Bridleway 40 Peterston-Super-Montem - Public Path Diversion Order
What is happening?
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Deddf Priffyrdd 1980 – Adran 119
Gorchymyn Gwyro Llwybr Cyhoeddus
Llwybr Ceffylau 40 Llanbedr-Ar-Fynydd
Ar 10 Rhagfyr 2024 cadarnhaodd Cyngor Rhondda Cynon Taf y gorchymyn uchod a wnaethpwyd o dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("y Ddeddf").
Effaith y gorchymyn fydd gwyro'r llwybr ceffylau cyhoeddus sy'n cael ei ddisgrifio yn Rhan 1 o Atodlen yr hysbysiad yma, a chreu llwybr ceffylau i'w defnyddio yn lle'r hen lwybr ceffylau, fel sy'n cael ei ddisgrifio yn Rhan 2 o Atodlen yr hysbysiad yma, fel sydd i'w weld ar fap y gorchymyn.
Mae modd gweld copi o'r gorchymyn wedi'i gadarnhau a map y gorchymyn am ddim yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) yn 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH ac yn Llyfrgell Pont-y-clun, Heol-y-felin, Pont-y-clun CF72 9BE. Mae modd cael copïau o'r gorchymyn a'r map yn y mannau yma.
Daw'r gorchymyn i rym ar 9 Ionawr 2025, ond os yw person sy'n anfodlon â'r gorchymyn eisiau cwestiynu ei ddilysrwydd, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth sydd ynddo, ar y sail nad yw o fewn pwerau'r Ddeddf, fel y'i diwygiwyd, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad yn y Ddeddf, fel y'i diwygiwyd, neu unrhyw reoliad a wneir o dan y Ddeddf mewn perthynas â'r gorchymyn, caiff ef neu hi, o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan baragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf, wneud cais i'r Uchel Lys cyn pen 6 wythnos ar ôl 9 Ionawr 2025.
ATODLEN
RHAN 1
Disgrifiad O Safle'r Llwybr Neu Ffordd Bresennol
Y rhan honno o Lwybr Ceffylau 40, Llanbedr-ar-fynydd sy’n cychwyn wrth gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS98318289 ym mhwynt A ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad y dwyrain am bellter o 116 metr i gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS98428290 ym mhwynt C; dyma lwybr A-C ar Fap y Gorchymyn. Hyd: 116 metr, Lled: Heb ei ddiffinio.
RHAN 2
Disgrifiad O Safle'r Llwybr Neu Ffordd Bresennol
Yn cychwyn ym mhwynt A, sef cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS98318289, ac sy’n mynd ymlaen i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd y llwybr graean 3 metr o led a adeiladwyd i bwrpas am bellter o 43 metr cyn ymuno â ffordd yr ystâd a elwir ‘The Green’ yng nghyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS98348290, sef pwynt B.
Yna mae'r llwybr yn parhau i gyfeiriad y dwyrain gan ddilyn ‘The Green’ am bellter o oddeutu 83 metr cyn ymuno â Llwybr Ceffylau 44, Llanbedr-ar-fynydd yng nghyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS98428290, sef pwynt C. Dyma lwybr A-B-C ar Fap y Gorchymyn. Hyd: 126, Lled: 3-6 metr.
Dyddiad: 9 Ionawr 2025
Andrew Wilkins Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Rhondda Cynon Taf County Borough Council
Highways Act 1980 Section 119
Public Path Diversion Order
Bridleway 40 Peterston-Super-Montem
On 10 December 2024, Rhondda Cynon Taf County Borough Council confirmed the above order made under section 119 of the Highways Act 1980 (“the Act”).
The effect of the order as confirmed is to divert the public bridleway described in Part 1 of the Schedule to this notice and create a new bridleway for use as a replacement as described in Part 2 of the Schedule to this notice as shown on the order map.
A copy of the confirmed order and the order map may be seen free of charge during normal opening hours at the offices of Rhondda Cynon Taf County Borough Council (“the Council”) at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH and at Pontyclun Library, Heol Y Felin, Pontyclun CF72 9BE. Copies of the order and map may be obtained there.
The order comes into force on 9 January 2025, but if a person aggrieved by the order wants to question its validity, or that of any provision contained in it, on the ground that it is not within the powers of the Act, as amended, or on the ground that any requirement of the Act, as amended, or of any regulation made under the Act has not been complied with in relation to the order, he or she may, under paragraph 2 of Schedule 2 to the Act as applied by paragraph 5 of Schedule 6 to the Act, within 6 weeks from 9 January 2025, make an application to the High Court.
SCHEDULE
PART 1
Description Of Site Of Existing Path Or Way
That part of Bridleway 40, Peterston-Super-Montem commencing at Ordnance Survey grid reference SS98318289 at point A and proceeding in a general easterly direction for 116 metres to Ordnance Survey grid reference SS98428290 at point C; this being the route shown A-C on the Order Map. Length: 116 metres, Width: Undefined
PART 2
Description Of Site Of New Path Or Way
Commences at Ordnance Survey grid reference SS98318289 at point A and proceeds in a general north easterly direction along a purpose built 3 metre wide gravel path for 43 metres to join the estate road known as The Green at Ordnance Survey grid reference SS98348290 at point B.
It then continues in a general easterly direction following The Green for approximately 83 metres to join Bridleway 44, Peterston-Super-Montem at Ordnance Survey grid reference SS98428290 at point C. This being the route shown A-B-C on the Order Map. Length: 126, Width: 3 – 6 metres
Dated: 9 January 2025
Andrew Wilkins Director of Legal and Democratic Services 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: