Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Rhondda Cynon Taf - Temporary Prohibition of Vehicles Order

CF72Published 25/01/25Expired
Western Mail • 

What is happening?

HYSBYSIAD STATUDOL

I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru 

Gorchymyn Traffordd Yr M4 (Cyffordd 23a (Magwyr), Sir Fynwy I Gyffordd 34 (Meisgyn), Rhondda Cynon Taf) A Thraffordd Yr A48(M) (Cyffordd 29 (Cas-Bach), Casnewydd I Gyffordd 29a (Llaneirwg), Caerdydd) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2025 

MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar draffordd yr M4 rhwng Cyffordd 23a (Magwyr), Sir Fynwy a Chyffordd 34 (Meisgyn), Rhondda Cynon Taf a thraffordd yr A48(M) rhwng Cyffordd 29 (Cas-bach), Casnewydd a Chyffordd 29A (Llaneirwg), Caerdydd, neu gerllaw iddynt.

Effaith y Gorchymyn yw gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar ddarnau penodol o’r M4/A48(M) o fewn y darnau cyffredinol a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn pan fo angen gwneud gwaith mewn safle penodol. Disgrifir y trefniadau ar gyfer y llwybrau eraill yn yr Atodlen hefyd.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 27 Ionawr 2025. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol yn ysbeidiol, dros nos (20:00 – 06:00 o’r gloch) o 27 Ionawr 2025 am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf. Pan fo’n bosib, arddangosir hysbysiad am waharddiadau tuag un wythnos cyn bod angen cau darn penodol o’r traffordd/traffyrdd.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd

J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

YR ATODLEN
Y darnau o gerbytffyrdd tua’r gorllewin a thua’r dwyrain traffordd yr M4 rhwng Cyffordd 23a (Magwyr) a Chyffordd 34 (Meisgyn) a holl ffyrdd ymadael ac ymuno tua’r gorllewin a thua’r dwyrain yr M4 rhwng y cyffyrdd hyn.

Y darn o draffordd yr A48(M) rhwng Cyffordd 29 (Cas-bach) a Chyffordd 29A (Llaneirwg).

Trefniadau ar gyfer y llwybrau eraill

Codir arwyddion priodol i nodi’r gwyriad ar gyfer y llwybrau eraill a byddant yn amrywio gan ddibynnu ar ben y daith a phryd y bydd darn penodol o’r M4 neu’r A48(M) ar gau dros dro i draffig.

Bydd y llwybrau eraill ar gael drwy fynd ar y brif M4, yr M48, yr A4042, yr A4051, yr A4810, yr A48, y B4591, yr A467, yr A4232, yr A48(M), yr A470, yr A473 a’r A4119, fel y bo’n briodol.

STATUTORY NOTICE

For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales 

The M4 Motorway (Junction 23a (Magor), Monmouthshire To Junction 34 (Miskin), Rhondda Cynon Taf) & The A48(M) Motorway (Junction 29 (Castleton), Newport To Junction 29a (St Mellons), Cardiff) (Temporary Prohibition Of Vehicles) Order 2025

THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the M4 motorway between Junction 23a (Magor), Monmouthshire and Junction 34 (Miskin), Rhondda Cynon Taf and the A48(M) motorway between Junction 29 (Castleton), Newport and Junction 29A (St Mellons), Cardiff.

The effect of the Order is to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services and for the works, from proceeding on certain lengths of the M4/A48(M) motorways within the overall lengths described in the Schedule to this Notice when work is required at a particular site. The alternative route arrangements are also described in the Schedule.

The Order comes into force on 27 January 2025. The temporary prohibition is expected to operate intermittently, overnight (20:00 hours – 06:00 hours) from 27 January 2025 for a maximum duration of 18 months. Where possible, notice of prohibitions will be displayed approximately one week before the closure of a specified length of the motorway(s).

A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders

J SADDLER, Transport, Welsh Government

SCHEDULE
The lengths of the westbound and eastbound carriageways of the M4 motorway between Junction 23a (Magor) and Junction 34 (Miskin) and all M4 westbound and eastbound exit and entry slip roads between these junctions.

The length of the A48(M) motorway between Junction 29 (Castleton) and Junction 29A (St Mellons).

Alternative route arrangements
The alternative routes will be indicated with appropriate diversion signs and will vary depending on destination and when a particular length of the M4 or A48(M) is temporarily closed to traffic.

Alternative routes will be available via the main M4, M48, A4042, A4051, A4810, A48, B4591, A467, A4232, A48(M), A470, A473 and A4119, as appropriate.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association