Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Various Streets, Pontyclun - Introduce Waiting Restrictions

CF72Published 10/02/25Expired
Western Mail • 

What is happening?

GORCHYMYN ARBROFOL (AMRYWIAD, CYFYNGIADAU AROS
A MARCIAU ‘YSGOL – CADWCH YN GLIR’) (STRYDOEDD AMRYWIOL, PONT-Y-CLUN) 2025 CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

Hysbysir drwy hyn y gwnaed gorchymyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda
Cynon Taf, ar 4 Chwefror 2025, o dan Adrannau 9 a 10 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig
Ffyrdd 1984, a’i effaith fydd arbrofi’r hyn a ganlyn am hyd at 18 mis:

1. Amrywio’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sydd wedi’u nodi yn Atodlen 1
2. Cyflwyno’r cyfyngiadau aros sydd wedi’u nodi yn Atodlen 2
3. Cyflwyno’r cyfyngiadau aros cyfyngedig sydd wedi’u nodi yn Atodlen 3
4. Cyflwyno marciau dim aros ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ yn unol â’r hynny sydd wedi’i nodi yn Atodlen 4

Bydd y Gorchymyn yma mewn grym o 17 Chwefror 2025

Mae modd bwrw golwg ar gopi o’r dogfennau perthnasol drwy drefnu apwyntiad ym Mhrif Swyddfeydd y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH ac yn Llyfrgell Pont-y-clun, Heol y Felin, Pont-y-clun, CF72 9BE neu ar-lein – www.rctcbc.gov.uk

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ystyried maes o law a fydd darpariaethau’r Gorchymyn yn parhau mewn grym am gyfnod amhenodol. Rhaid anfon gwrthwynebiadau i’r cynigion arfaethedig a sylwadau am y cynigion ynghyd â’r rhesymau drostyn nhw, mewn ysgrifen, at y Rheolwr Traffig, Llawr 2, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH, neu drwy e-bostio: gwasanaethautraffig@rctcbc.gov.uk erbyn 7 Chwefror 2025.

Mae modd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf atal ac addasu’r gorchymyn neu ran ohono, tra bydd mewn grym os yw’n ymddangos ei fod yn hanfodol er budd symud traffig mewn modd cyfleus a diogel yn gyflym neu gynnig darpariaeth parcio addas a digonol ar y briffordd neu ar gyfer cadw neu wella mwynderau’r ardal unrhyw ffordd y mae’r gorchymyn yn rhedeg drwyddi. 

Caiff unrhyw berson wneud cais i’r Uchel Lys at ddibenion cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth ynddo, ar y sail nad yw’n unol â’r pwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail nad yw’n cydymffurfio â gofyniad yn y Ddeddf honno neu ag offeryn sydd wedi’i wneud oddi tani mewn perthynas â’r Gorchymyn, os yw’n dymuno gwneud hynny. Rhaid gwneud hynny o fewn chwe wythnos ar ôl 7 Chwefror 2025.

ATODLEN 1 – Amrywiadau
1. Bydd “Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012” yn cael ei amrywio fel bod y gorchmynion sydd yn y Rhestr o Orchmynion ac sy wedi’u rhestru isod fel “Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Strydoedd Amrywiol, Pont-y-clun) (Dirymu, Amrywio, Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg, Cyfyngu Ar Aros, Arosfan Bws Gorchymyn Clirffordd, Gwahardd Llwytho a Dadlwytho a Pharcio i Breswylwyr), 2011” yn cael gwared ar yr eitemau canlynol o Rannau 3 a 5 yr atodlen: -

a. Rhan 3 – Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg – eitemau ‘o’, ‘q’, ‘r’, ‘s’, ‘v’, ‘w’, ‘x’, ‘y’
b. Rhan 5 – Aros Cyfyngedig – 30 munud a dim dychwelyd o fewn 1 awr, Dydd Llun i Ddydd Sadwrn, 9am i 5pm – eitem ‘e’

2. Bydd Gorchymyn “Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf” (Strydoedd Amrywiol, Pont-y-clun) (Amrywiad, Marciau “Ysgol – Cadwch yn Glir” a Chyfyngiadau Aros), 2019” yn cael ei amrywio trwy ddileu Atodlen 3 – Gwahardd Atal Marciau “Ysgol – Cadwch yn Glir” (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 5pm) yn ei gyfanrwydd.

ATODLEN 2 – Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg
1. Coedlan y Palalwyf
a. Yr ochr dde-orllewinol, o’i chyffordd â Heol y Bont-faen, tua’r de-ddwyrain am bellter o tua 49 metr
b. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o’i chyffordd â Heol y Gastan, tua’r gogledd-orllewin am bellter o tua 39 metr
c. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o’i chyffordd â Heol y Gastan, tua’r de-ddwyrain am bellter o tua 19 metr

2. Heol y Gastan
a. Yr ochr ogledd-orllewinol, o’i chyffordd â Choedlan y Palalwyf, tua’r gogleddddwyrain am bellter o tua 18 metr
b. Yr ochr dde-ddwyreiniol, o’i chyffordd â Heol Palalwyf, tua’r gogledd-ddwyrain am bellter o tua 13 metr
c. Yr och ogledd-orllewinol, o bwynt sydd 5 metr tua’r de-orllewin o Rodfa Cerdin, tua’r gogledd-ddwyrain am bellter o tua 30 metr
d. Yr ochr dde-ddwyreiniol, o bwynt sydd 5 metr tua’r de-orllewin o Rodfa Cerdin, tua’r gogledd-ddwyrain am bellter o tua 27 metr

3. Rhodfa Cerdin
a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd 14.5 metr tua’r gogledd-orllewin o Heol y Gastan, tua’r de-ddwyrain am bellter o tua 42 metr
b. Yr ochr dde-orllewinol, o bwynt sydd 5 metr i’r gogledd-orllewin o Heol y Gastan, tua’r de-ddwyrain am bellter o tua 22.5 metr

4. Cilgant y Parc
a. Ochr ogleddol Heol y Bont-faen, o ffin eiddo Rhif 9 a Rhif 11 Heol y Bont-faen, tua’r dwyrain am bellter o tua 29 metr
b. Ochr orllewinol Cilgant y Parc, o’i chyffordd â Heol y Bont-faen tua’r gogledd am bellter o 5 metr
c. Ochr ddwyreiniol Cilgant y Parc, o’i chyffordd â Heol y Bont-faen tua’r gogledd am bellter o 6 metr

ATODLEN 3 – Aros Cyfyngedig – 30 munud a dim dychwelyd o fewn 1 awr Rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Sadwrn (gan gynnwys y diwrnodau yma)

1. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol o Goedlan y Palalwyf, o bwynt sydd 39 metr tua’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â Heol y Gastan i bwynt sydd 10 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Heol y Bont-faen. Pellter o tua 15.5 metr.

ATODLEN 4 – Dim Aros ar y marciau ffordd ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ rhwng 8am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener (gan gynnwys y diwrnodau yma)

1. Ochr ddwyreiniol Heol-y-Felin, o bwynt sydd 10 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Heol y Bont-faen, tua’r de-ddwyrain am bellter o 83.5 metr

Dyddiad 7 Chwefror 2025

Andrew Wilkins Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH

RHONDDA CYNON TAFF COUNTY BOROUGH COUNCIL
(VARIOUS STREETS, PONTYCLUN) EXPERIMENTAL (VARIATION, WAITING RESTRICTIONS AND ‘SCHOOL KEEP CLEAR’ MARKINGS) ORDER 2025

Notice is hereby given that on the 4th February 2025 the Rhondda Cynon Taff County Borough Council made an order under Sections 9 and 10 of the Road Traffic Regulation Act 1984 the effect of which is to experimentally for a period of not exceeding eighteen months:

1. Vary the Traffic Regulation Orders specified in Schedule 1
2. Introduce waiting restrictions as specified in Schedule 2
3. Introduce limited waiting restrictions as specified in Schedule 3
4. Introduce no waiting ‘School Keep Clear’ markings as specified in Schedule 4 

This order shall be in operation from 17th February 2025

A copy of the relevant documents may be inspected by appointment at the Principal Offices of the Council, 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH and Pontyclun Library, Heol-Y-Felin, Pontyclun, CF72 9BE or online at www.rctcbc.gov.uk

The Rhondda Cynon Taff County Borough Council shall be considering in due course whether the provisions of the order shall continue in force indefinitely. Objections to the proposal, together with the grounds on which they are made must be sent in writing to the Traffic Manager, Floor 2, 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH or by email on trafficservices@rctcbc.gov.uk within six months from 7th February 2025.

The Rhondda Cynon Taff County Borough Council may provide for the suspension and modification of the order or part thereof, while it is in force if it appears that it is essential in the interest of the expedious convenient and safe movement of traffic or else the provision of suitable and adequate parking facilities in the highway or for preserving or improving the amenities of the area through which any road affected by the order runs. 

Any person wishing to question the validity of the Order or of any provision contained in it on the grounds that they are not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act, 1984 or on the grounds that any requirement of that Act or of any instrument made under it had not been complied with in relation to the Order, may within six weeks from 7th February 2025 apply to the High Court for this purpose.

SCHEDULE 1 – Variations
1. The “Rhondda Cynon Taff County Borough Council (Prohibition and Restriction of Waiting and Loading and On Street Parking Places) (Consolidation) Order 2012” shall be varied so that the order referred to in the Schedule of Orders as the “Rhondda Cynon Taff County Borough Council (Various Streets, Pontyclun) (Revocation, Variation, Prohibition of Waiting at Any Time, Limitation of Waiting, Bus Stop Clearway, Prohibition of Loading and Unloading and Residents Parking) Order, 2011” shall have the following items removed from Parts 3 and 5 of the schedule: -

a. Part 3 - Prohibition of Waiting At Any Time – items ‘o’, ‘q’, ‘r’, ‘s’, ‘v’, ‘w’, ‘x’, ‘y’
b. Part 5 - Limited Waiting 30mins No Return Within 1 Hour Monday to Saturday Inclusive 9am – 5pm – item ‘e’

2. The “Rhondda Cynon Taff County Borough Council “(Various Streets, Pontyclun) (Variation, “School Keep Clear” Markings and Waiting Restrictions) Order, 2019” shall be varied by the removal of Schedule 3 – Prohibition of Stopping “School Keep Clear” Markings (Monday to Friday 8:00am to 5:00pm) in its entirety.

SCHEDULE 2 – Prohibition of Waiting At Any Time
1. Palalwyf Avenue
a. The south-western side, from its junction with Cowbridge Road, south-eastwards for a distance of approximately 49 metres. 
b. The north-eastern side, from its junction with Castan Road in a north-westerly direction for a distance of approximately 39 metres
c. The north eastern side, from its junction with Castan Road in a south-easterly direction for a distance of approximately 19 metres

2. Castan Road
a. The north-western side, from its junction with Palalwyf Avenue, north-eastwards for a distance of approximately 18 metres
b. The south-eastern side, from its junction with Palalwyf Road, north-eastwards, for a distance of approximately 13 metres
c. The north-western side, from a point 5 metres south-west of Cerdin Avenue, north-eastwards for a distance of approximately 30 metres
d. The south-eastern side, from a point 5 metres south-west of Cerdin Avenue, north-eastwards for a distance of approximately 27 metres

3. Cerdin Avenue
a. The north-eastern side, from a point 14.5 metres north-west of Castan Road, south-eastwards for a distance of approximately 42 metres
b. The south-western- side, from a point 5 metres north-west of Castan Road, south-eastwards for a distance of approximately 22.5 metres

4. Park Crescent
a. The northern side of Cowbridge Road, from the property boundary of No. 9 and No. 11 Cowbridge Road, eastward for a distance of approximately 29 metres
b. The western side of Park Crescent, from its junction with Cowbridge Road in a northernly direction for a distance of 5 metres
c. The eastern side of Park Crescent, from its junction with Cowbridge Road in a northernly direction for a distance of 6 metres

SCHEDULE 3 – Limited Waiting 30mins with No Return Within 1 Hour
Monday to Saturday Inclusive between 9:00am – 5:00pm
1. The north-eastern side of Palalwyf Avenue, from a point 39 metres north west of its junction with Castan Road to a point 10 metres southeast of its junction with Cowbridge Road. A distance of approximately 15.5 metres

SCHEDULE 4 – No Stopping on ‘School Keep Clear’ Markings 8:00am – 5:00pm Monday to Friday Inclusive

1. The eastern side of Heol-Y-Felin, from a point 10 metres south-east of its junction with Cowbridge Road, south-eastwards for a distance of approximately 83.5 metres

Dated 7th February 2025

Andrew Wilkins Director of Legal and Democratic Services 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 40 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association