Various Locations In South & West Wales - Multiple Traffic Notices
What is happening?
Hysbysiad Statudol
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch
Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
CEFNFFYRDD YR A40, YR A487, YR A4076, YR A477, YR A48, YR A483, YR A465, YR A470, YR A4060, YR A4232, YR A4042, YR A449 A’R A466 A Thraffyrdd YR A48(M), YR M4 A’R M48
(Lleoliadau Amrywiol Yn Ne A Gorllewin Cymru) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn.
Mae angen y Gorchymyn arfaethedig ar sail diogelwch er mwyn cludo llwythi anwahanadwy annormal, (fel y diffinnir “abnormal indivisible loads” yng Ngorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) 2003 (“Gorchymyn 2003”)), gael eu cludo’n ddiogel ar hyd darnau o gefnffyrdd yr A40, yr A487, yr A4076, yr A477, yr A48, yr A483, yr A465, yr A470, yr A4060, yr A4232, yr A4042, yr A449 a’r A466 a thraffyrdd yr A48(M), yr M4 a’r M48 yn Ne a Gorllewin Cymru.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rheini sy’n teithio gyda’r Llwythi Anwahanadwy Annormal wrth iddynt symud, rhag mynd ar hyd darnau o’r cefnffyrdd a’r traffyrdd a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn ar yr adegau hynny a nodir ar arwyddion ac y bydd yr heddlu a/neu’r hebryngwyr a gyflogir yn unol â Gorchymyn 2003 yn hysbysu amdanynt. Ni chynigir llwybrau eraill gan y cynhelir toriad mewn traffig er mwyn caniatáu i lwythi anwahanadwy annormal yn unig gael eu symud ar y cefnffyrdd a’r traffyrdd a bennir.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 1 Mehefin 2025. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau dros dro yn weithredol yn ysbeidiol, fel sy’n ofynnol, o’r dyddiad hwnnw, am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
Y darn o gefnffordd yr A40 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Wdig, Sir Benfro hyd at ffin Cymru/Lloegr i’r dwyrain o Drefynwy, Sir Fynwy, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A40 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Scotchwell hyd at ei chyffordd â’r A4076 wrth Gylchfan Salutation Square, Hwlffordd, Sir Benfro, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol Cylchfan Salutation Square.
Y darn o gefnffordd yr A487 sy’n ymestyn o bwynt 1 cilometr i’r gogledd o Sgwâr Abergwaun, Abergwaun, Sir Benfro hyd at ei chyffordd â Chylchfan Aberteifi, Ceredigion, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol y gylchfan honno.
Y darn o gefnffordd yr A4076 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Salutation Square, Hwlffordd hyd at ei chyffordd â Chylchfan Pont Victoria Road, Aberdaugleddau, Sir Benfro, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A477 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Sanclêr, Sir Gaerfyrddin hyd at ei chyffordd â Chylchfan Waterloo, Doc Penfro, Sir Benfro, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A48 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Pen-sarn, Caerfyrddin, hyd at ei chyffordd â Chylchfan Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau a’r holl ffyrdd ymuno ac ymadael ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A48 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan High Beech, Casgwent hyd at ffin Cymru/Lloegr ger Cas-gwent, Sir Fynwy.
Y darn o gefnffordd yr A48 sy’n ymestyn o’i chyffordd â ffordd ymuno’r M4 wrth Gyfnewidfa Earlswood hyd at ei chyffordd â Chylchfan Sunnycroft, Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A483 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Pont Abraham hyd at ei chyffordd â Chylchfan Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
Y darn o gefnffordd yr A465 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Llandarcy, Castellnedd Port Talbot hyd at ffin Cymru/Lloegr yn Llangiwa, Sir Fynwy, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau a’r holl ffyrdd ymuno ac ymadael ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A470 sy’n ymestyn o Gyfnewidfa Coryton, Caerdydd hyd at ei chyffordd â Chylchfan Tarrell, Aberhonddu, Powys, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau a’r holl ffyrdd ymuno ac ymadael ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A4060 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Abercannaid hyd at ei chyffordd â Chylchfan Dowlais Top, Merthyr Tudful, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A4232 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Capel Llanilltern, a chan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol y gylchfan honno, hyd at Gyfnewidfa Croes Cwrlwys, gan gynnwys pob ffordd ymuno ac ymadael ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A4042 sy’n ymestyn o Gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 hyd at Gyfnewidfa Hardwick, Y Fenni, Sir Fynwy, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol yr holl gylchfannau ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A449 sy’n ymestyn o Gyfnewidfa Coldra, Casnewydd, gan gynnwys ei cherbytffordd gylchredol a’i chyffordd ‘hamburger’, hyd at ei chyffordd â’r A40 wrth Gyfnewidfa Rhaglan, Sir Fynwy, gan gynnwys pob ffordd ymuno ac ymadael ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o gefnffordd yr A466 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â Chylchfan High Beech, Cas-gwent, Sir Fynwy, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol y ddwy gylchfan.
Y darn o draffordd yr A48(M) sy’n ymestyn o’i chyffordd â’r M4 wrth Gyffordd 29 (Cas-bach), Casnewydd, hyd at ei chyffordd â’r A48 Eastern Avenue, Caerdydd, gan gynnwys pob ffordd ymuno ac ymadael ar hyd y llwybr.
Y darn o draffordd yr M4 sy’n ymestyn o ffin Cymru/Lloegr i’r dwyrain o Gyffordd 23 (Rogiet), Sir Fynwy hyd at ei chyffordd â Chylchfan Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys pob ffordd ymuno ac ymadael ar hyd y llwybr hwn.
Y darn o draffordd yr M48 sy’n ymestyn o bwynt 450 o fetrau i’r dwyrain o Gyffordd 2 (Newhouse) hyd at ei chyffordd â’r M4 wrth gyffordd 23 (Rogiet), gan gynnwys pob ffordd ymuno ac ymadael.
Statutory Notice
For a large print copy of this Notice
contact 0300 0604400 or email
Transportordersbranch@gov.wales
A470, A4060, A4232, A4042, A449 And A466 Trunk Roads & The A48(M), M4 And M48 Motorways
(Various Locations In South & West Wales) (Temporary Prohibition Of Vehicles) Order 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is required on safety grounds to permit the safe transportation of abnormal indivisible loads (AIL) (as defined in the Road Vehicle (Authorisation of Special Types) (General) Order 2003 (“the 2003 Order”)), along lengths of the A40, A487, A4076, A477, A48, A483, A465, A470, A4060, A4232, A4042, A449 and A466 trunk roads and the A48(M), M4 and M48 motorways in South and West Wales.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, other than those accompanying the AIL movements, from proceeding along lengths of the trunk roads and motorways described in the Schedule to this Notice at such times as signed and advised by the police and/or attendants employed pursuant to the 2003 Order.
No alternative routes are proposed as a rolling block of vehicles will be used to allow the sole movement of indivisible abnormal loads on the specified trunk roads and motorways.
The Order will come into force on 1 June 2025. The temporary prohibitions are expected to operate intermittently, as required, from that date, for a maximum period of 18 months.
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE
The length of the A40 trunk road that extends from its junction with Goodwick Roundabout, Pembrokeshire to the Wales/England border, east of Monmouth, Monmouthshire, including the circulatory carriageways of all roundabouts along this route.
The length of the A40 trunk road that extends from its junction with Scotchwell Roundabout to its junction with the A4076 at Salutation Square Roundabout, Haverfordwest, Pembrokeshire, including the circulatory carriageway of Salutation Square Roundabout.
The length of the A487 trunk road that extends from a point 1 kilometre north of Fishguard Square, Fishguard, Pembrokeshire to its junction with Cardigan Roundabout, Ceredigion, including the circulatory carriageway of that roundabout.
The length of the A4076 trunk road that extends from its junction with Salutation Square Roundabout, Haverfordwest to its junction with Victoria Road Bridge Roundabout, Milford Haven, Pembrokeshire, including the circulatory carriageways of all roundabouts along this route.
The length of the A477 trunk road that extends from its junction with St Clears Roundabout, Carmarthenshire to its junction with Waterloo Roundabout, Pembroke Dock, Pembrokeshire, including the circulatory carriageways of all roundabouts along this route.
The length of the A48 trunk road that extends from its junction with Pensarn Roundabout, Carmarthen to its junction with Pont Abraham Roundabout, Carmarthenshire, including the circulatory carriageways of all roundabouts and all exit and entry slip roads along this route.
The length of the A48 trunk road that extends from its junction with High Beech Roundabout, Chepstow to the Wales/England border near Chepstow, Monmouthshire.
The length of the A48 trunk road that extends from its junction with the M4 slip road at Earlswood Interchange to its junction with Sunnycroft Roundabout, Neath Port Talbot, including the circulatory carriageways of all roundabouts along this route.
The length of the A483 trunk road that extends from its junction with Pont Abraham Roundabout to its junction with Llandeilo Roundabout, Carmarthenshire.
The length of the A465 trunk road that extends from its junction with Llandarcy Roundabout, Neath Port Talbot to the Wales/England border at Llangua, Monmouthshire, including the circulatory carriageways of all roundabouts and all exit and entry slip roads along this route.
The length of the A470 trunk road that extends from Coryton Interchange, Cardiff to its junction with Tarrell Roundabout, Brecon, Powys, including the circulatory carriageways of all roundabouts and all exit and entry slip roads along this route.
The length of the A4060 trunk road that extends from its junction with Abercanaid Roundabout to its junction with Dowlais Top Roundabout, Merthyr Tydfil, including the circulatory carriageways of all roundabouts along this route.
The length of the A4232 trunk road that extends from its junction with, and includes the circulatory carriageway of, Capel Llanilltern Roundabout to Culverhouse Cross Interchange, including all exit and entry slip roads along this route.
The length of the A4042 trunk road that extends from the M4 Junction 25 (Caerleon) to Hardwick Interchange, Abergavenny, Monmouthshire, including the circulatory carriageways of all roundabouts along this route.
The length of the A449 trunk road that extends from Coldra Interchange, Newport, including its circulatory carriageway and hamburger junction, to its junction with the A40 at Raglan Interchange, Monmouthshire, including all exit and entry slip roads along this route.
The length of the A466 trunk road that extends from its junction with Newhouse Roundabout to its junction with High Beech Roundabout, Chepstow, Monmouthshire, including the circulatory carriageways of both roundabouts.
The length of the A48(M) motorway that extends from its junction with the M4 at Junction 29 (Castleton), Newport to its junction with the A48 Eastern Avenue, Cardiff, including all exit and entry slip roads along the route.
The length of the M4 motorway that extends from the Wales/England border east of Junction 23 (Rogiet), Monmouthshire to its junction with Pont Abraham Roundabout, Carmarthenshire, including all exit and entry slip roads along this route.
The length of the M48 motorway that extends from a point 450 metres east of Junction 2 (Newhouse) to its junction with the M4 at Junction 23 (Rogiet), including all exit and entry slip roads.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: