Various Roads - Introduce Prohibition Of Driving Restrictions
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
(FFYRDD AMRYWIOL, PONTYPRIDD - EISTEDDFOD) GORCHYMYN (CYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2024
DYMA HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn bwriadu gwneud Gorchymyn, ar ôl o leiaf 7 diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad yma, o dan Adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991, a fydd yn para deunaw mis ar y mwyaf.
Mae angen cau’r ffyrdd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod yr Eisteddfod.
Effaith y Gorchymyn fydd: -
1. Atal y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sydd wedi’u nodi yn Atodlen 1 dros dro
2. Cyflwyno cyfyngiadau gwahardd gyrru ar hyd y ffyrdd sydd wedi’u nodi yn Atodlen 2
3. Cyflwyno cyfyngiadau gwahardd gyrru ac eithrio Deiliaid Trwyddedau ar hyd y ffyrdd sydd wedi’u nodi yn Atodlen 3
4. Cau Stryd y Bont, Pontypridd, dros dro, fel sydd wedi’i nodi yn Atodlen 4
5. Cau’r gilfan/man parcio, fel sydd wedi’i nodi yn Atodlen 5, dros dro
6. Cyflwyno cyfyngiadau Gwahardd Stopio ac eithrio bysiau ar Stryd y Bont, Pontypridd, fel sydd wedi’i nodi yn
Atodlen 6
7. Cyflwyno cyfyngiadau Gwahardd Stopio ar Heol Berw, Pontypridd, fel sydd wedi’i nodi yn Atodlen 7 8. Cau’r llwybrau cyhoeddus sydd wedi’u nodi yn Atodlen 8 dros dro
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau’r gwasanaethau brys.
Disgwylir i’r cyfyngiadau fod ar waith rhwng y dyddiadau a’r amseroedd a nodir yn yr Atodlenni a ganlyn, neu hyd nes y bydd yr achlysur wedi dod i ben: -
Atodlen 1 – Atal Cyfyngiadau Dros Dro
1. Bydd “Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Canol Tref Pontypridd) (Diddymu, Amrywio, Gwahardd Gyrru, Cyfyngiadau Aros a Llwytho, Cilfachau Llwytho a Lleoedd Parcio i’r Anabl) 2012” yn cael ei amrywio fel a ganlyn:
a. Erthygl 5, Gwahardd Gyrru
b. Erthygl 18, Eithriadau
2. Bydd “Gorchymyn Cyngor Sir Morgannwg Ganol (Stryd y Bont (Llwybr yr A4223) Pontypridd) (Gwahardd Mynediad) 1977” yn cael ei atal er mwyn caniatáu mynediad i fysiau yn rhan o Atodlen 5 i’r Gorchymyn yma. Hyd - rhwng 3 Awst a 11 Awst 2024
Atodlen 2 – Gwahardd Gyrru Dros Dro
1. Ni chaiff unrhyw un achosi i unrhyw gerbyd fynd ar hyd y darnau canlynol o’r ffordd rhwng yr oriau 9.00am ac 1.00am
Hyd - rhwng 3 Awst a 11 Awst 2024
Parth Gwaharddedig yn Ardal Ddeheuol Canol y Dref
a. Stryd y Taf rhwng ei chyffordd â Stryd Traws y Nant a’r Stryd Fawr.
b. Lôn Penuel rhwng ei chyffordd â Stryd y Taf a phwynt 27 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Heol Gelliwastad.
c. Heol y Weithfa Nwy yn ei chyfanrwydd
d. Stryd y Farchnad yn ei chyfanrwydd
e. Stryd yr Eglwys o’i chyffordd â Stryd y Farchnad, hyd at 53 metr i’r gorllewin
f. Stryd y Felin rhwng tanffordd Stryd y Santes Catrin a’i chyffordd â Stryd y Taf, gan gynnwys yr ardal sy’n ffinio â Stryd y Felin.
g. Stryd y Santes Catrin, y farchnad awyr agored
h. Iard wasanaeth y tu ôl i Stryd y Taf a 42 Stryd y Felin
i. Y Stryd Fawr o’i chyffordd â Stryd y Taf hyd at ei chyffordd â Heol Sardis/Broadway
j. Y ffordd fynediad ddienw rhwng Rhif 92a a 93 Stryd y Taf, sy’n arwain at Barc Ynysangharad, yn ei chyfanrwydd.
k. Maes Dirwest yn ei gyfanrwydd.
l. Lôn Ochr y Parc yn ei chyfanrwydd.
m. Y ffordd fynediad ddienw a leolir rhwng Rhif 84 ac 85 Stryd y Taf yn ei chyfanrwydd
2. Bydd yr eithriadau canlynol yn berthnasol i’r cyfyngiadau Gwahardd Gyrru uchod drwy’r Parth Gwaharddedig yn Ardal Ddeheuol Canol y Dref rhwng 9am ac 1am: -
a. Ambiwlans neu frigâd dân neu gerbyd heddlu y mae’n ofynnol iddyn nhw fod ar y ffyrdd a amlinellir yn atodlen 2 yn unol â’u pwerau neu ddyletswyddau statudol;
b. Yn unol â chyfarwyddyd gan yr heddlu
c. Cerbyd o fewn gwasanaeth y Cyngor yn unol â phwerau a dyletswyddau statudol o fewn y ffyrdd a
amlinellir yn atodlen 2.
d. Cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben dosbarthu neu gasglu pecynnau post gan ddarparwr gwasanaeth cyffredinol fel y’i diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Post 2000 (addasiadau canlyniadol i ddeddfiad lleol Rhif 1) (Gorchymyn 2001) (OS 2001/648)
e. Cerbyd a ddefnyddir at ddiben danfon neu gasglu arian bwliwn neu warantau mewn swyddogaeth fasnachol i neu o safle sydd ar y ffyrdd a amlinellir yn atodlen 2.
f. Defnydd sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw ar neu mewn eiddo ar unrhyw ffordd a amlinellir yn atodlen 2 neu gerllaw.
g. Gwaith cynnal a chadw brys, atgyweirio neu addasiadau yn ôl yr angen i ddiogelu’r cyhoedd.
h. Wedi’i awdurdodi yn ôl disgresiwn y Cyngor.
i. Yn gysylltiedig â gweithrediad y Farchnad
Atodlen 3 – Gwahardd Gyrru Dros Dro ac eithrio Deiliaid Trwyddedau
1. Ni chaiff unrhyw un achosi i unrhyw gerbyd ac eithrio deiliaid trwydded i fynd ar hyd y darnau canlynol o ffordd rhwng yr oriau 9.00am a 1.00am
Hyd - rhwng 3 Awst a 11 Awst 2024
Parth Gwaharddedig yn Ardal Ogleddol Canol y Dref
a. Stryd y Taf o’i chyffordd â Stryd y Bont i gyfeiriad de-orllewinol cyffredinol hyd at ffin dde-orllewinol Rhif 26 ac 27.
b. Stryd Traws y Nant yn ei chyfanrwydd
c. Y ffordd fynediad ddienw sy’n arwain at Faes Parcio Heol y Weithfa Nwy yn ei chyfanrwydd.
Atodlen 4 – Cau Ffyrdd Dros Dro
1. Stryd y Bont, Pontypridd – y rhan o’r ffordd gerbydau o flaen eiddo Rhif 11 – 17 Stryd y Bont Ffordd Amgen - Ar gael ar hyd yr A4223 Stryd y Bont
Hyd - rhwng 3 Awst a 11 Awst 2024
Atodlen 5 – Cau Cilfan/Man Parcio Dros Dro
1. Y gilfan/mannau parcio heb gyfyngiadau a leolir ar ochr dde-ddwyreiniol Heol Navigation o bwynt 33 metr i’r gogledd-ddwyrain o ffin orllewinol Tŷ Ynysmeurig i gyfeiriad gogledd dwyreiniol am bellter o 47.5 metr
Hyd – rhwng 6.00pm ar 2 Awst a 11 Awst 2024
Atodlen 6 – Gwahardd Stopio ac eithrio Bysiau Dros Dro
1. Stryd y Bont, Pontypridd – y rhan o’r ffordd gerbydau o flaen eiddo Rhif 11 – 17 Stryd y Bont Nodwch: Bydd danfoniadau yn cael eu hwyluso ar gyfer busnesau lleol. Bydd y ffordd yn cael ei hailagor er mwyn darparu llwybr cylchol i fysiau.
Hyd - rhwng 3 Awst a 11 Awst 2024
Atodlen 6 - Gwahardd Stopio Dros Dro
1. Heol Berw o ochr ogledd-ddwyreiniol ei chyffordd â’r Bont Wen, tua’r gogledd-ddwyrain am bellter o 285 metr.
Hyd – rhwng 1 Awst a 11 Awst 2024
Atodlen 7 – Cau Llwybr Cyhoeddus Dros Dro
1. Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) o ochr orllewinol y Bont Droed dros yr A470 (ger Heol Pentrebach), tua’r gogledd-ddwyrain am bellter o 550 metr
Llwybr Arall – ar gael drwy Heol Pentrebach, Heol Ynysangharad, Cylchfan Stryd y Bont a Stryd y Bont
2. Cau Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) wrth y bont droed wrth ymyl Rhif 93 Stryd y Taf Llwybr Amgen - ar hyd y rhwydwaith priffyrdd presennol
3. Cau Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) wrth gatiau gogleddol Parc Ynysangharad
Llwybr Amgen - ar hyd y rhwydwaith priffyrdd presennol
Hyd - rhwng 2 Awst a 12 Awst 2024
Dyddiad 19 Gorffennaf 2024
Andrew Wilkins
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
RHONDDA CYNON TAFF COUNTY BOROUGH COUNCIL
(VARIOUS ROADS, PONTYPRIDD - EISTEDDFOD) (TEMPORARY TRAFFIC RESTRICTIONS) ORDER 2024
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Rhondda Cynon Taff County Borough Council, intends, not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under Section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, as amended by the Road Traffic (Temporary Restrictions) Act 1991, which will have a maximum duration of eighteen months.
The closure is necessary in the interests of public safety during the Eisteddfod event.
The effect of the Order will be as follows: -
1. Temporarily suspend the Traffic Regulation Orders as specified in Schedule 1
2. Introduce Prohibition of Driving restrictions on the lengths of roads specified in Schedule 2
3. Introduce Prohibition of Driving restrictions except for Permit Holders on the lengths of roads specified in Schedule 3
4. Temporarily close Bridge Street, Pontypridd as specified in Schedule 4
5. Temporarily close the layby/parking bay as specified in Schedule 5
6. Introduce Prohibition of Stopping except for buses on Buses on Bridge Street, Pontypridd as specified in Schedule 6
7. Introduce Prohibition of Stopping on Berw Road, Pontypridd as specified in Schedule 7
8. Temporarily close the public paths as specified in Schedule 8
Access will be maintained for pedestrians and emergency services.
The restrictions are expected to be in operation between the dates and times specified in the following Schedules, or until such time as the event has been completed: -
Schedule 1 – Temporary Suspension
1. The “Rhondda Cynon Taff County Borough Council (Pontypridd Town Centre) (Revocation, Variation, Prohibition of Driving, Waiting and Loading Restrictions, Loading Bays and Disabled Parking Places) Order 2012 “shall be suspended in part by the suspension of the following articles:
a. Article 5, Prohibition of Driving
b. Article 18, Exemptions
2. The “Mid Glamorgan County Council (Bridge Street (Route A4223) Pontypridd) (Prohibition of Entry) Order 1977” shall be suspended to allow access for buses in Schedule 5 to this Order
Duration – 3rd August – 11th August 2024
Schedule 2 – Temporary Prohibition of Driving
1. No person shall cause any vehicle to proceed along the following lengths of road between the hours of 9:00am – 1:00am
Duration – 3rd August – 11th August 2024
Town Centre Southern Prohibited Zone
a. Taff Street between its junction with Crossbrook Street and High Street.
b. Penuel Lane between its junction with Taff Street and a point 27 metres east of its junction with Gelliwastad Road.
c. Gas Road for its entire length
d. Market Street for its entire length.
e. Church Street from its junction with Market Street westwards for a distance of 53 metres
f. Mill Street between the Catherine Street underpass and its junction with Taff Street, including the area bound by Mill Street.
g. Catherine Street, the open air market
h. The Taff Street rear service yard and 42 Mill Street
i. High Street from its junction with Taff Street to its junction with Sardis Road and Broadway
j. The unnamed access road situated between No. 92a and 93 Taff Street leading to Ynysangharad Park for its entire length
k. Temperance Place for its entire length
l. Park Side Lane for its entire length
m. The unnamed access road situated between No. 84 and 85 Taff Street for its entire length
2. The following exemptions shall apply to the above Prohibition of Driving through the Southern Prohibition Zone between 9am – 1am: -
a. An ambulance or a fire brigade or police vehicle required to be in the roads outlined in schedule 2 in pursuance of their statutory powers or duties;
b. So directed by the police
c. A vehicle within the service of the Council in pursuance of statutory powers and duties within the roads outlined in schedule 2.
d. A vehicle being used for the purpose of delivering or collecting postal packets by a universal service provider as defined in the postal services act 2000 (consequential modifications to local enactment No.1) (Order 2001) (SI 2001/648)
e. A vehicle used for the purpose of delivering or collecting bullion monies or securities in a commercial capacity to or from a premises situation on the roads outlined in schedule 2.
f. Being used in connection with the carrying out maintenance on or in premises on or adjacent to any road outlined in schedule 2.
g. Emergency maintenance, repair or alterations as required to safeguard the public.
h. So Authorised at the Councils discretion.
i. Associated with the operation of the Market
Schedule 3 – Temporary Prohibition of Driving Except for Permit Holders
1. No person shall cause any vehicle except for permit holders to proceed along the following lengths of road between the hours of 9:00am – 1:00am
Duration – 3rd August – 11th August 2024
Town Centre Northern Prohibited Zone
a. Taff Street from its junction with Bridge Street in a general south westerly direction to the southwestern boundary of No. 26 to 27.
b. Crossbrook Street in its entirety
c. The unnamed access road leading to Gas Road Car Park in its entirety.
Schedule 4 – Temporary Road Closure
1. Bridge Street, Pontypridd – the section of carriageway fronting the properties No. 11 – 17 Bridge Street
Alternative route – available via A4223 Bridge Street
Duration – 3rd August – 11th August 2024
Schedule 5 – Temporary Layby / Parking Bay Closure
1. The layby / uncontrolled parking bays located on the southeastern side of Navigation Road from a point 33 metres northeast of the western boundary of Ynysmeurig House in a north easterly direction for a distance of 47.5 metres
Duration – from 6:00pm on 2nd August – 11th August 2024
Schedule 6 – Temporary Prohibition of Stopping except for Buses
1. Bridge Street, Pontypridd – the section of carriageway fronting the properties No. 11 – 17 Bridge Street NB deliveries will be facilitated for local businesses. The road will be re-opened for the purpose of providing a circular route for coaches.
Duration – 3rd August – 11th August 2024
Schedule 6 – Temporary Prohibition of Stopping
1. Berw Road, from the north eastern side of its junction with the White Bridge, north eastwards for a distance of 285 metres.
Duration – 1st August – 11th August 2024
Schedule 7 – Temporary Public Path Closure
1. The National Cycle Network (NCN) Route 4, from the western side of the Footbridge over the A470 (adjacent to Pentrebach Road), north-eastwards for a distance of 550 metres
Alternative Route – available via Pentrebach Road, Ynysangharad Road, Bridge Street Roundabout and Bridge Street
2. The National Cycle Network (NCN) Route 4, to be closed at the footbridge to the side of No. 93 Taff Street
Alternative route available via existing highway network
3. The National Cycle Network (NCN) Route 8, to be closed at the northern gates of Ynysangharad Park
Alternative route available via existing highway network
Duration – 2nd August – 12th August 2024
Dated 19th July 2024
Andrew Wilkins Director of Legal and Democratic Services 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: