A465 Trunk Road - Temporary Traffic Prohibitions And Restrictions For works
What is happening?
Hysbysiad Statudol
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
Gorchymyn Cefnffordd Yr A465 (Cylchfan Resolfen I Gylchfan Glyn-Nedd, Castell-Nedd Port Talbot) (Gwaharddiadau A Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2024
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A465, neu gerllaw iddi, rhwng Cylchfan Resolfen a Chylchfan Glyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot.
Effaith y Gorchymyn yw gwneud y canlynol dros dro :
i) gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith) rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A465 a ddisgrifir yn Atodlenni 1 a 2 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybr arall, y codir arwyddion priodol yn ei gylch, yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn hefyd;
ii) gosod terfyn cyflymder o 40 mya ar y darnau o gefnffordd yr A465 a ddisgrifir yn Atodlen 3 i’r Hysbysiad hwn;
iii) gosod terfyn cyflymder o 10 mya ar y darnau o gefnffordd yr A465 a ddisgrifir yn Atodlen 3 i’r Hysbysiad hwn. Dim ond pan fydd gwaith confoi yn digwydd y bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn gymwys ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn
Daw’r Gorchymyn i rym ar 19 Rhagfyr 2024. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn weithredol yn ysbeidiol o 06:00 o’r gloch ar 19 Rhagfyr 2024 ac yn weithredol yn ysbeidiol am gyfnod o 18 mis.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar
https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd Cerbydau Dros Dro a Llwybr Arall
Y darnau o gerbytffordd tua’r gogledd a cherbytffordd tua’r de yr A465 sy’n ymestyn o’r gyffordd â cherbytffordd gylchredol Cylchfan Resolfen hyd at y gyffordd â cherbytffordd gylchredol Cylchfan Glyn-nedd.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd fydd ymadael â’r A465 wrth
Gylchfan Resolfen a chymryd yr allanfa gyntaf i’r B4434, yna ymuno â’r B4242 i
gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i ailymuno â’r A465 wrth Gylchfan Glyn-nedd. I’r
gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r de.
ATODLEN 2
Cau Cilfannau
Cilfannau cerbytffordd tua’r gogledd a cherbytffordd tua’r de yr A465 rhwng Cylchfan Resolfen a Chylchfan Glyn-nedd.
ATODLEN 3
Terfynau Cyflymder 40 mya a 10 mya Dros Dro a
Gwahardd Goddiweddyd yn ystod Gwaith Confoi
Y darnau o gerbytffordd tua’r gogledd a cherbytffordd tua’r de yr A465 rhwng
Cylchfan Resolfen a Chylchfan Glyn-nedd.
Statutory Notice
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
The A465 Trunk Road (Resolven Roundabout To Glynneath Roundabout, Neath Port Talbot) (Temporary Traffic Prohibitions And Restrictions) Order 2024
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984 which is necessary to undertake works on or near the A465 trunk road between Resolven Roundabout and Glynneath Roundabout, Neath Port Talbot.
The effect of the Order is to temporarily :
i) prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works) from proceeding on the lengths of the A465 trunk road described in Schedules 1 and 2 to this Notice. The alternative route, which will be signed accordingly, is also described in Schedule 1 to this Notice;
ii) impose a 40 mph speed limit on the lengths of the A465 trunk road described in Schedule 3 to this Notice;
iii) impose a 10 mph speed limit on the lengths of the A465 trunk road described in Schedule 3 to this Notice. The 10 mph speed limit will only apply during convoy working and no overtaking will be permitted at these times.
The Order will come into force on 19 December 2024. The temporary prohibitions and restrictions, which will be signed accordingly, are expected to operate intermittently from 06:00 hours on 19 December 2024 for a maximum period of 18 months.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders.
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Temporary Prohibition of Vehicles & Alternative Route
The lengths of the A465 northbound and southbound carriageways that extend from the junction with the circulatory carriageway of Resolven Roundabout to the junction with the circulatory carriageway of Glynneath Roundabout.
The alternative route for northbound traffic will be to leave the A465 at Resolven Roundabout and take the first exit on to the B4434, then join the B4242 in a north easterly direction to re-join the A465 at Glynneath Roundabout. Vice versa for southbound traffic.
SCHEDULE 2
Closure of Laybys
The A465 northbound and southbound carriageway laybys between Resolven Roundabout and Glynneath Roundabout.
SCHEDULE 3
Temporary 40 mph, 10 mph Speed Limits and Prohibition of Overtaking during Convoy Working
The lengths of the A465 northbound and southbound carriageways between Resolven Roundabout and Glynneath Roundabout.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact South Wales Evening Post directly at: