A40, Robeston Wathen Roundabout to Pengawse Hill Junction, Pembrokeshire - Temporary Road Closures and Speed Restrictions
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu e-bostiwch Trafnidiaeth. YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A40 (CYLCHFAN ROBESTON WATHEN I GYFFORDD PENGAWSE HILL, SIR BENFRO) (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2025
MAE GWNEUDIGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneuthur gwaith ar gefnffordd yr A40, neu gerllaw iddi, rhwng Cylchfan Robeston Wathen a Chyffordd Pengawse Hill yn Sir Benfro.
Effaith y Gorchymyn yw gwneuthur y canlynol dros dro:
i) gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys) rhag mynd ar y darn o’r A40 a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybrau eraill, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn Atodlen 4 i’r Hysbysiad hwn. Ni fydd cerbydau llwyth annarweddol annormal yn gallu defnyddio’r llwybrau eraill a byddant yn cael eu cadw yn y cilfanau a bennir yn Atodlen 5 i’r Hysbysiad hwn ac yna eu hebryngw drwy’r gwaith gan system rheoli traffig;
ii) gwahardd pob beicwyr a cherddwyr rhag mynd ar y darn o’r A40 a bennir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybrau eraill, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn Atodlen 4 i’r Hysbysiad hwn;
iii) gwahardd pob cerbyd rhag aros yn ystod adegau penodol ar y darn o’r A40 a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn;
iv) gosod terfyn cyflymder o 50, 40 neu 30 milltir yr awr ar bob cerbyd (ac eithrio unhyw gerbyd a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys), yn ôl y gofyn, ar y darn o’r A40 a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn;
v) gosod terfyn cyflymder o 10 milltir yr awr ar y darn o’r gefnffordd a bennir yn Atodlen 3 i’r Hysbysiad hwn a gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys rhag goddiweddyd pan fo’r terfyn cyflymder o 10 milltir yr awr ar y terfynau cyflymder a bennir yn Atodlen honno yn weithredol;
vi) gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys) rhag troi i’r dde neu i’r chwith ar y darnau o’r A40 a bennir yn Atodlen 6 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybrau eraill, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn yr Atodlen honno hefyd.
Disgrifir y bydd cau’r ffyrdd dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym am 00:01 o’r gloch ar 26 Ebrill 2025 ac yn weithredol yn ysbeidiol dros nos rhwng 19:00 o’r gloch a 06:00 o’r gloch am 18 mis ar y mwyaf. Bydd y terfynau cyflymder dros dro yn weithredol drwy’r amser pan na fydd yr A40 wedi ei chau. Bydd y gwaharddiadau rhag troi i’r dde neu i’r chwith yn weithredol yn ôl y gofyn.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar
https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd Cerbydau, Gwahardd Aros a Therfynau Cyflymder 50, 40 neu 30 mya Dros Dro
Y darn o gefnffordd yr A40 (ar hyd y lonydd aliniad presennol a lonydd aliniad newydd) sy’n ymestyn o Gylchfan Robeston Wathen hyd at ei chyffordd â’r ffordd ddiddosbarth sy’n arwain at Pengawse Hill, gan gynnwys pob cilfan ac eithrio’r gilfan sydd wedi ei lleoli ar y gerybffordd tua’r dwyrain yn union i’r gorllewin o Gylchfan Penblewin a’r ardal orffwys ym Mhenblewin.
ATODLEN 2
Gwahardd Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro
Y darn o gefnffordd yr A40 (ar hyd y lonydd aliniad presennol a lonydd aliniad newydd) sy’n ymestyn o’r ffordd ddiddosbarth sy’n arwain at y man aneddi’ o’r enw Jacobs Park hyd at ei chyffordd â’r ffordd ddiddosbarth sy’n arwain at Pengawse Hill, gan gynnwys pob cilfan ac eithrio’r gilfan sydd wedi ei lleoli ar y gerybffordd tua’r dwyrain yn union i’r gorllewin o Gylchfan Penblewin a’r ardal orffwys ym Mhenblewin.
ATODLEN 3
Terfyn cyflymder 10 mya Dros Dro a Dim Goddiweddyd
Y darn o gefnffordd yr A40 (ar hyd y lonydd aliniad presennol a lonydd aliniad newydd) sy’n ymestyn o Gylchfan Robeston Wathen hyd at bwynt 75 metr i’r gorllewin o’r fynedfâ i’r adeilad o’r enw Maes-y-Ffynnon.
ATODLEN 4
Y Llwybrau Eraill i bob Cerbyd ac eithrio Cerbydau Llwyth Annormal, Cerddwyr a Beicwyr
Y llwybr arall ar gyfer pob cerbyd ac eithrio cerbydau Llwyth Annormal sy’n dymuno teithio tua’r dwyrain ar yr A40 o Gylchfan Pont Canaston fydd mynd ar yr A40 tua’r gorllewin i Gylchfan Scotchwell, ar yr A4076 tua’r gorllewin i Gylchfan Sgwâr Salutation yn Hwlffordd, ar yr A40676 tua’r de i Gylchfan Sunnycroft, ar yr A477 tua’r de i Ddoc Penfro ac yna ar yr A477 tua’r dwyrain i Gylchfan Sanclêr i ail-ymuno â’r A40. Y llwybr arall ar gyfer pob traffig sy’n dymuno teithio tua’r gorllewin o Gyffordd Pengawse Hill fydd mynd ar yr A40 tua’r dwyrain i Gylchfan Sanclêr ac yna i’r gwrthwyneb i’r uchod.
Os bydd gwyntoedd cryfion neu waith cynnal a chadw yn peri bod angen cau Pont Cleddau, byddai’r llwybr arall a ganlyn ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain yn cael ei ddefnyddio: o Gylchfan Pont Canaston, mynd ar yr A4075 tua’r de i Cross Hands, ar yr A4115 tua’r dwyrain i Dredemel, ar yr A478 tua’r de i Gilgeti ac ar yr A477 tua’r dwyrain i Sanclêr. Byddai’r llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin i’r gwrthwyneb.
Ni fydd cerbydau llwyth annormal yn gallu defnyddio’r llwybrau eraill a ddisgrifir uchod a bydd yn ofynnol iddynt ddilyn y llwybr arall yn Atodlen 5.
Bydd darpariaeth yn cael ei wneud i sicrhau bod llwybrau eraill ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn cael eu cynnal drwy’r amser a bod arwyddion wedi eu cod i gynghlych y llwybrau hyn. Bydd llwybrau troetffyrdd sy’n croesi’r A40 a/neu o’r gylch sy’n gyfagos i’r A40 hefyd yn cael eu cynnal.
ATODLEN 5
Y Llwybr Arall ar gyfer Cerbydau Llwyth Annormal sy’n dymuno teithio tua’r gogledd o Gylchfan Penblewin
Bydd cerbydau Llwyth Annormal sy’n dymuno teithio tua’r gogledd o Gylchfan Penblewin yn cael eu cadw hyd nes y bydd yn ddiogel teithio drwy’r gwaith gan fod y llwybrau eraill a bennir yn Atodlen 4 uchod yn annaddas i’r traffig hwn. Bydd cerbydau’n cael eu cadw yn y gilfan bresennol ar gerybffordd tua’r gorllewin yr A40 yn union i’r dwyrain o Gylchfan Sanclêr ac yn y gilfan bresennol ar gerybffordd tua’r dwyrain yr A40 yn union i’r gorllewin o Gylchfan Pont Canaston.
ATODLEN 6
Gwahardd Troi i’r Dde / i’r Chwith Dros Dro a’r Llwybrau Eraill
Dim troi i’r dde o gerybffordd tua’r dwyrain cefnffordd yr A40 i fynd ar B4313 Redstone Road.
Y llwybr arall ar gyfer pob traffig sy’n teithio tua’r dwyrain sy’n dymuno ymuno â’r A40 fydd ymuno â’r B4314 tua’r de-ddwyrain wrth Gylchfan Robeston Wathen i Arberth. Bydd rhybudd ymlaen llawn ynghylch cau’r ffordd a’r gwyriad yn cael ei osod gyfagos i’r gerybffordd tua’r dwyrain cyn Cylchfan Robeston Wathen, a chodir arwyddion ynghylch y gwyriad o’r gylchfan. Bydd arwyddion yn cael eu rhoi i ddangos gwyriad eiliaid (ar gyfer gyrwyr sy’n methu’r arwyddion ymlaen llaw) gan fynd â’r traffig i gyfeiriad y dwyrain ar hyd yr A40 i Gylchfan Penblewin i ddychwelyd tua’r gorllewin ar yr A40 i ymuno â’r gylchfan tua’r dwyrain uchod.
Dim troi i’r chwith o gerybffordd tua’r gorllewin cefnffordd yr A40 i fynd ar y B4313 Redstone Road.
Y llwybr arall ar gyfer pob traffig sy’n teithio tua’r gorllewin sy’n dymuno ymuno â’r A40 fydd ymuno â’r B4314 tua’r de wrth Gylchfan Robeston Wathen i Arberth. Bydd rhybudd ymlaen llawn ynghylch cau’r ffordd a’r gwyriad yn cael ei osod gyfagos i’r gerybffordd tua’r gorllewin cyn Cylchfan Robeston Wathen, a chodir arwyddion ynghylch y gwyriad o’r gylchfan.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice, contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A40 TRUNK ROAD (ROBESTON WATHEN ROUNDABOUT TO PENGAWSE HILL JUNCTION, PEMBROKESHIRE) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS) ORDER 2025
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A40 trunk road between Robeston Wathen Roundabout and Pengawse Hill Junction in the County of Pembrokeshire.
The effect of the Order is to temporarily:
i) prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services) from proceeding on the length of the A40 specified in Schedule 1 to this Notice. The alternative routes, which will be signed accordingly, are described in Schedule 4 to this Notice. Abnormal indivisible load vehicles will not be able to use the alternative routes and will be held in the laybys specified in Schedule 5 to this Notice and then escorted through the works by traffic management;
ii) prohibit all cyclists and pedestrians from proceeding on the length of the A40 specified in Schedule 2 to this Notice. The alternative routes, which will be signed accordingly, are described in Schedule 4 to this Notice;
iii) prohibit all vehicles from waiting during specific times on the length of the A40 specified in Schedule 1 to this Notice;
iv) impose a 50, 40 or 30 miles per hour speed limit on all vehicles (other than any vehicle being used by the emergency services), as required, on the length of the A40 specified in Schedule 1 to this Notice;
v) impose a 10 miles per hour speed limit on the length of the trunk road specified in Schedule 3 to this Notice and prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services) from overtaking when the 10 miles per hour speed limit and the speed limits specified at part iv. above are in operation;
vi) prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services) from making a right-hand or a left-hand turn in the lengths of the A40 specified in Schedule 6 to this Notice. The alternative routes, which will be signed accordingly, are also described in that Schedule.
The temporary road closure which will be signed accordingly is expected to come into force at 00:01 hours on 26 April 2025 and operate intermittently overnight between 19:00 hours and 06:00 hours for a maximum duration of 18 months. The temporary speed limits will be in operation at all times when the A40 is not closed. The no right or left-hand turn will be in force as required.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Temporary Prohibition of Vehicles, Prohibition of Waiting and 50, 40 or 30 mph Speed Limits
The length of the A40 trunk road (along existing and new alignment lanes) that extends from Robeston Wathen Roundabout to its junction with the unclassified road leading to Pengawse Hill, including all laybys with the exception of the layby situated on the eastbound carriageway immediately west of Penblewin Roundabout and the rest area at Penblewin.
SCHEDULE 2
Temporary Prohibition of Cyclists and Pedestrians
The length of the A40 trunk road (along existing and new alignment lanes) that extends from the unclassified road leading to the dwelling known as Jacobs Park to its junction with the unclassified road leading to Pengawse Hill, including all laybys with the exception of the layby situated on the eastbound carriageway immediately west of Penblewin Roundabout and the rest area at Penblewin.
SCHEDULE 3
Temporary 10 mph Speed Limit and No Overtaking
The length of the A40 trunk road (along existing and new alignment lanes) that extends from Robeston Wathen Roundabout to a point 175 metres west of the entrance to the dwelling known as Maes-Y-Ffynnon.
SCHEDULE 4
Alternative Routes for all Vehicles other than Abnormal Load Vehicles, Pedestrians and Cyclists
The alternative route for all vehicles other than Abnormal Load vehicles wishing to travel east on the A40 from Canaston Bridge Roundabout will be via the westbound A40 to Scotchwell Roundabout, westbound A4076 to Salutation Square Roundabout in Haverfordwest, southbound A4076 to Sunnycroft Roundabout, southbound A477 to Pembroke Dock and then eastbound A477 to St Clears Roundabout to re-join the A40. The alternative route for all traffic wishing to travel west from Pengawse Hill Junction will be via the eastbound A40 to St Clears Roundabout and then vice versa the above.
In the event of high winds or maintenance operations necessitating the closure of the Cleddau Bridge, the following alternative route for eastbound traffic would be utilised: from Canaston Bridge Roundabout via the southbound A4075 to Cross Hands, eastbound A4115 to Templeton, southbound A478 to Kilgetty and eastbound A477 to St. Clears. The alternative route for westbound traffic would be vice versa.
Abnormal load vehicles will not be able to use the alternative routes described above and will require to follow the alternative in Schedule 5.
Provision will be made to ensure alternative routes for cyclists and pedestrians are maintained at all times and signposted. Footway routes which cross the A40 and or from the works adjacent to the A40 will also be maintained.
SCHEDULE 5
Alternative Route for Abnormal Load Vehicles wishing to travel north from Penblewin Roundabout
Abnormal Load vehicles wishing to travel north from Penblewin Roundabout will be held until it is safe to travel through the works as the alternative routes specified in Schedule 4 above are unsuitable for this traffic. Vehicles will be held in the existing layby on the westbound carriageway of the A40 immediately to the east of St Clears Roundabout and in the existing layby on the eastbound carriageway of the A40 immediately to the west of Canaston Bridge Roundabout.
SCHEDULE 6
Temporary Prohibition of Right Hand/ Left Hand Turns and Alternative Routes
No right-hand turn from the A40 trunk road eastbound carriageway on to the B4313 Redstone Road.
The alternative route for all eastbound traffic wishing to exit the A40 will be to join the south eastbound B4314 at Robeston Wathen Roundabout to Narberth. Advance warning of the road closure and diversion will be posted adjacent to the eastbound carriageway in advance of Robeston Wathen Roundabout, with the diversion posted from the roundabout. A secondary diversion (for drivers who miss the advance signing) will be posted taking traffic east along the A40 to Penblewin Roundabout to return west on the A40 to follow the above eastbound diversion.
No left-hand turn from the A40 trunk road westbound carriageway on to the B4313 Redstone Road. The alternative route for all westbound traffic wishing to exit the A40 will be to join the southbound B4314 at Robeston Wathen Roundabout to Narberth. Advance warning of the road closure and diversion will be posted adjacent to the westbound carriageway in advance of Robeston Wathen Roundabout, with the diversion posted from the roundabout.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Telegraph directly at: