Monmouth County Council - Multiple temporary 30mph speed limits due to cycling event
What is happening?
GORCHYMYN Y B4598 (LLANCAEO, SIR FYNWY), YR A472 AC IS-FFORDD (BRYNBUGA, SIR FYNWY) AC IS-FFORDD (CLYDACH, SIR
FYNWY)
(TERFYN CYFLYMDER 30 MYA DROS DRO AR GYFER CERBYDAU ESEMPT) 2025
MAE GWEINIDOGION CYMRU, gan weithredu ar ran Cyngor Sir Fynwy yn unol â threfniadau a wnaed rhwng Cyngor Sir Fynwy a Gweinidogion Cymru o dan adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wedi gwneud Gorchymyn, drwy arfer eu pwerau o dan adran 16A o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae angen y Gorchymyn er mwyn cynnal y digwyddiad beicio,
“Ras Ieuenctid De Cymru” ger Brynbuga a’r Fenni.
Effaith y Gorchymyn yw rhoi caniatâd dros dro i gerbydau modur a ddefnyddir gan swyddogion awdurdodedig y digwyddiad gael eu gyrru ar gyflymder heb fod yn gyflymach na 30 mya ar y darnau o’r ffyrdd lleol a bennir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Bydd hyn yn eu galluogi i fod ychydig o flaen y ras er mwyn cyflawni eu dyletswyddau o sicrhau bod y ffordd yn glir a dal traffig, pan fo’n briodol. Bydd yn gweithredu “swigen ddiogelwch” a ddylai sicrhau bod y ras yn cael ei chynnal yn ddiogel i feicwyr a’r cyhoedd.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 25 Awst 2025 a bydd yn para am 1 diwrnod ar y mwyaf. Disgwylir mai dim ond rhwng 10:00 o’r gloch a 13:30 o’r gloch y bydd y cyfyngiad yn weithredol.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
P HUISH, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
Terfyn Cyflymder 30 mya Dros Dro ar gyfer Cerbydau Esempt
Y darn o’r B4598 o’r arwyddion 20mya ar y ddynesfa orllewinol i Lancaeo hyd at yr arwyddion 40mya yn union cyn y gyffordd â Clytha Road.
Y B4598 o’r arwyddion 20mya wrth ddynesu at Frynbuga, ar hyd yr A472 Castle Parade a Heol Trefynwy hyd at yr arwyddion 30mya ar ôl y fynedfa i Borth Burrium ar y rhan ddiddosbarth o Heol Trefynwy.
Y darn o’r Brif Ffordd, Clydach o’r arwyddion 20mya yn union ar ôl ei chyffordd â Heol yr Eglwys hyd at yr arwyddion 30mya 430 o fetrau i’r de-orllewin o’i chyffordd â Heol Rhona.
THE B4598 (LLANCAYO, MONMOUTHSHIRE), A472 AND MINOR ROAD (USK, MONMOUTHSHIRE) AND MINOR ROAD (CLYDACH, MONMOUTHSHIRE)
(TEMPORARY 30 MPH SPEED LIMIT FOR EXEMPTED VEHICLES) ORDER 2025
THE WELSH MINISTERS, acting on behalf of Monmouthshire County Council pursuant to arrangements made between Monmouthshire County Council and the Welsh Ministers under section 83(1) of the Government of Wales Act 2006, have made an Order, in exercise of their powers under section 16A of the Road Traffic Regulation Act 1984 and section 83 of the Government of Wales Act 2006, which is necessary to hold the “Junior
Race of South Wales” cycling event near Usk and Abergavenny.
The effect of the Order is to temporarily allow motor vehicles being used by authorised event officials to be driven at a speed not exceeding 30 mph on the lengths of local roads specified in the Schedule to this Notice. This will enable them to get a short distance ahead of the race to carry out their duties of ensuring the road is clear and holding traffic, where appropriate. It will implement a “safety bubble” that should ensure that the race is delivered safely for riders and the public.
The Order comes into force on 25 August 2025 and has a maximum duration of 1 day.
The restriction is only expected to operate from 10:00 to 13:30 hours.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders
P HUISH,
Transport, Welsh Government
SCHEDULE
Temporary 30 mph Speed Limit for Exempted Vehicles
The length of the B4598 from the 20mph signs on the western approach to Llancayo to the 40mph signs just before the junction with Clytha Road.
The B4598 from the 20mph signs as you approach Usk, along the A472 Castle Parade & Monmouth Road to the 30mph signs after the entrance to Burrium Gate on the unclassified section of Monmouth Road.
The length of Main Road, Clydach from the 20mph signs just past its junction with Church Road to the 30mph signs 430 metres southwest of its junction with Rhonas Road.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at: