A55 Trunk Road - Temporary Prohibition of Vehicles, Cyclists & Pedestrians For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A55 (Y GERBYTFFORDD TUA’R DWYRAIN RHWNG CYFFORDD 24 (CYFNEWIDFA’R FAENOL), CONWY A CHYFFORDD 27 (CYFNEWIDFA TALARDY), SIR DDINBYCH) (GWAHARDD CERBYDAU, BEICWYR A CHERDDWYR DROS DRO) 2024
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A55, neu gerllaw iddi, rhwng Cyffordd 24 (Cyfnewidfa’r Faenol), Abergele, Conwy a Chyffordd 27 (Cyfnewidfa Talardy), Llanelwy, Sir Ddinbych.
Effaith y Gorchymyn fydd gwahardd dros dro bob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith), a phob beiciwr a cherddwr rhag mynd ar y darnau o’r A55 a bennir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybr arall yn yr Atodlen hefyd.
Ni all cerbydau sy’n fwy na 3 metr o led ddefnyddio’r llwybr arall a dylent gael eu parcio dros nos mewn ardaloedd dynodedig er mwyn aros i’r ffordd ailagor.
Disgwylir y bydd y gwaharddiadau dros dro yn dod i rym ar 3 Tachwedd 2024 ac yn weithredol dros nos (20:00 - 06:00 o’r gloch) hyd 30 Tachwedd 2024 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
1. Y darn o brif gerbytffordd tua’r dwyrain yr A55 rhwng ffordd ymadael tua’r dwyrain Cyffordd 24 (Cyfnewidfa’r Faenol) a Chyffordd 27 (Cyfnewidfa Talardy).
2. Y darn o ffordd ymuno tua’r dwyrain Cyffordd 24 (Cyfnewidfa’r Faenol).
3. Y darnau o ffyrdd ymuno tua’r dwyrain Cyffordd 25 (Bodelwyddan) a Chyffordd 26 (Parc Busnes Llanelwy).
Y llwybr arall yw ymadael â’r gerbytffordd tua’r dwyrain wrth Gyffordd 24 (Cyfnewidfa’r Faenol) a mynd ar hyd yr A547 tua’r dwyrain a’r A525 tua’r de i ailymuno â’r A55 drwy ddilyn ffordd ymuno tua’r dwyrain Cyffordd 27 (Cyfnewidfa Talardy).
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice, contact 03000 255 454 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A55 TRUNK ROAD (EASTBOUND CARRIAGEWAY BETWEEN JUNCTION 24 (FAENOL INTERCHANGE), CONWY & JUNCTION 27 (TALARDY INTERCHANGE), DENBIGHSHIRE) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES, CYCLISTS & PEDESTRIANS) ORDER 2024
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A55 trunk road between Junction 24 (Faenol Interchange), Abergele, Conwy and Junction 27 (Talardy Interchange), St Asaph, Denbighshire.
The effect of the Order is to temporarily prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and the works), cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the A55 specified in the Schedule to this Notice. The alternative route is also described therein.
Vehicles greater than 3 metres wide will be unable to use the alternative route and should park up overnight at designated areas to wait for the road to reopen.
The temporary prohibitions are expected to come into force on 3 November 2024 and operate overnight (20:00 - 06:00 hours) until 30 November 2024 or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to operate during the period specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required.
Advance notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE
1. The length of the main A55 eastbound carriageway between the eastbound exit slip road at Junction 24 (Faenol Interchange) and Junction 27 (Talardy Interchange).
2. The length of the eastbound entry slip road at Junction 24 (Faenol Interchange).
3. The lengths of the eastbound entry slip roads at Junction 25 (Bodelwyddan) and Junction 26 (St Asaph Business Park).
The alternative route is to leave the eastbound carriageway at Junction 24 (Faenol Interchange) and proceed along the A547 eastbound and A525 southbound to rejoin the A55 via the Junction 27 (Talardy Interchange) eastbound on slip.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: