Footpath 22 Mountain Ash - Rail Crossing Diversion Order
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 119A
GORCHYMYN GWYRO CROESFAN RHEILFFORDD LLWYBR 22 ABERPENNAR (CROESFAN GLENBÓI)
Cafodd y gorchymyn uchod ei wneud ar 18 Chwefror 2025 o dan adran 119A o Ddeddf Priffyrdd 1980 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992). Bydd y gorchymyn yn dargyfeirio’r llwybr troed cyhoeddus ger Croesfan Glenbói, wrth ochr Gorsaf Drenau Fernhill, fel sydd wedi’i nodi yn yr Atodlen i’r hysbysiad yma ac ar fap y gorchymyn.
Mae modd gweld copi o’r gorchymyn a map y gorchymyn am ddim yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) yn 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH ac yn Llyfrgell Aberpennar, Canolfan Pennar, Aberpennar, CF45 3HD, yn ystod oriau agor arferol. Mae modd cael copïau o’r Gorchymyn a’r Map yn y mannau yma.
Mae modd cyflwyno unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r gorchymyn yn ysgrifenedig at sylw Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH, erbyn 31 Mawrth 2025. Nodwch sail eich sylwadau.
Os na fydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau yn cael eu derbyn erbyn y dyddiad cau, neu os bydd rhai yn cael eu tynnu yn ôl, bydd modd i’r Cyngor gadarnhau’r Gorchymyn yn orchymyn diwrthwynebiad. Os bydd y gorchymyn yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau sydd heb eu tynnu yn ôl yn cael eu hanfon gyda’r gorchymyn.
ATODLEN
RHAN 1
DISGRIFIAD O SAFLE’R LLWYBR NEU FFORDD BRESENNOL
Yn cychwyn ym mhwynt A (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST0363499570) ac yn croesi rheilffordd Abercynon i Aberdâr, Croesfan Glenbói ger Gorsaf Drenau Fernhill ac yn dod i ben ym mhwynt B (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST0362199543)
Hyd - 30 metr.
Lled 1.8 metr.
RHAN 2
DISGRIFIAD O SAFLE’R LLWYBR NEU FFORDD BRESENNOL
Yn cychwyn ym mhwynt A (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST0363499570) ac yn mynd dros reilffordd Abercynon i Aberdâr ar hyd y bont droed â grisiau a ramp wrth ymyl Gorsaf Drenau Fernhill ac yn dod i ben ym mhwynt B (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST0362199543).
Hyd - 77 metr (os ydych chi’n defnyddio’r grisiau); 346 metr (os ydych chi’n defnyddio’r rampiau)
Lled - 2 fetr.
Dyddiad: 28 Chwefror 2025
Andrew Wilkins
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL
HIGHWAYS ACT 1980 SECTION 119A RAIL CROSSING DIVERSION ORDER
FOOTPATH 22 MOUNTAIN ASH (GLENBOI LEVEL CROSSING)
The above Order was made on 18 February 2025 under section 119A of the Highways Act 1980 (as amended by the Transport and Works Act 1992). The Order will divert the public footpath situate at Glenboi Level Crossing next to Fernhill Railway Station as described in the Schedule to this Notice and shown on the Order Map.
A copy of the Order and the Order Map have been placed and may be seen free of charge at the offices of Rhondda Cynon Taf County Borough Council (“the Council”) at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH and at Mountain Ash Library, Canolfan Pennar, Mountain Ash CF45 3HD during normal opening hours. Copies of the Order and Order Map may obtained there.
Any representations about or objections to the Order may be sent in writing to the Director of Legal and Democratic Services at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH to be received not later than 31 March 2025. Please state the grounds on which they are made.
If no such representations or objections are duly made, or if any so made are withdrawn, the Council may confirm the order as an unopposed order. If the order is sent to the Welsh Ministers for confirmation any representations and objections which have not been withdrawn will be sent with the order.
SCHEDULE
PART 1
DESCRIPTION OF SITE OF EXISTING PATH OR WAY
Commences at point A (NGR ST0363499570) and crosses the Abercynon to Aberdare railway at Glenboi Level Crossing next to Fernhill Railway Station and terminates at point B (NGR ST0362199543)
Length – 30 metres
Width – 1.8 metres
PART 2
DESCRIPTION OF SITE OF NEW PATH OR WAY
Commences at point A (NGR ST0363499570) and crosses the Abercynon to Aberdare railway via a stepped and ramped footbridge next to Fernhill Railway Station and terminates at point B (NGR ST0362199543).
Length – 77 metres via steps; 346 metres via ramps
Width – 2 metres
Date: 28 February 2025
Andrew Wilkins Director of Legal and Democratic Services 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: