The City And County Of Cardiff - Prohibitions And Restrictions Of Stopping, Waiting, Loading And Street Parking Places
What is happening?
GORCHMYNION TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD
Rhoddir hysbysiad drwy hyn ar 16 Chwefror 2024 bod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd wrth arfer ei bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), Rhan 6 Deddf Rheoli Traffig 2004 fel y’i diwygiwyd, Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010, Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013 a’r holl bwerau galluogi eraill, wedi gwneud Gorchmynion a fydd yn gosod cyfyngiadau traffig ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Disgrifir natur y cyfyngiadau hefyd yn yr Atodlen honno.
Daw’r Gorchmynion i rym ar 19 Chwefror 2024 neu ar y dyddiad y caiff y llinellau a’r arwyddion angenrheidiol eu gosod neu eu symud oddi ar y safle, pa un bynnag yw’r diweddaraf.
Mae copïau o’r Gorchmynion a’r cynlluniau yn dangos lleoliad a natur y cyfyngiadau ar gael a gallwch gael copi drwy anfon cais drwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy wneud cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod.
Os ydych am herio darpariaethau neu ddilysrwydd y Gorchymyn ar y sail nad ydynt o fewn y pwerau a ddyfernir gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, mewn perthynas â’r Gorchmynion, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos i 16 Chwefror 2024 at y diben hwn.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu unrhyw oedi.
ATODLEN
Mae GORCHYMYN CYNGOR SIR DINAS A SIR CAERDYDD (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU STOPIO, AROS, LLWYTHO A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (CYDGRYNHOI) 2023 (DIWYGIO RHIF 6) 2024 yn sefydlu Man Parcio i Bobl Anabl yn Comet Street ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 52 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Meteor Street am 6.6 metr i’r gogledd-ddwyrain (o fewn y man parcio i breswylwyr presennol)
MAE GORCHYMYN CYNGOR SIR DINAS A SIR CAERDYDD (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU STOPIO, AROS, LLWYTHO A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (CYDGRYNHOI) 2023 (DIWYGIAD RHIF 13) 2024 yn sefydlu Man Parcio i Bobl Anabl (i’w ddefnyddio gan unrhyw Ddeiliad Bathodyn Pobl Anabl) yn Stryd Albert ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 7 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Stryd Wellington am 6.6 metr i’r de-ddwyrain ac mae’n cynnig eich atal rhag gadael eich cerbyd ar unrhyw adeg yn Stryd Albert ar ddwy ochr y ffordd o’r gyffordd â Stryd Wellington am 7 metr i’r de-ddwyrain ac yn Stryd Wellington ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 7 metr i’r gogleddddwyrain o’r gyffordd â Stryd Albert i bwynt 7 metr i’r de-orllewin o’r un cyffordd
Dyddiad: 17 Chwefror 2024
Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW
NEW TRAFFIC ORDERS FOR THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF
Notice is hereby given that on the 16th February 2024, The County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984 as amended, Part 6 of the Traffic Management Act 2004 as amended, The Civil Enforcement of Parking Contraventions (City and County of Cardiff) Designation Order 2010 and The Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013 and of all other enabling powers made Orders the general effect of which is to impose traffic restrictions on the lengths of road referred to in the Schedule below. The nature of the restrictions are also described in the said Schedule.
The Orders will come into operation on 19th February 2024 or on the date that the necessary lines and signs are placed on or removed from site, whichever is the later.
Copies of the Orders and plans showing the location and extent of the restrictions are available and you can obtain copies by sending an email request to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below.
If you wish to question the Orders provisions or validity on the ground that it is not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act 1984, or on the ground that any requirement of, or any instrument made under the Act has not been complied with in relation to the Orders, you may, within six weeks from 16th February 2024 apply to the High Court for this purpose.
The Council welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
SCHEDULE
THE COUNTY COUNCIL OF THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF (PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS OF STOPPING, WAITING, LOADING AND STREET PARKING PLACES) (CONSOLIDATION) ORDER 2023 (AMENDMENT NO.6) ORDER 2024 will establish a Disabled Persons’ Parking Place in Comet Street on its north west side from a point 52 metres north east of its junction with Meteor Street for a distance of 6.6 metres north east (within the existing residents parking bay)
THE COUNTY COUNCIL OF THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF (PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS OF STOPPING, WAITING, LOADING AND STREET PARKING PLACES) (CONSOLIDATION) ORDER 2023 (AMENDMENT NO.13) ORDER 2024 will establish a Disabled Persons’ Parking Place (for use by any Disabled Persons’ Badge Holder) in Albert Street on its north east side from a point 7 metres south east of its junction with Wellington Street for a distance of 6.6 metres south east and will prevent you from leaving your vehicle at any time in Albert Street on both sides of the road from its junction with Wellington Street for a distance of 7 metres south east and in Wellington Street on its south east side from a point 7 metres north east of its junction with Albert Street to a point 7 metres south west of the same junction
Dated: 17th February 2024
Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: