Dyffryn Farm, Bynea - Notice of Application For Order To Stop Up A Highway
What is happening?
HYSBYSIAD YNGHYLCH CAIS AM ORCHYMYN I GAU PRIFFORDD ADRAN 116 O DDEDDF PRIFFYRDD 1980
HYSBYSIR bod Cyngor Sir Caerfyrddin, fel yr awdurdod priffyrdd, yn bwriadu gwneud cais i’r Llys Ynadon yn Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli SA15 3AW ddydd Gwener yr 16eg o Fai 2025 am 12 canol dydd, am orchymyn i gau, yn ei chyfanrwydd, y briffordd a leolir yng nghwrtil de-ddwyreiniol yr eiddo a adwaenir fel Fferm Dyffryn, y Bynea yn Sir Gaerfyrddin, sy’n cysylltu o’r Ffordd Ddiddosbarth (Cyfeirnod U2328) a leolir tua 20 metr i’r de-ddwyrain o’r groesfan reilffordd a adwaenir fel ‘Croesfan Dyffryn’ ac yn parhau i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at y gyffordd â’r Ffordd Ddiddosbarth (Cyfeirnod U2328) sy’n arwain i Barc Carafannau Pen-y-bryn, ac sy’n gyfagos i gwrtil gogleddol Parc Gwyliau Gateway, y mae’r lleoliad wedi’i nodi ar y cynllun sydd wedi’i gynnwys yn yr Hysbysiad hwn ac sy’n cael ei ddarlunio gan y rhannau wedi’u hamlinellu ac wedi’u croeslinellu’n goch arno, at ddibenion Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980, ar y sail ei bod yn ddiangen.
Mae’r darn o’r Ffordd Ddiddosbarth sydd i’w gau yn ymestyn am tua 61 metr i gyfeiriad cyffredinol y gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain.
Gellir archwilio copi o’r cynllun yn HWB Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR rhwng 9.00A.M. a 5.00P.M.
Dydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 9.00A.M. a 4.30P.M. ar ddydd Gwener.
Cyfeirnod y Ffeil: HMD/HT-0502, Llinell Uniongyrchiol: 01267 224066
E-bost: HeMDavies@sirgar.gov.uk
Dyddiedig y 9fed dydd o Ebrill 2025
Wendy Walters, Y Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
NOTICE OF APPLICATION FOR ORDER TO STOP UP A HIGHWAY SECTION 116 HIGHWAYS ACT 1980
TAKE NOTICE that Carmarthenshire County Council, as the highway authority, intends to apply to the Magistrates’ Court, sitting at Town Hall Square, Llanelli SA15 3AW on Friday 16th May 2025 at 12 noon, for an order that the entire length of the highway located within the south-eastern curtilage of the property known as Dyffryn Farm, Bynea in the County of Carmarthenshire, connecting from the Unclassified Road (Reference U2328) located approximately 20 metres south-east of the railway crossing known as ‘Dyffryn Crossing’ and continuing in a south-easterly direction to its junction with the Unclassified Road (Reference U2328) that leads onto Penybryn Caravan Park, and is adjacent to the northern curtilage of the Gateway Holiday Park, the position of which is indicated on the plan included with this Notice and represented by the parts edged and cross-hatched red thereon, shall, for the purposes of Section 116 of the Highways Act 1980, be stopped up on the ground that it is unnecessary.
The length of the Unclassified Road to be stopped up extends for a distance of approximately 61 metres in a general north-westerly to south-easterly direction.
A copy of the plan may be inspected at Carmarthenshire County Council’s Customer Service HWB at 36 Stepney Street, Llanelli SA15 3TR between the hours of 9.00A.M. and 5.00P.M. Monday to Thursday and between the hours of 9.00A.M. and 4.30P.M. on Friday.
File Reference: HMD/HT-0502
Email: HeMDavies@carmarthenshire.gov.uk
Direct Line: 01267 224066
Dated this 9th day of April 2025
Wendy Walters, Chief Executive, County Hall, Carmarthen
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Llanelli Star Series directly at: