The A40 Trunk Road, Abergavenny, Monmouthshire to Glangrwyney - Temporary restrictions due to highway works
What is happening?
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A40
(Y FENNI, SIR FYNWY I LANGRWYNE, POWYS)
(GWAHARDD CERBYDAU A BEICWYR DROS DRO) 2025
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A40, neu gerllaw iddi, rhwng y Fenni a Glangrwyne.
Effaith y Gorchymyn yw gwahardd dros dro bob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith) a phob beiciwr rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A40 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan yr A4143 Merthyr Road, y Fenni hyd at bwynt 219 o fetrau i’r gorllewin o ganolbwynt ei chyffordd â’r fynedfa i Glangrwyney Court, Glangrwyne.
Y llwybr amgen ar gyfer cerbydau ysgafn sy’n teithio tua’r gorllewin o’r Fenni yw mynd ar hyd yr A4143 tua’r de, yr A465 tua’r gorllewin i Gofilon a’r A4077 tua’r gogledd-orllewin i ailymuno â’r A40 yng Nghrucywel: i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r dwyrain.
Dylai cerbydau nwyddau trwm sy’n teithio tua’r gorllewin ddilyn yr A4143 tua’r de, yr A465 tua’r de-orllewin i Gylchfan Cefncoedycymer, Merthyr Tudful a’r A470 tua’r gogledd i ailymuno â’r A40 yn Aberhonddu: i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau nwyddau trwm sy’n teithio tua’r dwyrain.
Sicrheir mynediad i eiddo ar hyd y darn fydd ar gau. Bydd mynediad lleol hefyd ar gael ar hyd yr A40 Brecon Road ond dim ond hyd at y pwyntiau cau.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 20 Awst 2025. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau dros dro yn weithredol dros nos (20:00 – 06:00 o’r gloch) o 20 – 22 Awst 2025 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn i unrhyw waith a ailamserlennir ddechrau.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
M J CLARKE, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
THE A40 TRUNK ROAD
(ABERGAVENNY, MONMOUTHSHIRE TO GLANGRWYNEY, POWYS) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES & CYCLISTS) ORDER 2025
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A40 trunk road between Abergavenny and Glangrwyney.
The effect of the Order is to temporarily prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services or for the works) and cyclists from proceeding on the length of the A40 trunk road that extends from its junction with the A4143 Merthyr Road Roundabout, Abergavenny to a point 219 metres west of the centre-point of its junction with the entrance to Glangrwyney Court, Glangrwyney.
The alternative route for westbound light vehicles from Abergavenny is via the southbound A4143, westbound A465 to Govilon and north-westbound A4077 to rejoin the A40 at Crickhowell: vice versa for eastbound vehicles.
Westbound HGVs should follow the southbound A4143, south-westbound A465 to Cefncoedycymer Roundabout, Merthyr Tydfil and northbound A470 to rejoin the A40 at Brecon: vice versa for eastbound HGVs.
Access will be maintained to properties along the length of the closure. Local access will also be available along the A40 Brecon Road but only up to the points of closure.
The Order comes into force on 20 August 2025. The temporary prohibitions are expected to operate overnight (20:00 – 06:00 hours) from 20 – 22 August 2025, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to operate during the period specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notice of any changes to times and dates will be displayed before the start of any rescheduled work.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders
M J CLARKE, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at: