A5 Trunk Road - Temporary Traffic Prohibitions And Restrictions For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A5 (CYLCHFAN YR ANTELOPE, BANGOR, GWYNEDD I GYFFORDD LÔN REFAIL, LLANFAIR PWLLGWYNGYLL, YNYS MÔN) (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A5, neu gerllaw iddi, o Gylchfan yr Antelope, Bangor i gyffordd Lôn Refail, Llanfair Pwllgwyngyll, Gwynedd.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:
i) gwahardd pob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys, rhag mynd ar y darnau o’r gefnffordd a bennir yn Atodlenni 1 a 2 i’r Hysbysiad hwn;
ii) gosod terfyn cyflymder o 40 mya a 30 mya, fel y bo angen, ar y darn o’r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn;
iii) gosod terfyn cyflymder o 10 mya pan fydd gwaith confoi yn digwydd ar y darn o’r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn; a
iv) gwahardd pob cerbyd rhag goddiweddyd pan fydd gwaith confoi yn digwydd ar y darn o’r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn.
Caniateir atal traffig am ysbeidiau byr olynol ar unrhyw adeg tra pery’r Gorchymyn gan ddefnyddio naill ai arwyddion neu oleuadau traffig priodol neu gyda chymorth Swyddog Heddlu neu Swyddog Traffig. Nid oes angen unrhyw lwybrau dargyfeirio.
Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym am 00:01 o’r gloch ar 26 Rhagfyr 2024 ac yn weithredol yn ysbeidiol am 18 mis ar y mwyaf, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd Cerbydau a Therfyn Cyflymder 40 mya, 30mya a 10mya
Dros Dro a Gwahardd Goddiweddyd yn ystod Gwaith Confoi
Y darn o’r gefnffordd sy’n ymestyn o gerbytffordd gylchredol Cylchfan yr Antelope hyd at ganolbwynt ei chyffordd â Lôn Refail yn Llanfair Pwllgwyngyll.
ATODLEN 2
Cau Cilfannau Dros Dro
1. Y gilfan sydd 530 o fetrau i’r dwyrain o gyffordd Lôn Refail, Llanfair Pwllgwyngyll hyd at bwynt 640 o fetrau i’r dwyrain o’r gyffordd honno.
2. Y gilfan sydd 750 o fetrau i’r dwyrain o gyffordd Lôn Refail, Llanfair Pwllgwyngyll hyd at bwynt 810 o fetrau i’r dwyrain o’r gyffordd honno.
3. Y gilfan sydd 82 o fetrau i’r gorllewin o’r gyffordd sy’n arwain at Fynwent Menai, Porthaethwy hyd at bwynt 164 o fetrau i’r gorllewin o’r gyffordd honno.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice, contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A5 TRUNK ROAD (ANTELOPE ROUNDABOUT, BANGOR, GWYNEDD TO THE JUNCTION OF LON REFAIL, LLANFAIRPWLL, ANGLESEY) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A5 trunk road from Antelope Roundabout, Bangor to the junction of Lon Refail, Llanfairpwll, Gwynedd.
The effect of the proposed Order will be to temporarily:
i) prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services, from proceeding on the lengths of the trunk road specified in Schedules 1 and 2 to this Notice;
ii) impose a 40 mph and 30 mph speed limit, as required, on the length of the trunk road specified in Schedule 1 to this Notice;
iii) impose a 10 mph speed limit during convoy working on the length of the trunk road specified in Schedule 1 to this Notice; and
iv) prohibit all vehicles from overtaking during convoy working on the length of the trunk road specified in Schedule 1 to this Notice.
Traffic may be stopped for successive short period intervals at any time during the Order duration using either appropriate traffic signs or signals or with the assistance of a Police Officer or Traffic Officer. No diversionary routes are necessary.
It is expected that the temporary prohibitions and restrictions, which will be signed accordingly, will come into force at 00:01 hours on 26 December 2024 and operate intermittently for a maximum duration of 18 months, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Temporary Prohibition of Vehicles, 40mph, 30mph and 10mph Speed Limits & Prohibition of Overtaking during Convoy Working
The length of the trunk road that extends from the circulatory carriageway of Antelope Roundabout to the centre of its junction with Lon Refail at Llanfairpwll.
SCHEDULE 2
Temporary Closure of Laybys
1. The layby located 530 metres east of the junction of Lon Refail, Llanfairpwll to a point 640 metres east of said junction.
2. The layby located 750 metres east of the junction of Lon Refail, Llanfairpwll to a point 810 metres east of said junction.
3. The layby located 82 metres west of the junction leading to Mynwent Menai cemetery, Menai Bridge to a point 164 metres west of said junction.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: