Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Carmarthen - Special Parking Area Order

SA15 3TRPublished 01/05/25
Carmarthen Journal • 

What is happening?

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin)
Ardal Barcio Arbenning (Mannau Parcio i Breswylwyr)
(Amrywiad Rhif 7) 2025

HYSBYSIR drwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyddin, ar yr 28ain dydd o Ebrill 2025, wedi gwneud Gorchymyn dan Adrannau 45, 46, 49, 53 a 124 o, a Rhan IV o Atodlen 9 i, Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), Deddf Rheoli Traffig 2004 a’r holl bwerau galluogi eraill.

Effaith y Gorchymyn fydd:
Addasu ‘Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) Ardal Barcio Arbennig (Mannau Parcio i Breswylwyr) 2004’ (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”) trwy greu parthau parcio ychwanegol fel y nodir ar y cynlluniau sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn, yn dynodi Ardaloedd BS136 a BS137 lle bydd mannau parcio i breswylwyr yn cael eu darparu rhwng 8.00 A.M. a 6.00 P.M. bob dydd ac eithrio dydd Sul, ar y ffordd a nodir ar y cynlluniau dywededig ac a ddisgrifir yn fwy penodol yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn.

Yn ystod y dyddiau a’r oriau dywededig, bydd y Gorchymyn yn gwahardd unrhyw barcio ar y ffordd ar wahân i gerbydau sy’n arddangos hawlen barcio ddilys a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Gall preswylwyr sy’n byw yn y parthau parcio wneud cais am hawlen.

Canlyniad yr addasiad yw cyfyngu’r aros i breswylwyr yn unig, Dydd Llun i Ddydd Sadwrn rhwng 8.00 A.M. a 6.00 P.M. ar y ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol, ar y cynlluniau sy’n cynnwys y rhifau cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen ddywededig ar gyfer yr ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1, y dylid darllen y cynlluniau dywededig ar y cyd â’r Gorchymyn ac sy’n ffurfio rhan o’r un peth.

2. Bydd y paragraff canlynol yn cael ei gyfnewid am baragraff (i) o Erthygl 8 o’r Gorchymyn Cyngrynhoi:

(i) Y tâl am roi hawlen barcio i breswylwyr gan y Cyngor, a fydd yn ddilys am ddeuddeg mis, fydd £40.00.

3. Bydd y paragraff canlynol yn cael ei gyfnewid am baragraff (ii) o Erthygl 8 o’r Gorchymyn Cydgrynhoi:

(ii) Codir tâl o £40.00 am roi hawlen barcio i ymwelwyr gan y Cyngor i breswylydd.

4. Bydd y paragraff canlynol yn cael ei gyfnewid am baragraff (iv) o Erthygl 8 o’r Gorchymyn Cydgrynhoi:

(iv) Am bob hawlen barcio newydd y bydd ei hangen yn lle hawlen a gollwyd, a dreuliwyd neu a ddifrodwyd, codir tâl o £40.00 ar breswylwyr a £50.00 ar fusnesau. Bydd y cyfryw hawlenni yn ddilys am ddeuddeg mis o’r dyddiad cyflwyno. Codir £40.00 am ddarparu hawlen newydd i ymwelwyr cyn pen deuddeg mis o’r dyddiad cyflwyno.

5. Dirymu ‘Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) Ardal Barcio Arbennig (Llefydd Parcio i Breswylwyr) (Amrywiad Rhif 2) 2011’ i’r graddau y mae’n ymwneud â’r ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol, ar y cynllun sy’n cynnwys y rhif cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen ddywededig ar gyfer yr ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1, y dylid darllen y cynllun dywededig ar y cyd â’r Gorchymyn ac sy’n ffurfio rhan o’r un peth.

Dehonglir a bernir bod y parthau parcio a'r ffyrdd y cyfeirir atynt yn rhan o'r Gorchymyn Cydgrynhoi a byddant yn ddarostyngedig i'r telerau a'r amodau sydd ynddo, sy'n cynnwys esemptiadau i deithwyr esgyn i gerbyd neu ddisgyn ohono, ynghyd â llwytho a dadlwytho nwyddau, cyflawni gwaith adeiladu a gwaith arall, a chyflawni pwerau neu ddyletswyddau statudol. Hefyd, mae'n cynnwys esemptiadau ar gyfer cerbyd pobl anabl sy'n arddangos disg parcio yn y modd a ragnodir gan Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Cymru) 2000, ac ar gyfer beiciau modur.

Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar y 9fed dydd o Fai 2025 a gall gais am gopi o’r Gorchymyn, ynghyd â chynlluniau yn nodi’r darnau ffyrdd yr effeithir arno, gael ei wneud drwy gysylltu ag Adran Priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystod oriau swyddfa arferol.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, ar y sail:

1. nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan y Ddeddf; neu

2. na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad yn y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, mewn perthynas â’r Gorchymyn,

wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn o fewn chwe (6) wythnos o’r dyddiad y gwnaed y Gorchymyn.

Wendy Walters, Y Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
DYDDIEDIG y 30ain dydd o Ebrill 2025

Cyfeirnod y Ffeil: HMD/HTTR-1784
Llinell Uniongyrchol: 01267 224066
E-bost: HeMDavies@sirgar.gov.uk

ATODLEN 1 - Mannau Parcio I Breswylwyr Yn Unig, Dydd Llun I Ddydd Sadwrn Rhwng 8.00 A.m. A 6.00 P.m.

1 Ardal 2 Enw/Disgrifiad o’r Ffordd 3 Cyfeirnod Map
Caerfyrddin Y Llannerch BS136 a BS137

ATODLEN 2
Dirymu Mannau Parcio Presennol I 
Breswylwyr Yn Unig, Dydd Llun I
Ddydd Sadwrn Rhwng 8.00 A.m. A 6.00 P.m.

1 Ardal 2 Enw/Disgrifiad o’r Ffordd 3 Cyfeirnod Map
Caerfyrddin Rhes Tabernacl BR136

The County of Carmarthenshire (Carmarthen)
Special Parking Area (Residential Parking Places)
(Variation No.7) Order 2025

NOTICE is hereby given that, on the 28th day of April 2025, Carmarthenshire County Council made an Order under Sections 45, 46, 49, 53 and 124 of, and Part IV of Schedule 9 to, the Road Traffic Regulations Act 1984 (as amended), the Traffic Management Act 2004 and all other enabling powers.

The effect of the Order will be:
1. To modify ‘The County of Carmarthenshire (Carmarthen) Special Parking Area (Resident Parking Places) Order 2004’ (“the Consolidation Order”) by the creation of additional parking zones identified on the plans annexed to the Order, denoting Areas BS136 and BS137 whereby residents parking places will be provided between the hours of 8.00 A.M. and 6.00 P.M. on all days except Sunday, on the road shown on the said plans and more particularly described in Schedule 1 to this Notice.

During the said days and hours of operation, the Order will prohibit any parking on the road except vehicles displaying a valid parking permit issued by Carmarthenshire County Council. Residents who reside within the parking zones may apply for permits.

The consequence of the modification is to limit waiting to residents only, Monday to Saturday between the hours of 8.00 A.M. and 6.00 P.M. on the road briefly described in column 2 of Schedule 1 to this Notice but more particularly shown on the plans bearing the unique reference numbers specified in column 3 of the said Schedule for the locality described in column 1 thereof, which said plans are to be read in conjunction with the Order and form part of the same.

2. Paragraph (i) of Article 8 of the Consolidation Order will be substituted for the following paragraph:
(i) The charge of the issue of a resident’s parking permit by the Council, having a validity of twelve months, shall be £40.00.

3. Paragraph (ii) of Article 8 of the Consolidation Order will be substituted for the following paragraph:

(ii) There shall be a charge of £40.00 for the issue of a visitor’s parking permit to a resident by the Council.

4. Paragraph (iv) of Article 8 of the Consolidation Order will be substituted for the following paragraph:

(iv) The charge for the issue of a replacement of lost, worn or damaged permit shall be £40.00 per resident’s parking permit and £50.00 per business permit, which shall be valid for twelve months from the date of re-issue, and £40.00 per visitor’s parking permit when replaced within twelve months from the date of re-issue.

5. To revoke ‘The County of Carmarthenshire (Carmarthen) Special Parking Area (Residents Parking Places) (Variation No.2) Order 2011’ insofar as the same relates to the road briefly described in column 2 of Schedule 2 to this Notice but more particularly shown on the plan bearing the unique reference number specified in column 3 of the said Schedule for the locality described in column 1 thereof, which said plan is to be read in conjunction with the Order and forms part of the same.

The parking zones and roads referred to will be construed and deemed to form part of the Consolidation Order and will be subject to the terms and conditions contained therein, which include exemptions for passengers to board or alight from a vehicle, for the loading and unloading of goods, for carrying out of building operations and other works, and for the performance of statutory powers or duties. It also contains exemptions for a disabled person’s vehicle which displays a parking disc in the manner prescribed by the Local Authorities Traffic Order (Exemptions for Disabled Persons) (Wales) Regulations 2000, and for motorcycles.

The Order will come into operation on the 9th day of May 2025 and a copy of the Order, together with plans indicating the roads affected, can be requested by contacting Carmarthenshire County Council’s Highways Department during normal office hours.

Any person wishing to question the validity of the Order, or any provision contained in it, on the grounds that:

1. it is not within the powers conferred by the Act; or

2. a requirement of the Act, or of any instrument made under it, has not been complied with in relation to the Order, may, within six (6) weeks of the date on which the Order was made, apply to the High Court for this purpose.

Wendy Walters, Chief Executive, County Hall, Carmarthen
DATED this 30th day of April 2025

File Reference: HMD/HTTR-1784

Direct Line: 01267 224066

E-mail: HeMDavies@carmarthenshire.gov.uk 

SCHEDULE 1 - Residents-Only Parking,
Monday To Saturday Between The Hours Of 8.00 A.m. And 6.00 P.m.

1 Locality 2 Name/Description of Road 3 Map Reference
Carmarthen The Esplanade BS136 & BS137

SCHEDULE 2 - Revocation Of Existing Residents-Only Parking,
Monday To Saturday Between The Hours Of 8.00 A.m. And 6.00 P.m.

1 Locality 2 Name/Description of Road 3 Map Reference
Carmarthen Tabernacle Terrace BR136

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Carmarthen Journal directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 40 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association