) ar ochr ogleddol yr eiddo a elwir yn 12 St Dials Road. Mae’n mynd i gyfeiriad y de-orllewin am tua 305 metr ac yn dod i ben yn ST 2873 9493. Mae hyd y llwybr a fydd yn cael ei ddargyfeirio yn rhyw 165 metr, ac fe’i dangosir ar Fap y Gorchymyn gan linell doredig o A – B. Mae gan y llwybr arwyneb naturiol.
Bydd llwybr amgen yn cael ei greu a fydd yn dechrau wrth ei gyffordd â St Dials Road
(GR ST ST2898 9506), 50 metr i’r de-ddwyrain o’r eiddo a elwir yn 12 St Dials Road.
Mi fydd yn mynd ymlaen i gyfeiriad y de-dde-orllewin am 55 metr, i’r de-orllewin am 30 metr ac yna i’r gorllewin-gogledd-orllewin am 125 metr cyn uno â Llwybr Cyhoeddus Rhif 216 (GR ST 2881 9503). Hyd y llwybr amgen fydd tua 210 metr ac fe’i dangosir ar Fap y Gorchymyn gan linell doredig drwchus o C – D. Bydd y llwybr troed newydd tua 1.5 metr o led.
Mae copi o’r Gorchymyn fel y’i Cadarnhawyd a Map y Gorchymyn i’w gweld yn rhad ac am ddim yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pwl, NP4 6YB rhwng 09.00a.m. a 5.00p.m. ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 09.00 a.m. a 4.30 p.m. ddydd Gwener.
Yno, gellir prynu copiau o’r Gorchymyn a’r map am £3.00.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 27 Awst 2025 ond os yw person yn cael ei ddileu gan y Gorchymyn ac am amau ei ddilysrwydd, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn, ar y sail nad yw o fewn pwerau’r Ddeddf uchod, neu unrhyw reolau a wnaed dan y Ddeddf nad yw wedi cydymffurfio ag ef mewn perthynas â Chadarnhau’r Gorchymyn, gall ef neu hi wneud cais i’r uchel Lys at dy ebienion hyn dan Adran 287 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a hynny o fewn 6 wythnos o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad am y tro cynta,
fel sy’n ofynnol gan baragraff 7 Atodlen 14
y Ddeddf.
Dyddiad: 13 Awst 2025
Open to feedback
From
27-Aug-2025
To
8-Oct-2025
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Free Press (Wales) directly at: