Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Footpaths 94, 95 And 96, Pontypridd - Public Path Diversion Order

CF37Published 16/06/25
Western Mail • 

What is happening?

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
DEDDF PRIFFYRDD 1980 – ADRAN 119
GORCHYMYN GWYRO LLWYBR CYHOEDDUS
LLWYBRAU TROED 94, 95 A 96 PONTYPRIDD

Ar 3 Mehefin 2025, cadarnhaodd Cyngor Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) y gorchymyn uchod a wnaethpwyd o dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”).

Effaith y gorchymyn fydd gwyro’r llwybr troed cyhoeddus sy’n cael ei ddisgrifio yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r hysbysiad yma, a chreu llwybr troed newydd i’w ddefnyddio yn lle’r hen lwybr troed, fel sy’n cael ei ddisgrifio yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r hysbysiad yma, ac sydd i’w weld ar fap y gorchymyn.

Mae modd gweld copi o’r gorchymyn a gytunwyd a map y gorchymyn am ddim yn swyddfeydd y Cyngor yn 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH ac yn Llyfrgell Pentre’r Eglwys, Campws Cymunedol Garth Olwg, Heol Sant Illtyd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1RQ yn ystod yr oriau agor arferol. Mae modd cael copïau o’r gorchymyn a’r map yna.

Daw’r gorchymyn i rym ar 16 Mehefin 2025, ond os yw person sy’n anfodlon â’r gorchymyn eisiau cwestiynu ei ddilysrwydd, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth sydd ynddo, ar y sail nad yw o fewn pwerau’r Ddeddf, fel y’i diwygiwyd, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad yn y Ddeddf, fel y’i diwygiwyd, neu unrhyw reoliad a wneir o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r gorchymyn, caiff ef neu hi, o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf fel y’i cymhwysir gan baragraff 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf, wneud cais i’r Uchel Lys cyn pen 6 wythnos ar ôl 16 Mehefin 2025.

ATODLEN

RHAN 1
DISGRIFIAD O SAFLEOEDD Y LLWYBRAU TROED PRESENNOL
Llwybr Troed 94 Pontypridd
Nodir A - B ar Fap y Gorchymyn
Y rhan honno o’r llwybr sy’n dechrau ym mhwynt A (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07528836) ac yn mynd tua’r gogledd i gwrdd â Llwybrau Troed 95 a 96 Pontypridd ar fuarth fferm Fforest Uchaf ym mhwynt B (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07528846).

Hyd: 103m
Lled: Heb ei ddiffinio

Llwybr Troed 95 Pontypridd
Nodir B - D ar Fap y Gorchymyn
Y rhan honno o’r llwybr sy’n dechrau ym mhwynt B (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07528846) ar fuarth fferm Fforest Uchaf ac yn mynd i’r gogledd-ddwyrain drwy giât cae ac yna’n croesi’r cae ac yn dod i ben ger ymyl y cae ym mhwynt D (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07618854).

Hyd: 128m
Lled: Heb ei ddiffinio

Llwybr Troed 96 Pontypridd, Nodir B - C ar Fap y Gorchymyn
Y rhan honno o’r llwybr sy’n dechrau ym mhwynt B (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07528846) ar fuarth fferm Fforest Uchaf ac yn mynd i’r gogledd ar hyd llwybr heb ei wneud ger pwll ac yn dod i ben ym mhwynt C (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07498859).

Hyd: 138 metr
Lled: Heb ei ddiffinio

RHAN 2
DISGRIFIAD O SAFLEOEDD Y LLWYBRAU TROED NEWYDD

Llwybr Troed 94 Pontypridd
Nodir A - E - F ar Fap y Gorchymyn
Yn dechrau ym mhwynt A (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07528836) ar ffin ddeheuol Fferm Fforest Uchaf ac yn mynd i’r dwyrain i fwlch mewn wal gerrig (ffin cae) ym mhwynt E (NGR ST07548836) ac yna i’r gogledd-ddwyrain ar hyd ymyl cae at fwlch arall mewn wal gerrig (ffin cae) ym mhwynt F (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07578838).

Hyd: 55 metr
Lled: 2 metr – 3 metr

Llwybr Troed 95 Pontypridd
Nodir F– G – D ar Fap y Gorchymyn
Yn dechrau ym mhwynt F (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07578838) ar fwlch mewn wal gerrig (ffin cae) ac yn mynd i’r gogledd-ddwyrain a’r gogledd ar hyd ymyl cae i fwlch mewn llinell ffens ffin cae ym mhwynt G (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07628853) cyn ymuno â Llwybrau Troed 95 a 96 Pontypridd ym mhwynt D (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07618854).

Hyd: 192 metr
Lled: 2 metr – 3 metr

Llwybr Troed 96 Pontypridd
Nodir D – H – I – J ar Fap y Gorchymyn
Yn dechrau ym mhwynt D (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07618854) ac yn mynd tua’r gorllewin trwy fylchau yn llinellau ffens ffin caeau ym mhwynt H (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07618855) a phwynt I (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07598855). Yna i’r gogledd-orllewin gan groesi nant fechan sy’n rhedeg rhwng dau bwll ym mhwynt J (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07558856) i ymuno â Llwybr Troed 96 Pontypridd ym mhwynt C (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST07498859).

Hyd: 131 metr
Lled: 2 metr – 3 metr

Dyddiad: 16 Mehefin 2025

Andrew Wilkins, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH

RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL
HIGHWAYS ACT 1980 SECTION 119
PUBLIC PATH DIVERSION ORDER
FOOTPATHS 94, 95 AND 96 PONTYPRIDD

On 3 June 2025, Rhondda Cynon Taf County Borough Council (“the Council”) confirmed the above Order made under section 119 of the Highways Act 1980 (“the Act”).

The effect of the Order as confirmed is to divert the public footpaths described in Part 1 of the Schedule to this Notice and create new footpaths for use as replacements as described in Part 2 of the Schedule to this Notice as shown on the Order Map.

A copy of the confirmed Order and the Order Map may be seen free of charge during normal opening hours at the offices of the Council at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH and at Church Village Library, Garth Olwg Community Campus, St Illtyd’s Road, Church Village, Pontypridd CF37 1RQ. Copies of the Order and Map may be obtained there.

The Order comes into force on 16 June 2025, but if a person aggrieved by the Order wants to question its validity, or that of any provision contained in it, on the ground that it is not within the powers of the Act, as amended, or on the ground that any requirement of the Act, as amended, or of any regulation made under the Act has not been complied with in relation to the Order, he or she may, under paragraph 2 of Schedule 2 to the Act as applied by paragraph 5 of Schedule 6 to the Act, within 6 weeks from 16 June 2025, make an application to the High Court.

SCHEDULE

PART 1
DESCRIPTION OF SITES OF EXISTING FOOTPATHS
Footpath 94 Pontypridd
Shown A – B on Order Map
That part of the path that commences at point A (NGR ST07528836) and proceeds north to meet Footpaths 95 and 96 Pontypridd in the farmyard at Fforest Uchaf Farm at point B (NGR ST07528846).

Length: 103m
Width: Undefined

Footpath 95 Pontypridd
Shown B – D on Order Map
That part of the path that commences at point B (NGR ST07528846) in the farmyard at Fforest Uchaf Farm and proceeds north-east through a field gate and then cross-field to terminate near the field edge at point D (NGR ST07618854).

Length: 128m
Width: Undefined

Footpath 96 Pontypridd
Shown B – C on Order Map
That part of the path that commences at point B (NGR ST07528846) in the farmyard at Fforest Uchaf Farm and proceeds north along an unmade track adjacent to a pond to terminate at point C (NGR ST07498859).

Length: 138m
Width: Undefined

PART 2
DESCRIPTION OF SITES OF NEW FOOTPATHS
Footpath 94 Pontypridd
Shown A – E – F on Order Map
Commences at point A (NGR ST07528836) at the south boundary of Fforest Uchaf Farm and proceeds east to a gap in a stone wall field boundary at point E (NGR ST07548836) and then north-east along a field edge to another gap in a stone wall field boundary at point F (NGR ST07578838).

Length: 55m
Width: 2m – 3m

Footpath 95 Pontypridd
Shown F– G – D on Order Map
Commences at point F (NGR ST07578838) at a gap in a stone wall field boundary and proceeds north-east and north along a field edge to a gap in a field boundary fence line at point G (NGR ST07628853) before joining Footpaths 95 and 96 Pontypridd at point D (NGR ST07618854).

Length: 192m
Width: 2m – 3m

Footpath 96 Pontypridd
Shown D – H – I – J on Order Map
Commences at point D (NGR ST07618854) and proceeds west through gaps in field boundary fence lines at point H (NGR ST07618855) and point I (NGR ST07598855). It then proceeds north-west crossing a small stream running between two ponds at point J (NGR ST07558856) to join Footpath 96 Pontypridd at point C (NGR ST07498859).

Length: 131m
Width: 2m – 3m

Dated: 16 June 2025

Andrew Wilkins, Director of Legal and Democratic Services, 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 40 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association