Cardiff - New Traffic Orders
What is happening?
Gorchmynion Traffig Newydd Ar Gyfer Dinas A Sir Caerdydd
Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, ar 10 Mawrth 2025, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill, wedi gwneud gorchmynion rheoli traffig a fydd yn gosod cyfyngiadau traffig ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Nodir teitl a natur y Gorchmynion yn yr Atodlen honno hefyd.
Daw’r Gorchmynion i rym ar 17 Mawrth 2025 neu ar y dyddiad y gosodir y llinellau a’r arwyddion angenrheidiol ar y safle, pa bynnag un sydd hwyraf.
Mae copi o’r gorchmynion a’r cynlluniau sy'n dangos lleoliad a graddfa’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/gorchmyniontraffig.
Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.
Os ydych am gwestiynu darpariaethau neu ddilysrwydd y Gorchymyn ar y sail nad yw o fewn y pwerau a ddyfarnwyd gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, mewn perthynas â’r Gorchymyn, gallwch, o fewn chwe wythnos i 10 Mawrth 2025 wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn.
Atodlen
1. Bydd Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Atal, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2024 (Cydgrynhoi) (Diwygiad 28) Gorchymyn 2025 yn newid Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Atal, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2024 (Cydgrynhoi) ac yn arbennig cyfeiriadau teils map AK27 ac AL27 (wedi’u hatodi i'r Gorchymyn) a fydd yn eich atal rhag aros ar unrhyw adeg yn Heol Dumballs – Butetown, ar ochr y gogledd-ddwyrain, o'r gyffordd â Rhodfa’r Gamlas i bwynt 34 metr i'r de o'r gyffordd ag Ystâd Ddiwydiannol Parc y Gamlas, ac o bwynt 67 metr i'r de-ddwyrain o'r gyffordd ag Ystâd Ddiwydiannol Parc y Gamlas am 163 metr i'r deddwyrain ac ar ochr y de-orllewin, o bwynt 29 metr i'r gogledd-orllewin o'r gyffordd â Heol Curran am 60 metr i'r gogledd.
2. Bydd Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Atal, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2024 (Cydgrynhoi) (Diwygiad 62) 2025 yn diwygio Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Atal, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2024 (Cydgrynhoi) i gywiro gwall gweinyddol fel bod y taliadau am aros mewn Parth Talu ac Aros C6 yn 70c am hyd at 1 awr, £1.30 am hyd at 2 awr, £2.60 am hyd at 3 awr, £3.90 am hyd at 4 awr a £5.20 am dros 4 awr.
15 Mawrth 2025 Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW
New Traffic Orders For The City And County Of Cardiff
Notice is hereby given that on the 10th of March 2025 the County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) and of all other enabling powers, made traffic regulation orders, the general effect of which is to impose traffic restrictions in the lengths of road set out in the Schedule below. The title and nature of the Orders is also described in the said Schedule.
The Orders will come into operation on the 17th of March 2025 or on the date that the necessary lines and signs are placed on site, whichever is the later.
A copy of the orders and plans showing the location and extent of the restrictions are available at www.cardiff.gov.uk/trafficorders.
In addition you can obtain copies of the same by sending an email request to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below.
The Council welcomes correspondence in English and W elsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer.
Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
This document is available in Welsh/Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg. If you wish to question the Orders provisions or validity on the grounds that it is not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act 1984, or on the ground that any requirement of, or any instrument made under the Act, has not been complied with in relation to the Orders, you may, within six weeks from the 10th of March 2025 apply to the High Court for this purpose.
Schedule
1. The County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2024 (Amendment No.28) Order 2025 will amend the County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2024 and in particular map tile references AK27 and AL27 (annexed to the Order) which will prevent you from waiting at any time in Dumballs Road – Butetown, on its north east side, from its junction with Canal Parade to a point 34 metres south of its junction with Canal Park Industrial Estate, and from a point 67 metres south east of its junction with Canal Park Industrial Estate for a distance of 163 metres south east and on its south west side, from a point 29 metres north-west of its junction with Curran Road for a distance of 60 metres north.
2. The County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2024 (Amendment No.62) Order 2025 will amend the County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2024 to rectify an administrative error so that the charges for staying in Pay & Stay Zone C6 are for up to 1 hour - 70p, up to 2 hours - £1.30, up to 3 hours - £2.60, up to 4 hours - £.3.90 & over 4 hours - £5.20.
15 March 2025 Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: