Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Dixton Roundabout, Monmouth - Temporary restrictions due to highway works

NP25Published 13/08/25
Abergavenny Chronicle • 

What is happening?

GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A40
(CYLCHFAN DIXTON, TREFYNWY, SIR FYNWY)
(GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-

MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A40, neu gerllaw iddi, wrth Gylchfan Dixton yn Sir Fynwy.

Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darn cyfan o gerbytffordd gylchredol Cylchfan Dixton yn Nhrefynwy yn Sir Fynwy.

Mae’r llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain o ben gorllewinol y darn o’r ffordd sydd ar gau fel a ganlyn: 

Traffig nad yw’n draffig cerbydau nwyddau trwm

Dylai traffig sy’n teithio tua’r dwyrain ddilyn yr A449 tua’r de o Gyfnewidfa Rhaglan i Gyffordd 24 yr M4 (Coldra), yr M4 tua’r dwyrain i Gyffordd 23 (Rogiet), yr M48 tua’r dwyrain i Gyffordd 2 (Newhouse), yr A466 tua’r gogledd i Gylchfan Highbeech, Cas-gwent, yr A48 tua’r gogledd-ddwyrain i Highnam a’r A40 tua’r gorllewin i Rosan ar Wy er mwyn ymuno â’r A40 tua’r de-orllewin i Drefynwy neu barhau tua’r gogledd-ddwyrain; i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin. 

Traffig nad yw’n draffig traffordd


Dylai traffig sy’n teithio tua’r dwyrain ddilyn yr A449 tua’r de o Gyfnewidfa Rhaglan i Gyffordd 24 yr M4 (Coldra) a’r A48 tua’r dwyrain i Gylchfan Highbeech, Cas-gwent a dilyn gweddill y llwybr dargyfeirio a ddisgrifir uchod; i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin. 

Traffig cerbydau nwyddau trwm

Dylai traffig sy’n teithio tua’r dwyrain ddilyn yr A449 tua’r de o Gyfnewidfa Rhaglan i Gyffordd 24 yr M4 (Coldra), yr M4 tua’r dwyrain i Gyffordd 20, yr M5 tua’r gogledd i Gyffordd 8 a’r M50 tua’r de er mwyn ymuno â’r A40 yn Rhosan ar Wy: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 28 Awst 2025. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol dros nos yn unig, rhwng 20:00 o’r gloch a 06:00 o’r gloch, am gyfnod cyfan o dair wythnos, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.

Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei roi cyn gwneud
unrhyw waith a ailamserlennir.

P HUISH, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru 

THE A40 TRUNK ROAD
(DIXTON ROUNDABOUT, MONMOUTH, MONMOUTHSHIRE) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202
-

THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A40 trunk road at Dixton Roundabout in Monmouthshire.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services or for the works, from proceeding on the entire length of the circulatory carriageway of Dixton Roundabout at Monmouth in Monmouthshire.
The alternative route for eastbound traffic from the western extent of the closure is as follows:

Non-HGV traffic

Eastbound traffic to follow the southbound A449 from Raglan Interchange to the M4 Junction 24 (Coldra), eastbound M4 to Junction 23 (Rogiet), eastbound M48 to Junction 2 (Newhouse), northbound A466 to Highbeech Roundabout, Chepstow, north-eastbound A48 to Highnam and westbound A40 to Ross-on-Wye to join the south-westbound A40 to Monmouth or continue north-eastbound: vice versa for westbound traffic.

Non-motorway traffic Eastbound traffic to follow the southbound A449 from Raglan Interchange to the M4 Junction 24 (Coldra) and eastbound A48 to Highbeech Roundabout, Chepstow and follow the remainder of the diversion route described above: vice versa for westbound traffic.

HGV traffic

Eastbound traffic to follow the southbound A449 from Raglan Interchange to the M4 Junction 24 (Coldra), eastbound M4 to Junction 20, northbound M5 to Junction 8 and southbound M50 to join the A40 at Ross-on-Wye: vice versa for westbound traffic.

The Order will come into force on 28 August 2025. The temporary prohibition is expected to operate overnight only, between the hours of 20:00 hours and 06:00 hours, for a total period of three weeks, or until the temporary traffic signs are permanently removed.

Although the Order is only expected to be in force during the period specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled, or consequential or other work is required.
Notice of any changes to times and dates will be given before any rescheduled work begins.

P HUISH, Transport, Welsh Government 

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at:

andrew.hart@abergavennychronicle.com

01873 852187

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association