A44 Trunk Road, West of Llangurig, Powys - Temporary closure due to carriageway works
What is happening?
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A44 (MAN I’R GORLLEWIN O LANGURIG, POWYS)
(GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar Gefnffordd yr A44 i’r gorllewin o Langurig, Powys, neu gerllaw iddi.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd pob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys, gweithredwyr gwasanaethau bysiau rheolaidd neu mewn cysylltiad â’r gwaith, rhag mynd ar y darn o’r A44 sy’n ymestyn o’r gilfan ychydig i’r gorllewin o Capel Uchaf & Cottage i’r gilfan sydd oddeutu 3.43 cilomedr i’r gorllewin o Gyfadeilad Ralio Sweet Lamb. Bydd mynediad ar gael i eiddo drwy gydol y cyfnod hwn.
Llwybrau Dargyfeirio Cerbydau o dan 14 troedfedd 6 modfedd
Y llwybr dargyfeirio ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin yw mynd ar yr A44 tua’r dwyrain i Gylchfan Llangurig, yna tua’r gogledd ar yr A470 i Groesfan Reilffordd Caerswˆs cyn troi i’r chwith a pharhau ar yr A470 i Gylchfan Glantwymyn. Mynd ar yr A489 tua’r de hyd at Dwˆr y Cloc ym Machynlleth, troi i’r chwith i ymuno â’r A487 tua’r de i Aberystwyth cyn troi i’r chwith i ymuno â’r A44 tua’r dwyrain. I’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r dwyrain.
Cerbydau dros 14 troedfedd 6 modfedd (gan osgoi pontydd isel)
Y llwybr dargyfeirio ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin yw mynd ar yr A44 tua’r dwyrain i Gylchfan Llangurig, yna tua’r gogledd ar yr A470 i Groesfan Reilffordd Caerswˆs a thua’r gogledd-ddwyrain ar yr A489 cyn ymuno â Ffordd Osgoi’r Drenewydd i Gylchfan Robert Owen. Parhau i fynd tua’r gogledd ar yr A483 i Gylchfan yr Orsaf yn y Trallwng yna tua’r gogledd ar Smithfield Road / Mill Lane gan ddilyn y system unffordd i ymuno â’r B4381 Brook Street i Gylchfan Raven. Parhau tua’r gorllewin ar yr A458 i Fallwyd, tua’r de ar yr A470 i Lantwymyn, tua’r de-orllewin ar yr A489 i Fachynlleth cyn troi i’r chwith i ymuno â’r A489 i Bow Street. Yn syth ar ôl Gorsaf Reilffordd Bow Street, troi i’r chwith a mynd tua’r de ar yr A4159 i Gylchfan Gelli Angharad cyn troi i’r chwith i ymuno â’r A44 tua’r dwyrain. I’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r dwyrain.
Disgwylir y bydd y gwaharddiad yn dod i rym ar 28 Mai 2025 gan gau’r ffordd dros nos am gyfnod (19:00 i 07:00 o’r gloch) ac wedyn gan gau’r ffordd yn ystod y dydd am gyfnod (09:00 i 17:00) hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
THE A44 TRUNK ROAD (WEST OF LLANGURIG, POWYS)
(TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984 which is necessary to undertake works on or near the A44 Trunk Road west of Llangurig, Powys.
The effect of the proposed Order will be to prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services, scheduled bus service operators or in connection with the works, from proceeding on the length of the A44 that extends from the layby just west of Capel Uchaf & Cottage to the layby approximately 3.43 kilometres to the west of the Sweet Lamb Rally Complex. Access to properties will be maintained at all times.
Diversion Routes Vehicles under 14ft 6”
The diversion route for westbound vehicles is via the eastbound A44 to the Llangurig Roundabout, then northbound on the A470 to the Caersws Level Crossing before turning left and continuing on the A470 to the Cemmaes Road Roundabout. Taking the southbound A489 to the Clock Tower at Machynlleth, turning left onto the southbound A487 to Aberystwyth before turning left onto the eastbound A44. Vice-versa for eastbound vehicles.
Vehicles above 14ft 6” (avoiding low bridges)
The diversion route for westbound vehicles is via the eastbound A44 to the Llangurig Roundabout, then northbound on the A470 to the Caersws Level Crossing and northeast on the A489 before joining the Newtown Bypass to the Robert Owen Roundabout. Continue north on the A483 to the Station Roundabout at Welshpool then north on Smithfield Road / Mill Lane following the one-way system to join the B4381 Brook Street to the Raven Roundabout. Continue west on the A458 to Mallwyd, south on the A470 to Glantwymyn, southwest on the A489 to Machynlleth before turning left onto the A489 to Bow Street. Immediately after Bow Street Railway Station, turn left and head south on the A4159 to the Gelli Angharad Lovesgrove Roundabout before turning left onto the eastbound A44. Vice-versa for eastbound vehicles.
It is expected that the prohibition will come into force on 28 May 2025 and operate with a phase of overnight closures (19.00 to 07:00) hours followed by a phase of daytime closures (09:00 to 17:00) until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to operate during the period specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Advance notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work.
J SADDLER, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Brecon & Radnor Express directly at: