St Mary Street - New Traffic Proposals
What is happening?
CYNIGION TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD
Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd, Rhan 6 Deddf Rheoli Traffig 2004 fel y’i diwygiwyd, Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013 a Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010, a’r holl bwerau galluogi eraill, yn bwriadu gosod cyfyngiadau traffig ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Disgrifir natur y cyfyngiadau a theitlau’r gorchmynion arfaethedig yn yr Atodlen honno hefyd.
Mae manylion y cynigion a’r cynlluniau sy’n dangos lleoliad a graddfa’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/gorchmyniontraffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais drwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod.
Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau eraill sy’n ymwneud â’r gorchmynion yn ysgrifenedig ar neu cyn 20 Tachwedd 2024 neu drwy ebost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk a rhaid nodi eich rhesymau dros wrthwynebu. Gellir datgelu gohebiaeth fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi.
Atodlen
1. Mae Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 (Diwygiad Rhif 81) 2024 yn cynnig:
Cyflwyno man parcio Dau-Ddefnydd ar Heol Eglwys Fair Isaf - ar ochr y de-orllewin o bwynt 14 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Stryd Wood am 33.5 metr i’r de-ddwyrain ac; ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 15 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Lôn y Felin am 27 metr i’r gogledd -orllewin.Effaith gyffredinol y gorchymyn a gynigir fydd:
a. Creu man parcio cerbydau nwyddau rhwng 06.00 -17:59 i’w ddefnyddio gan gerbydau nwyddau yn unig at ddibenion llwytho a dadlwytho aros am gyfnod o hyd at 1 awr(dim dychwelyd o fewn 2 awr) a
b. Creu Safle Tacsi rhwng 18:01 a 05:59 (dros nos) i’w ddefnyddio gan Dacsis
2. Creu Man Llwytho Cerbydau Nwyddau lle mae aros wedi’i gyfyngu i gerbydau nwyddau yn unig at ddibenion llwytho a dadlwytho am uchafswm cyfnod o 1 awr (dim dychwelyd o fewn 2 awr) yn Heol Eglwys Fair Isaf ar yr ochr dde-orllewinol o bwynt 90.10 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Stryd Wood am bellter o 35.6 metr i’r de-ddwyrain.
3. Gwahardd unrhyw gerbyd (ac eithrio tacsis) rhag stopio bob amser yn Heol Eglwys Fair Isaf ar yr ochr dde orllewin o bwynt 47.5 metr i’r deddwyrain o’r gyffordd â Stryd W ood am bellter o 42.6 metr i’r de ddwyrain.
30 Hydref 2024 Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW
NEW TRAFFIC PROPOSALS FOR THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF
Notice is hereby given that The County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984 as amended, Part 6 of the Traffic Management Act 2004 as amended, The Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013 and The Civil Enforcement of Parking Contraventions (City and County of Cardiff) Designation Order 2010 and of all other enabling powers intends to impose traffic restrictions on the lengths of road referred to in the Schedule below. The nature of the restrictions and the titles of the proposed orders are also described in the said Schedule.
Details of the proposals and plans showing the location and extent of the proposed restrictions are available at www.cardiff.gov.uk/trafficorders. In addition you can obtain copies of the same by sending an email request to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below.
Any objections and other representations relating to the orders must be submitted in writing on or before 20 November 2024 or by email to roadtrafficorderobjections@ cardiff.gov.uk and must contain the grounds on which you object. Correspondence may be disclosed as required by the Freedom of Information Act 2000.
The Council welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
Schedule
1. The County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2024 (Amendment No.81) Order 2024 proposes to:
Introduce Dual Use parking bay in Lower St Mary Street on its south west side from a point 14 metres south east of its junction with Wood Street for a distance of 33.5 metres south east and on its north east side from a point 15 metres north west of its junction with Mill Lane for a distance of 27 metres north west. The general effect of the proposed order which will be to:
a. Create a goods vehicle parking bay between the hours of 06.00 -17:59 for use by goods vehicles only for the purpose of loading and unloading waiting for a maximum period of 1 hour (no return within 2 hours) and
b. Create a Taxi Rank between the hours of 18.00 – 05:59 (overnight) for use by taxis only
2. Create a Goods Vehicle Loading Bay where waiting is restricted to goods vehicles only for the purpose of loading and unloading for a maximum period of 1 hour (no return within 2 hours) in Lower St Mary Street on its south west side from a point 90.10 metres south east of its junction with Wood Street for a distance of 35.6 meters south east.
3. Prohibit any vehicle (except taxi’s) from stopping at all times in Lower St Mary Street on its south west side from a point 47.5 metres south east of its junction with Wood Street for a distance of 42.6 metres south east.
30 October 2024 Director for Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: