Heronston Lane - Temporary Traffic Order A Water Main Replacement
What is happening?
GORCHYMYN TRAFFIG DROS DRO CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR (LÔN HERNSTON, PEN-YBONT AR OGWR) 2024
RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod y Cyngor fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, wrth arfer ei bwerau dan Adran 14(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), yn bwriadu creu Gorchymyn, a hynny heb fod yn llai na 7 diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn, a fydd yn cyflwyno’r cyfyngiadau a nodir yn yr atodlen isod. Mae’r Gorchymyn ar gyfer gwaith disodli prif bibell ddŵr ac nid oes digon o led o gerbytffordd i gynnal mynediad i gerbydau yn ystod y gwaith.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 30/09/2024 a bydd yn parhau mewn grym am uchafswm o 18 mis neu nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau, p’un bynnag sydd gynharaf.
Rhagwelir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud rhwng 08:00 a 18:00 o 30/09/2024 i 04/10/2024.
Atodlen - Ni fydd unrhyw berson yn achosi i unrhyw gerbyd fynd ar hyd Lôn Hernston, Pen-y-bont ar Ogwr 10 metr o’i chyffordd â Heol Ewenni. Y llwybr amgen ar gyfer cerbydau yw ar hyd Lôn Hernston, B4265 Heol Ewenni, Ffordd Osgoi yr A48, Lôn Hernston ac i’r gwrthwyneb.Bydd mynediad i’r holl wasanaethau brys yn cael ei gynnal yn ystod y cyfyngiadau a bydd mynediad i bob eiddo yn cael ei gynnal yr holl amser. Fodd bynnag, bydd y cyfyngiad ond yn berthnasol ar adegau ac i’r graddau a ddangosir o bryd i’w gilydd gan arwyddion traffig a ragnodir gan Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016.
Dyddiad: 19/09/2024
K Watson, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol - Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.
BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL (HERONSTON LANE, BRIDGEND) TEMPORARY TRAFFIC ORDER 2024
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Council as the Highway Authority for Bridgend in exercise of its powers under Section 14(1) of the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) intends in not less than 7 days from the date of this Notice to make an Order which will temporarily introduce the restriction set out in the schedule below. The Order is due to a water main replacement and there is insufficient width of carriageway to maintain vehicular access during works. The Order will come into force on the 30/09/2024 and will continue in force for a maximum period of 18 months or until such time as the works are completed, whichever is the sooner. It is anticipated the planned works will be undertaken between the hours of 08:00 and 18:00 from 30/09/2024 to 04/10/2024.
Schedule - No person shall cause any vehicle to proceed along Heronston Lane, Bridgend 10 meters from its junction with Ewenny Road. The alternative route for vehicles is via Hernston Lane, B4265 Ewenny Road, A48 By Pass Road, Hernston Lane and Vice Versa.
Access to all emergency services will be maintained during the restrictions and access to all properties will be maintained at all times. The restrictions shall however only apply at such time and to such extent as shall from time to time be indicated by traffic signs prescribed by The Traffic Signs Regulations and General Directions 2016.
Dated: 19/09/2024
K Watson, Chief Officer Legal & Regulatory Services, Human Resources and Corporate Policy – Chief Executive’s Directorate, Bridgend County Borough Council, Civic Offices, Angel Street, Bridgend CF31 4WB
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Glamorgan Gazette directly at: