Flintshire - Temporary Road Closure
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch
Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A55 (CYFFORDD 34 (CYFNEWIDFA
EWLOE) I FFIN CYMRU/LLOEGR, SIR Y FFLINT) (GWAHARDDIADAU
A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio
Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y
Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A55, neu gerllaw iddi, rhwng
Cyffordd 35 (Cyfnewidfa Dobshill) a ffin Cymru/Lloegr, Sir y Fflint.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:
i. Gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y
gwaith) rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A55 a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Ni
fydd y cerbytffyrdd tua’r dwyrain a thua’r gorllewin ar gau ar yr un pryd.
Disgrifir y trefniadau o ran y prif lwybrau eraill yn Atodlen 1 hefyd.
ii. Gwahardd cerbydau sy’n lletach na 3.2 metr rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A55 a bennir
yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Cyfarwyddir unrhyw gerbydau o’r fath i barcio mewn cilfannau
dynodedig nes y gellir eu hebrwng drwy’r safle gwaith.
iii. Gwahardd beicwyr a cherddwyr rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A55 a bennir yn Atodlen
1 i’r Hysbysiad hwn.
iv. Gosod terfynau cyflymder o 30 mya, 40 mya neu 50 mya ar y darnau o gefnffordd yr A55 a
bennir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn. Bydd y terfynau cyflymder is yn weithredol yn ysbeidiol yn
ystod cyfnodau’r gwaith ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
Fel rhan o’r gwaith caiff cerbytffyrdd a ffyrdd ymadael ac ymuno cysylltiedig eu cau’n gyfan gwbl dros
nos, a chaiff lonydd eu cau yn ystod y dydd gyda therfynau cyflymder is ac achosion o’u cau am 24
awr. Bydd arwyddion priodol yn cael eu dangos ar gyfer hyn oll.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 11 Chwefror 2024. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau
dros dro yn weithredol dros nos (18:00 – 06:00 o’r gloch) o ddydd Llun i ddydd Gwener, ynghyd ag
achosion o gau lonydd am 24 awr ar benwythnosau, o 11 Chwefror 2024 i 15 Ebrill 2024, neu nes
bod yr arwyddion traffig dros dro yn cael eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny,
bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r
gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd traffig dros dro
1. Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain y gefnffordd sy’n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r
dwyrain wrth Gyffordd 35 (Dobshill) hyd at ffin Cymru/Lloegr.
2. Y darnau o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gyffordd 35, y ffyrdd ymadael ac ymuno tua’r
dwyrain wrth Gyffordd 36 (Cyfnewidfa Warren) a’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gyffordd 36A.
3. Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin y gefnffordd sy’n ymestyn o ffin Cymru/Lloegr hyd at
drwyniad y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyffordd 35 (Dobshill).
4. Y darnau o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 36A, y ffyrdd ymadael ac ymuno tua’r
gorllewin wrth Gyffordd 36 (Cyfnewidfa Warren) a’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 35.
Llwybrau eraill
Y prif lwybr arall i draffig sy’n teithio tua’r dwyrain o Gyffordd 35 yw mynd ar yr A550 a’r B5373 tua’r de,
y B5102 tua’r dwyrain hyd at ei chyffordd â’r A483 wrth Gyffordd 7 (Cyfnewidfa’r Orsedd) a’r A483 tua’r
gogledd hyd at ei chyffordd â’r A55 wrth Gyffordd 38, i naill ai parhau ar hyd yr A483 tua’r gogledd neu
ymuno â’r A55 tua’r dwyrain: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin o Gyffordd 38.
Codir arwyddion priodol i nodi’r gwyriad ar gyfer llwybrau eraill a byddant yn amrywio gan ddibynnu ar ben
y daith a phryd y bydd darnau penodol o’r A55 a ddisgrifir uchod ar gau dros dro i draffig. Bydd llwybrau
eraill ar gael drwy fynd ar yr A550, yr A5104, y B5373, y B5125, yr A483 a’r A55, fel y bo’n briodol.
ATODLEN 2
Terfynau cyflymder dros dro o 30 mya, 40 mya neu 50 mya a
dim goddiweddyd
Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain y gefnffordd sy’n ymestyn o ganolbwynt Cyfnewidfa Ewloe
(Cyffordd 34) hyd at ffin Cymru/Lloegr.
Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin y gefnffordd sy’n ymestyn o ffin Cymru/Lloegr hyd at
ganolbwynt Cyfnewidfa Dobshill (Cyffordd 35).
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice
contact 03000 255 454 or email
Transportordersbranch@gov.wales
THE A55 TRUNK ROAD (JUNCTION 34 (EWLOE INTERCHANGE) TO
THE WALES/ENGLAND BORDER, FLINTSHIRE) (TEMPORARY TRAFFIC
PROHIBITIONS & RESTRICTIONS) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an
Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake
works on or near the A55 trunk road between Junction 35 (Dobshill Interchange) and the Wales/
England border, Flintshire.
The effect of the proposed Order will be to temporarily:
i. Prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services or for the works)
from proceeding on the lengths of the A55 trunk road specified in Schedule 1 to this Notice. The
eastbound and westbound carriageways will not be closed concurrently.
The main alternative route arrangements are also described in Schedule 1.
ii. Prohibit vehicles over 3.2 metres wide from proceeding on the lengths of the A55 trunk road
specified in Schedule 1 to this Notice. Any such vehicles will be directed to park in designated laybys
until such time that they can be escorted through the works site.
iii. Prohibit cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the A55 trunk road specified in
Schedule 1 to this Notice.
iv. Impose 30 mph, 40 mph or 50 mph speed limits on the lengths of the A55 trunk road specified
in Schedule 2 to this Notice. The reduced speed limits will operate intermittently during the work
periods and no overtaking will be permitted at these times.
The works will require a range of full overnight carriageway and associated slip road closures,
daytime lane closures with reduced speed limits and 24-hour closures, all of which will be
signed accordingly.
The Order will come into force on 11 February 2024. The temporary prohibitions and restrictions are
expected to operate overnight (18:00 – 06:00 hours) Monday to Friday, along with 24-hour closures
on weekends, from 11 February 2024 until 15 April 2024, or until the temporary traffic signs are
permanently removed.
Although the Order is only expected to operate during the dates specified above it will remain valid
for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or
consequential or other work is required.
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Temporary prohibition of traffic
1. The length of the eastbound carriageway of the trunk road that extends from the nosing of the
eastbound exit slip road at Junction 35 (Dobshill) to the Wales/England border.
2. The lengths of the eastbound entry slip road at Junction 35, eastbound exit and entry slip roads at
Junction 36 (Warren Interchange) and the eastbound entry slip road at Junction 36A.
3. The length of the westbound carriageway of the trunk road that extends from the Wales/England
border to the nosing of the westbound entry slip roat at Junction 35 (Dobshill).
4. The lengths of the westbound exit slip road at Junction 36A, westbound exit and entry slip roads
at Junction 36 (Warren Interchange) and the westbound exit slip road at Junction 35.
Alternative routes
The main alternative route for eastbound traffic from Junction 35 is via the southbound A550 and
B5373, eastbound B5102 to its junction with the A483 at Junction 7 (Rossett Interchange) and
northbound A483 to its junction with the A55 at Junction 38, to either continue on the northbound
A483 or join the eastbound A55: vice versa for westbound traffic from Junction 38.
Other alternative routes will be signed with appropriate diversion signs and will vary depending on
destination and when particular lengths of the A55 described above are temporarily closed to traffic.
Alternative routes will be available via the A550, A5104 B5373, B5125, A483 and A55, as appropriate.
SCHEDULE 2
Temporary 30 mph, 40 mph or 50 mph speed limits and
no overtaking
The length of the eastbound carriageway of the trunk road that extends from the centre-point of
Ewloe Interchange (Junction 34) to the Wales/England border.
The length of the westbound carriageway of the trunk road that extends from the Wales/England
border to the centre-point of Dobshill Interchange (Junction 35).
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: