Merthyr Mawr Road - Temporary Traffic Order To Maintain Vehicular Access During Carriageway Resurfacing Works
What is happening?
GORCHYMYN TRAFFIG DROS DRO (MERTHYR MAWR ROAD, PEN-Y-BONT AR OGWR) CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR 2024
RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN bod y Cyngor fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr wrth arfer ei bwerau dan Adran 14(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), heb fod yn llai na 7 diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn, yn bwriadu creu Gorchymyn a fydd yn cyflwyno’r cyfyngiadau a nodir yn yr atodlen isod. Mae’r Gorchymyn yn angenrheidiol am nad yw’r lôn gerbydau yn ddigon llydan i gynnal mynediad i gerbydau wrth ailosod wyneb y briffordd ac er budd diogelwch y cyhoedd. Daw’r Gorchymyn i rym ar 22/07/2024 a bydd yn parhau mewn grym am uchafswm o 18 mis neu hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, p’un bynnag sydd gynharaf. Rhagwelir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud rhwng 08:00 a 17:00 o 22/07/2024 i 24/07/2024. Atodlen - Ni fydd unrhyw berson yn achosi i unrhyw gerbyd fynd ar hyd Merthyr Mawr Road, Pen-y-bont ar Ogwr, o’r gyffordd â St. Marie Street i’r gyffordd â Brynteg Avenue. Y llwybr amgen ar gyfer cerbydau yw:- Llwybr Amgen 1 - Brynteg Avenue, Ewenny Road, yr A473 Ffordd Osgoi fewnol Pen-ybont ar Ogwr a Merthyr Mawr Road. Llwybr Amgen 2 – St. Marie Street, Ewenny Road a Brynteg Avenue. Bydd mynediad trwy ardal y cyfyngiad i’r Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans sy’n ymateb i argyfyngau. Cynhelir mynediad i gerddwyr i bob eiddo o fewn ardal y cyfyngiad ar hyd llwybrau a ddiffinnir gydol y cyfnod cau. Fodd bynnag, bydd y cyfyngiad ond yn berthnasol ar adegau ac i’r graddau a ddangosir o bryd i’w gilydd gan arwyddion traffig a ragnodir gan Y Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016.
Dyddiad: 27/06/2024
K Watson, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol - Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.
BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL
(MERTHYR MAWR ROAD, BRIDGEND) TEMPORARY TRAFFIC ORDER 2024
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Council as the Highway Authority for Bridgend in exercise of its powers under Section 14(1) of the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) intends in not less than 7 days from the date of this Notice to make an Order which will temporarily introduce the restriction set out in the schedule below. The Order is necessary due to insufficient width of carriageway to maintain vehicular access during carriageway resurfacing works and is in the interest of public safety. The Order will come into force on the 22/07/2024 and will continue in force for a maximum period of 18 months or until such time as the works are completed, whichever is the sooner. It is anticipated the planned works will be undertaken between the hours of 08:00 and 17:00 from the 22/07/2024 to 24/07/2024. Schedule - No person shall cause any vehicle to proceed along Merthyr Mawr Road, Bridgend, from its junction with St. Marie Street to the junction with Brynteg Avenue. The alternative route for vehicles is via: - Alternative Route 1 - Brynteg Avenue, Ewenny Road, A473 Bridgend inner By-Pass and Merthyr Mawr Road. Alternative Route 2 - St. Marie Street, Ewenny Road and Brynteg Avenue. Access will be provided through the restriction for Police, Fire and Ambulance Services responding to emergencies. Pedestrian access to all properties within the restriction will be maintained along defined routes throughout the period of the closure. The restrictions shall however only apply at such time and to such extent as shall from time to time be indicated by traffic signs prescribed by The Traffic Signs Regulations and General Directions 2016.
Dated: 27/06/2024
K Watson, Chief Officer Legal & Regulatory Services, Human Resources and Corporate Policy – Chief Executive’s Directorate, Bridgend County Borough Council, Civic Offices, Angel Street, Bridgend CF31 4WB.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: