Holly Street – Prohibition Of Waiting At Any Time
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
(STRYD Y CELYN, RHYDFELEN)
GORCHYMYN (AMRYWIO, CYFYNGIADAU AROS A MARCIAU ‘YSGOL - CADWCH YN GLIR’) 202* A HYSBYSIAD (MESURAU ARAFU TRAFFIG) 202*
DYMA HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adrannau 1, 2 a 4 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“y Ddeddf”) a phob pŵer galluogi arall, a’i effaith fydd:
1. Amrywio’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sydd wedi’i nodi yn Atodlen 1
2. Cyflwyno’r cyfyngiadau aros sydd wedi’u nodi yn Atodlen 2
3. Cyflwyno marciau dim aros ‘Ysgol - Cadwch yn Glir’ yn unol â’r hynny sydd wedi’i nodi yn Atodlen 3
DYMA HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, o dan Adrannau 90A, 90C a 90G o Ddeddf Priffyrdd 1980, Rheoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffyrdd) 1999 a Rheoliadau Priffyrdd (Arafu Traffig) 1999, a phob pŵer galluogi, yn bwriadu cyflwyno’r mesurau arafu traffig canlynol:
4. Bydd clustogau arafu yn cael eu darparu fesul dau, yn y lleoliad sydd wedi’i nodi yn Atodlen 4, neu yn ei gyffiniau
Mae modd i chi fwrw golwg ar gopi o’r dogfennau perthnasol drwy drefnu apwyntiad ym Mhrif Swyddfeydd y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH ac yn Llyfrgell Rhydfelen, Llys y Llyfrgell, Heol y Poplys, Rhydfelen, CF37 5LR neu arlein - www.rctcbc.gov.uk
Rhaid anfon gwrthwynebiadau i’r cynigion arfaethedig a sylwadau am y cynigion ynghyd â’r rhesymau drostyn nhw, mewn ysgrifen, at y Rheolwr Traffig, Llawr 2, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH, neu drwy e-bostio: gwasanaethautraffig@rctcbc.gov.uk erbyn 3 Ionawr 2025
ATODLEN 1 – Amrywio
1. Bydd Gorchymyn “(Amrywio a Chyfyngiadau Aros, Dim aros ar Farciau ‘Ysgol - Cadwch yn Glir’) (Stryd y Celyn, Rhydfelen) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2021” yn cael ei amrywio drwy ddileu Atodlen 3.
ATODLEN 2 – Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg
1. Ffordd Fynediad yr Ysgol - ar ei chyffordd â Stryd y Celyn
a. Ochr orllewinol y ffordd, o’i chyffordd â Stryd y Celyn i gyfeiriad cyffredinol y dwyrain ac yna i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at fynedfa prif gatiau’r ysgol, am bellter sydd oddeutu 22.5 metr.
b. Ochr ddwyreiniol y ffordd, o’i chyffordd â Stryd y Celyn i gyfeiriad cyffredinol y de ac yna i gyfeiriad y de-orllewin hyd at fynedfa prif gatiau’r ysgol, am bellter sydd oddeutu 28 metr.
ATODLEN 3 - Dim Aros ar y marciau ffordd ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ 8am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (gan gynnwys y diwrnodau yma)
1. Stryd y Celyn - ochr ddeheuol y ffordd, 4.5 metr i’r gorllewin o bwynt gyferbyn â ffin gyffredin eiddo Rhif 23 a Rhif 24 i gyfeiriad y gorllewin am bellter o oddeutu 26 metr.
ATODLEN 4 – Mesurau Arafu Traffig
Clustogau Arafu (heb fod yn fwy na 100mm o uchder, 2500mm o hyd a 1900mm o led) i’w darparu fesul dau yn, neu o fewn cyffiniau, y lleoliad canlynol:
1. Stryd y Celyn - bydd llinell ganol y Clustogau Arafu yn cael eu sefydlu ar bwynt sydd 2 fetr i’r dwyrain o ffin gyffredin eiddo Rhif 22 a Rhif 23
Dyddiad 6 Rhagfyr 2024
Andrew Wilkins Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH
RHONDDA CYNON TAFF COUNTY BOROUGH COUNCIL
(HOLLY STREET, RHYDYFELIN) (VARIATION, WAITING RESTRICTIONS AND ‘SCHOOL KEEP CLEAR’ MARKINGS) ORDER 202* AND TRAFFIC CALMING MEASURES NOTICE 202*
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Rhondda Cynon Taff County Borough Council propose to make an Order under Sections 1, 2, and 4 of the Road Traffic Regulation Act 1984 (“the Act”), and of all other enabling powers, the effect of which will be to:
1. Vary the Traffic Regulation Order specified in Schedule 1
2. Introduce waiting restrictions as specified in Schedule 2
3. Introduce no waiting ‘School Keep Clear’ markings as specified in Schedule 3
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Rhondda Cynon Taff County Borough Council propose under Sections 90A, 90C and 90G of the Highways Act 1980, the Highways (Road Humps) Regulations 1999 and the Highways (Traffic Calming) Regulations 1999 and all enabling powers, to implement the following traffic calming measures:
4. Speed Cushions, to be provided in sets of two, at, or within the vicinity of the location specified in Schedule 4
A copy of the relevant documents may be inspected by appointment at the Principal Offices of the Council, 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH and Rhydyfelin Library, Library Court, Poplar Road, Rhydyfelin, CF37 5LR or online at www.rctcbc.gov.uk
Objections to the proposal together with the grounds on which they are made must be sent in writing to the Traffic Manager, Floor 2, 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH or by email on trafficservices@rctcbc.gov.uk by 3rd January 2025
SCHEDULE 1 – Variation
1. The “Rhondda Cynon Taff County Borough Council (Holly Street, Rhydyfelin) (Variation and Waiting Restrictions, No Stopping on ‘School Keep Clear’ Markings) Order 2021” shall be varied by the deletion of Schedule 3.
SCHEDULE 2 – Prohibition of Waiting At Any Time
1. School Access Road – at junction with Holly Street
a. Western side, from its junction with Holly Street in a generally east and then southerly direction to the school main gate entrance, for a distance of approximately 22.5 metres.
b. Eastern side, from its junction with Holly Street in a generally south and then south westerly direction to the school main gate entrance, for a distance of approximately 28 metres
SCHEDULE 3 – No Stopping on ‘School Keep Clear’ Markings 8:00am – 5:00pm Monday to Friday inclusive
1. Holly Street - South side, 4.5 metres west of a point opposite the common boundary of property numbers No.23 and 24 westwards for a distance of 26 metres
SCHEDULE 4 – Traffic Calming Measures
Speed Cushions (not exceeding 100mm height, length 2500mm, width 1900mm) to be provided in sets of two, at or within the vicinity of the following location: -
1. Holly Street – the centre line of the sped cushions shall be established at a point 2 metres east of the common boundary of property No. 22 and 23
Dated 6th December 2024
Andrew Wilkins Director of Legal and Democratic Services 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: