Footpath 20 Llanharan - Rail Crossing Diversion Order
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 119A GORCHYMYN GWYRO CROESFAN RHEILFFORDD
LLWYBR 20 LLANHARAN (CROESFAN RHEILFFORDD TRENOS)
Cafodd y gorchymyn uchod ei wneud ar 22 Chwefror 2024 o dan adran 119A o Ddeddf Priffyrdd 1980 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992). Bydd y gorchymyn yn dargyfeirio’r llwybr troed cyhoeddus ger Croesfan Rheilffordd Trenos fel sydd wedi’i nodi yn yr Atodlen i’r hysbysiad yma ac sydd i’w weld ar fap y gorchymyn.
Mae modd gweld copi o’r gorchymyn a map y gorchymyn am ddim yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) yn 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH ac yn Llyfrgell Pont-y-clun, Heol-y-Felin, Pont-y-clun, CF72 9BE yn ystod yr oriau agor arferol. Mae modd prynu copïau o’r gorchymyn a’r map yno am bris rhesymol.
Mae modd cyflwyno unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r gorchymyn yn ysgrifenedig at sylw Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH, erbyn 1 Ebrill 2024. Nodwch sail eich sylwadau.
Os na fydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau yn cael eu derbyn erbyn y dyddiad cau, neu os bydd rhai yn cael eu tynnu yn ôl, bydd modd i’r Cyngor gadarnhau’r Gorchymyn yn orchymyn diwrthwynebiad. Os bydd y gorchymyn yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau sydd heb eu tynnu yn ôl yn cael eu hanfon gyda’r gorchymyn.
ATODLEN
RHAN 1
DISGRIFIAD O SAFLE’R LLWYBR NEU FFORDD BRESENNOL
Y rhan honno o Lwybr Troed 20, Llanharan sy’n cychwyn i’r de o Brif Linell Reilffordd De Cymru yng nghyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS9880882845 ym mhwynt A ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad y gogledd gan fynd dros y rheilffordd ar hyd croesfan reilffordd Trenos, i’w therfyniad yng Nghoetir Brynna a Chors Llanharan i’r gogledd o’r rheilffordd yng nghyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS9879882877 ym mhwynt D; dyma’r llwybr AD sydd i’w weld ar Fap y Gorchymyn. Hyd: 36 metr Lled: Heb ei ddiffinio
RHAN 2
DISGRIFIAD O SAFLE’R LLWYBR NEU FFORDD BRESENNOL
Yn cychwyn wrth ei chyffordd â Llwybr Troed 20, Llanharan i’r de o Brif Linell Reilffordd De Cymru wrth gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS9880882845 ym mhwynt A, ac yn mynd dros y rheilffordd drwy bont droed â grisiau i gyfeiriad gorllewinol yn gyffredinol i gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS9878582842 ym mhwynt B. Yna mae’n mynd i gyfeiriad y gogledd yn gyffredinol i gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS9878082873 ym mhwynt C ac yna i gyfeiriad y dwyrain yn gyffredinol i ailymuno â Llwybr Troed 20, Llanharan o fewn Coetir Brynna a Chors Llanharan i’r gogledd o’r rheilffordd yng nghyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS9879882877 ym mhwynt D; dyma’r llwybr ABCD sydd i’w weld ar Fap y Gorchymyn. Hyd: 74 metr Lled: 1.8-3 metr
Dyddiad: 1 Mawrth 2024
Andrew Wilkins Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL
HIGHWAYS ACT 1980 SECTION 119A RAIL CROSSING DIVERSION ORDER FOOTPATH 20 LLANHARAN (TRENOS LEVEL CROSSING)
The above order was made on 22 February 2024 under section 119A of the Highways Act 1980 (as amended by the Transport and Works Act 1992). The order will divert the public footpath situate at Trenos Level Crossing as described in the Schedule to this notice and shown on the order map.
A copy of the order and the order map have been placed and may be seen free of charge at the offices of Rhondda Cynon Taf County Borough Council (“the Council”) at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH and at Pontyclun Library, Heol-yFelin, Pontyclun CF72 9BE during normal opening hours.
Copies of the order and map may be bought there for a
reasonable charge.
Any representations about or objections to the order may be sent in writing to the Director of Legal Services at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH to be received not later than 1 April 2024. Please state the grounds on which they are made.
If no such representations or objections are duly made, or if any so made are withdrawn, the Council may confirm the order as an unopposed order. If the order is sent to the Welsh Ministers for confirmation any representations and objections which have not been withdrawn will be sent with the order.
SCHEDULE
PART 1
DESCRIPTION OF SITE OF EXISTING PATH OR WAY
That part of Footpath 20, Llanharan commencing to the south of the South Wales Main Line at Ordnance Survey grid reference SS9880882845 at point A and proceeding in a generally north direction passing over the railway via the level crossing known as Trenos, to its termination within Brynna Woods and Llanharan Marsh to the north of the railway at Ordnance Survey grid reference SS9879882877 at point D; this being the route shown A-D on the Order Map. Length: 36 metres, Width: Undefined
PART 2
DESCRIPTION OF SITE OF NEW PATH OR WAY
Commences at its junction with Footpath 20, Llanharan to the south of the South Wales Main Line at Ordnance Survey grid reference SS9880882845 at point A, and proceeds over the railway via stepped footbridge in a generally west direction to Ordnance Survey grid reference SS9878582842 at point B. It then proceeds in a generally north direction to Ordnance Survey grid reference SS9878082873 at point C and then in a generally east direction to re-join Footpath 20, Llanharan within Brynna Woods and Llanharan Marsh to the north of the railway at Ordnance Survey grid reference SS9879882877 at point D; this being the route shown A-B-C-D on the Order Map. Length: 74 metres, Width: 1.8-3 metres
Date: 1 March 2024
Andrew Wilkins Director of Legal and Democratic Services 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: