Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

A465 Trunk Road, Neath To Llandarcy - Temporary Traffic Prohibitions & Restrictions For Works

SA10 6GZPublished 31/10/24Expired
South Wales Evening Post • 

What is happening?

HYSBYSIAD STATUDOL

I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru

GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A465 (CASTELL-NEDD I LANDARCY, CASTELL-NEDD PORT TALBOT)
(GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2024

MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adrannau 14 a 15(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A465 rhwng Castell-nedd a Llandarcy, neu gerllaw iddi.

Effaith y Gorchymyn yw gwneud y canlynol dros dro:

i. Gwahardd pob cerbyd rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A465 a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y trefniadau ar gyfer y llwybrau eraill yn yr Atodlen honno hefyd.

ii. Cau naill ai’r gerbytffordd tua’r gorllewin neu’r gerbytffordd tua’r dwyrain a gwahardd goddiweddyd ar y darn o gefnffordd yr A465 a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn. Bydd gwrthlif yn gweithredu yn lôn allanol pa gerbytffordd bynnag a fydd yn aros ar agor i draffig.

iii. Gwahardd cerbydau dros 2.9 metr o led a phob cerbyd sy’n pwyso 44 tunnell neu fwy rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A465 a bennir yn yr Atodlenni i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybr arall yn Atodlen 1.

iv. Gwahardd beicwyr rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A465 a bennir yn yr Atodlenni i’r Hysbysiad hwn.

v. Gosod terfyn cyflymder 30 mya, 40 mya neu 50 mya ar y darnau o gefnffordd yr A465 a bennir yn yr Atodlenni i’r Hysbysiad hwn.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 1 Tachwedd 2024. Disgwylir y bydd y ffordd ar gau yn ystod y nos (20:00 – 06:00 o’r gloch) ond y bydd ar agor gyda gwrthlif yn ystod y dydd (06:00 – 20:00 o’r gloch). Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro amrywiol yn weithredol yn ysbeidiol, a phan fydd arwyddion traffig yn dangos hynny, o 20:00 o’r gloch ar 1 Tachwedd 2024 nes y bydd y gwaith wedi ei gwblhau a hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd yn cymryd mwy na 18 mis i orffen y gwaith.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd

J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

ATODLEN 1

Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin y gefnffordd sy’n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyfnewidfa Castell-nedd yr A465/A474 hyd at ei chyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Llandarcy Cyffordd 43 yr M4/ A465, gan gynnwys y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyfnewidfa Castell-nedd a chilfan y gefnffordd sy’n gyfagos i gerbytffordd tua’r gorllewin yr A465.

Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain y gefnffordd sy’n ymestyn o’i chyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Llandarcy Cyffordd 43 yr M4/A465 hyd at drwyniad ffordd ymuno tua’r dwyrain Cyfnewidfa Castell-nedd yr A465/A474.

Y llwybrau eraill

Y llwybr arall ar gyfer cerbydau traffordd sy’n teithio tua’r gorllewin o Gyfnewidfa Castell-nedd fydd mynd ar yr A474 tua’r gogledd-orllewin hyd at Gylchfan Mynachlog Nedd, yr A4230 tua’r gorllewin hyd at Gyffordd 44 yr M4 (Lôn Las) a’r M4 tua’r dwyrain hyd at Gyffordd 43 (Llandarcy): i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig traffordd sy’n teithio tua’r dwyrain o Gyffordd 43.

Y llwybr arall ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau traffordd a beicwyr sy’n teithio tua’r gorllewin o Gyfnewidfa Castell-nedd fydd mynd ar yr A474 tua’r gogledd-orllewin i Gylchfan Mynachlog Nedd, yr A4230 tua’r gorllewin a’r B4290 tua’r gorllewin hyd at Gyffordd 43 yr M4 (Llandarcy): i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau traffordd a beicwyr sy’n teithio tua’r dwyrain o Gyffordd 43.

Y llwybr arall ar gyfer cerbydau llydan a cherbydau trwm sy’n teithio tua’r gorllewin o Gyfnewidfa Castell-nedd fydd mynd ar yr A465 tua’r dwyrain hyd at Gylchfan Cefncoedycymer, Merthyr Tudful, yr A470 tua’r de hyd at Gyffordd 32 yr M4 (Coryton) a’r M4 tua’r gorllewin hyd at Gyffordd 43 (Llandarcy): i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau llydan sy’n teithio tua’r dwyrain o Gyffordd 43.

ATODLEN 2

Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin y gefnffordd sy’n ymestyn o’r pwynt croesi wrth drwyniad y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyfnewidfa Castell-nedd am bellter o tua 2.3 cilometr.

Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain y gefnffordd sy’n ymestyn o’r pwynt croesi wrth y gyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Llandarcy Cyffordd 43 yr M4/A465 am bellter o tua 2.3 cilometr.

STATUTORY NOTICE

For a large print copy of this Notice, contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales

THE A465 TRUNK ROAD (NEATH TO LLANDARCY, NEATH PORT TALBOT)
(TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS & RESTRICTIONS) ORDER 2024

THE WELSH MINISTERS have made an Order under sections 14 and 15(2) of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A465 trunk road between Neath and Llandarcy.

The effect of the Order is to temporarily:

i. Prohibit all vehicles from proceeding on the lengths of the A465 trunk road specified in Schedule 1 to this Notice. The alternative route arrangements are also described therein.

ii. Close either the westbound or eastbound carriageway and prohibit overtaking on the length of the A465 trunk road described in Schedule 2 to this Notice. Contra-flow will operate in the offside lane of whichever carriageway remains open to traffic.

iii. Prohibit vehicles over 2.9 metres wide and vehicles with a weight of or over 44 tonnes from proceeding on the lengths of the A465 trunk road specified in the Schedules to this Notice. The alternative route is described in Schedule 1.

iv. Prohibit cyclists from proceeding on the lengths of the A465 trunk road specified in the Schedules to this Notice.

v. Impose a 30 mph, 40 mph or 50 mph speed limit on the lengths of the A465 trunk road specified in the Schedules to this Notice.

The Order comes into force on 1 November 2024. The road is expected to be closed at night (20:00 – 06:00 hours) but open under contraflow during the day (06:00 – 20:00 hours). The various temporary prohibitions and restrictions are expected to operate intermittently, and when indicated by traffic signs, from 20:00 hours on 1 November 2024 until the works are complete and the temporary traffic signs are permanently removed. The Welsh Ministers are satisfied that the works will take longer than 18 months.

A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders

J SADDLER, Transport, Welsh Government

SCHEDULE 1

The length of the westbound carriageway of the trunk road that extends from the nosing of the westbound exit slip road at the A465/A474 Neath Interchange to its junction with the main circulatory carriageway of the M4 Junction 43/A465 Llandarcy Interchange, including the westbound entry slip road at Neath Interchange and the trunk road layby adjacent to the A465 westbound carriageway.

The length of the eastbound carriageway of the trunk road that extends from its junction with the main circulatory carriageway of the M4 Junction 43/A465 Llandarcy Interchange to the nosing of the eastbound entry slip road at the A465/A474 Neath Interchange.

Alternative routes

The alternative route for westbound motorway vehicles from Neath Interchange will be via the north-westbound A474 to Neath Abbey Roundabout, westbound A4230 to the M4 Junction 44 (Lon Las) and eastbound M4 to Junction 43 (Llandarcy): vice versa for eastbound motorway traffic from Junction 43.

The alternative route for westbound non-motorway vehicles and cyclists from Neath Interchange will be via the north-westbound A474 to Neath Abbey Roundabout, westbound A4230 and westbound B4290 to the M4 Junction 43 (Llandarcy): vice versa for eastbound non-motorway vehicles and cyclists from Junction 43.

The alternative route for westbound wide vehicles and heavy vehicles from Neath Interchange will be via the eastbound A465 to Cefn Coed Roundabout, Merthyr Tydfil, southbound A470 to the M4 Junction 32 (Coryton) and westbound M4 to Junction 43 (Llandarcy): vice versa for eastbound wide vehicles from Junction 43.

SCHEDULE 2

The length of the westbound carriageway of the trunk road that extends from the crossover point at the nosing of the westbound entry slip road at Neath Interchange for approximately 2.3 kilometres.

The length of the eastbound carriageway of the trunk road that extends from the crossover point at the junction with the main circulatory carriageway of the M4 Junction 43/A465 Llandarcy Interchange for approximately 2.3 kilometres.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact South Wales Evening Post directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 40 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association