A40 Trunk Road - Temporary Prohibition of Vehicles For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A40 (FFORDD OSGOI CAERFYRDDIN, SIR GAERFYRDDIN) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar yr A40 Ffordd Osgoi Caerfyrddin, neu gerllaw iddi, yn Sir Gaerfyrddin.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A40 a bennir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybr arall yn yr Atodlen honno hefyd.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 23 Ebrill 2025. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro ar y prif gerbytffordd yn weithredol dros nos (20:00 – 06:00 o’r gloch) rhwng 23 Ebrill a 21 Mai 2025, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol. Bydd angen cau’r cilfannau a ddisgrifir yn yr Atodlen 24 awr y dydd ar adegau yn ystod cyfnod y gwaith hefyd, a bydd arwyddion traffig a osodir ymlaen llaw yn dangos pryd y bydd y cilfannau ar gau.
Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-cau
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
1. Y darn o gefnffordd yr A40 sy’n ymestyn o’i chyffordd ag ochr ogledd-ddwyreiniol Cylchfan Pen-sarn hyd at ei chyffordd ag ochr dde-orllewinol Cylchfan Glangwili, Caerfyrddin.
Y llwybr arall
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain fydd mynd ar hyd yr A48 tua’r dwyrain i Gylchfan Cross Hands, yr A476 tua’r gogledd-ddwyrain drwy Garmel i Ffairfach a’r A483 tua’r gogledd drwy Landeilo i ymuno â’r A40 tua’r gorllewin: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin.
2. Y darn o’r gilfan gyfagos i gerbytffordd tua’r gogledd-ddwyrain cefnffordd yr A40 a leolir 1.42 cilometr i’r gogledd o Gylchfan Llangynnwr, Caerfyrddin.
3. Y darn o’r gilfan gyfagos i gerbytffordd tua’r de-orllewin cefnffordd yr A40 a leolir 540 o fetrau i’r de o Gylchfan Glangwili, Caerfyrddin.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A40 TRUNK ROAD (CARMARTHEN BYPASS, CARMARTHENSHIRE)
(TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A40 Carmarthen Bypass, Carmarthenshire.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services or for the works, from proceeding on the lengths of the A40 trunk road specified in the Schedule to this Notice. The alternative route is also described therein.
The Order will come into force on 23 April 2025. The temporary prohibition on the main carriageway is expected to operate overnight (20:00 – 06:00 hours) from 23 April until 21 May 2025, or until the temporary traffic signs are permanently removed. 24-hour closures of the lay-bys described in the Schedule will also be required during the works period, and these will be indicated by advance traffic signs.
Although the Order is only expected to be in force during the period specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work begins.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/stopping-orders
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE
1. The length of the A40 trunk road that extends from its junction with the northeastern side of Pensarn Roundabout to its junction with the south-western side of Glangwili Roundabout, Carmarthen.
Alternative route
The alternative route for eastbound traffic will be via the eastbound A48 to Cross Hands Roundabout, north-eastbound A476 via Carmel to Ffair-fach and northbound A483 through Llandeilo to join the westbound A40: vice versa for westbound traffic.
2. The length of the lay-by adjacent to the north-eastbound carriageway of the A40 trunk road that is located 1.42 kilometres north of Llangynnwr Roundabout, Carmarthen.
3. The length of the lay-by adjacent to the south-westbound carriageway of the A40 trunk road that is located 540 metres south of Glangwili Roundabout, Carmarthen.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Carmarthen Journal directly at: