A489 Trunk Road, Cemmaes Road To Machynlleth, Powys - Temporary speed limit due to carriageway works
What is happening?
Gorchymyn Cefnffordd Yr A489 (Glantwymyn I Fachynlleth, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro A Dim Goddiweddyd) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar Gefnffordd yr A489, neu gerllaw iddi, rhwng Glantwymyn a Machynlleth, Powys.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:
- gosod terfyn cyflymder o naill ai 40 mya neu 30 mya, yn ôl y gofyn, ar y darn o’r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn;
- gosod terfyn cyflymder o 10 mya pan fydd gwaith confoi yn digwydd ar y darn o’r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn; a
- gwahardd pob cerbyd, ac eithrio cerbydau brys a cherbydau ar gyfer y gwaith, rhag goddiweddyd pan fydd gwaith confoi yn digwydd ar y darn o’r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn.
Disgwylir y bydd y cyfyngiadau a’r gwaharddiad, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym am 08:00 o’r gloch ar 22 Ionawr 2025 ac yn weithredol yn ysbeidiol am 18 mis ar y mwyaf, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-cau
J Saddler, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
Yr Atodlen
Y darn o Gefnffordd yr A489 yn Sir Powys sy’n ymestyn tua’r de-orllewin o’i chyffordd â’r A470 wrth gylchfan Glantwymyn hyd at ganolbwynt ei chyffordd â’r A487 ym Machynlleth.
The A489 Trunk Road (Cemmaes Road To Machynlleth, Powys) (Temporary Speed Restrictions And No Overtaking) Order 202-
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984 which is necessary to undertake works on or near the A489 Trunk Road between Cemmaes Road and Machynlleth, Powys.
The effect of the proposed Order will be to temporarily:
- impose either a 40 mph or 30 mph speed limit, as required, on the length of the trunk road specified in the Schedule to this Notice;
- impose a 10 mph speed limit during convoy working on the length of the trunk road specified in the Schedule to this Notice; and
- prohibit all vehicles, with exemption for emergency and works vehicles, from overtaking during convoy working on the length of the trunk road specified in the Schedule to this Notice.
It is expected that the restrictions and prohibition, which will be signed accordingly, will come into force at 08:00 hours on 22 January 2025 and operate intermittently for a maximum duration of 18 months, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/stopping-orders
J SADDLER, Transport, Welsh Government
Schedule
The length of the A489 Trunk Road in the County of Powys which extends from its junction with the A470 at Cemmaes Road roundabout in a south-westerly direction to the centre-point of its junction with the A487 at Machynlleth.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Cambrian News series directly at: