The A40 Trunk Road, Trecastle, Powys - Temporary Prohibition Of Vehicles
What is happening?
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A40 (TRECASTELL, POWYS) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 2025
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A40, neu gerllaw iddi, yn Nhrecastell, Powys.
Effaith y Gorchymyn yw gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr
A40 sy’n ymestyn o bwynt 250 o fetrau i’r gogledd-ddwyrain o gornel ogledd-ddwyreiniol Bythynnod Pendre hyd at bwynt 75 o fetrau i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt y fynedfa ogledd-orllewinol i’r gilfan ym mhen gorllewinol Trecastell. Sicrheir mynediad i eiddo lleol, pan fo’n bosibl.
Y llwybr arall ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r dwyrain yw mynd ar yr A40 tua’r gorllewin i Lanymddyfri, yr A483 tua’r gogledd-ddwyrain i Lanfair-ym-Muallt, yr A470 tua’r de i Aberhonddu a’r A40 tua’r gorllewin: i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 24 Mawrth 2025. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol yn ysbeidiol rhwng 19:00 o’r gloch ar 24 Mawrth a 07:00 o’r gloch ar 1 Ebrill 2025, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
THE A40 TRUNK ROAD (TRECASTLE, POWYS)
(TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 2025
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A40 trunk road at Trecastle, Powys.
The effect of the Order is to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services or for the works, from proceeding on the length of the A40 trunk road that extends from a point 250 metres north-east of the
north-eastern corner of Pendre Cottages to a point 75 metres north-west of the centre-point of the north-western access to the lay-by at the western end of Trecastle. Access to local properties will be maintained, where possible.
The alternative route for eastbound vehicles is via the westbound A40 to Llandovery, north-eastbound A483 to Builth Wells, southbound A470 to Brecon and westbound A40: vice-versa for westbound vehicles.
The Order comes into force on 24 March 2025. The temporary prohibition is expected to operate intermittently from 19:00 hours on 24 March until 07:00 hours on 1 April 2025, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to be in force during the period specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required.
Notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work begins.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders
J SADDLER, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Brecon & Radnor Express directly at: