Lôn Pen Clegir, Gwalchmai - Temporary Prohibition of Traffic For Civils Works
What is happening?
RHYBUDD O FWRIAD
DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD, 1984 ADRAN 14(1) FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFNIDIAETH
FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO), 1991
GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO) (LÔN PEN CLEGIR, GWALCHMAI) RHIF 2 2025
RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council yn bwriadu dim llai na saith niwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd hwn wneud Gorchymyn bydd yn gwahardd dros dro pob cerbyd, ac eithrio cerbydau argyfwng, rhag teithio mewn unrhyw gyfeiriad ar hyd Lôn Pen Clegir, Gwalchmai.
Mae angen y Gorchymyn i alluogi peirianwyr i weithio ar strwythur tanddaearol ar gyfer gwaith sifil Dŵr Cymru - newid mesurydd.
Y ffordd arall fydd o bwynt deheuol y cau ffordd. Teithio i gyfeiriad y gorllewin ar hyd yr A5 i Groesffordd Treban. Yna trowch i’r dde ar y B5112 a theithio tua’r gogledd i’r gyffordd gyda’r B5109 yn Nhrefor. Trowch i’r dde a theithio mewn cyfeiriad dwyreiniol ar hyd y B5109 i gyfeiriad Llynfaes a throwch i’r dde i’r ffordd ddi-ddosbarth a adnabyddir yn lleol fel Lôn Bodychen ger Chwarel Gwyndy.
Yna teithio i gyfeiriad deheuol ar hyd Lôn Bodychen i’r gyffordd gyda Lôn Pen Clegir, troi i’r dde a theithio ar hyd Lôn Pen Clegir i gyfeiriad deheuol i ben gogleddol y ffordd sydd ar gau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio o’r cyfeiriad arall.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 25ain Awst 2025 a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod na fydd yn fwy na 6 wythnos neu hyd nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd, pa un bynnag fyddo gyntaf. Ar hyn o bryd disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ar 27ain Awst 2025.
NOTICE OF INTENTION
ROAD TRAFFIC REGULATION ACT, 1984 SECTION 14(1) AS AMENDED BY THE ROAD TRAFFIC
(TEMPORARY RESTRICTIONS) ACT, 1991
CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(TEMPORARY PROHIBITION OF THROUGH TRAFFIC) (LÔN PEN CLEGIR, GWALCHMAI) ORDER NO.2 2025
NOTICE IS HEREBY GIVEN that Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council intend not less than seven days from the date hereof to make an Order, the effect of which will temporarily prohibit all vehicles, except for emergency vehicles, from travelling in either direction along Lôn Pen Clegir, Gwalchmai.
The Order is necessary to enable engineers to work on underground structure for civils works Dŵr Cymru - meter change.
The alternative route will be from the southern point of the road closure. Travel in a westerly direction along the A5 to the Treban Crossroads.
Then turn right onto the B5112 and travel in a northerly direction to the junction with the B5109 in Trefor. Turn right and travel in an easterly direction along the B5109 towards Llynfaes and turn right onto the unclassified road known locally as Lôn Bodychen by Gwyndy Quarry.
Then travel in a southerly direction along Lôn Bodychen to the junction with Lôn Pen Clegir, turn right and travel along Lôn Pen Clegir in a southerly direction to the northern end of the road closure. Vice versa for traffic travelling from the opposite direction.
The Order comes into effect on 25th August 2025 and will continue in force for a period not exceeding 6 weeks or until the work which it is proposed to carry out on the road is completed, whichever is the earlier. At this stage it is anticipated that the works will be completed on 27th August 2025.
DYDDIEDIG 06/08/2025 DATED
...................................................
LYNN BALL, CYFARWYDDWR SWYDDOGAETH (BUSNES Y CYNGOR)/SWYDDOG MONITRO DIRECTOR OF FUNCTION (COUNCIL BUSINESS)/MONITORING OFFICER CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL SWYDDFA’R SIR/COUNTY OFFICES, LLANGEFNI, YNYS MÔN LL77 7TW
AM FWY O WYBODAETH YNGLYN Â’R UCHOD CYSYLLTWCH Â’R ADRAN GYFREITHIOL AR / FOR FURTHER INFORMATION REGARDING
THE ABOVE PLEASE TELEPHONE THE LEGAL SECTION ON LLANGEFNI 01248 752389 HT-026989-SMJ
Croeso i chi ddelio gyda’r Cyngor yn Gymraeg neu’n Saesneg. Cewch yr un safon o wasanaeth yn y ddwy iaith.
You are welcome to deal with the Council in Welsh or English. You will receive the same standard of service in both languages.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Bangor & Holyhead Mail directly at: