Gorchymyn Sir Benfro (Llwybr Troed Cyd-Ddefnyddio Cyhoeddus Sp42/P1/3 Neuadd Coppet I Bont Wiseman) (Gwahardd Traffig Cerbydol A Thraffig Nad Yw'n Gerbydol Dros Dro) 2024
What is happening?
Gorchymyn Sir Benfro (Llwybr Troed Cyd-Ddefnyddio Cyhoeddus Sp42/P1/3 Neuadd Coppet I Bont Wiseman) (Gwahardd Traffig Cerbydol A Thraffig Nad Yw'n Gerbydol Dros Dro) 2024
Rhoddir Hysbysiad trwy hyn fod Cyngor Sir Penfro wedi gwneud gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991.
Mae'r Gorchymyn yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch y cyhoedd rhag wyneb y clogwyn sy'n erydu ac mae'n dilyn dau hysbysiad cyhoeddus a gyhoeddwyd yn flaenorol o dan yr un Ddeddf hon yn cynghori yngl?n â'r cyfyngiad hwn. Effaith y Gorchymyn fydd gwahardd dros dro bob traffig cerbydol a thraffig nad yw'n gerbydol ac eithrio cerbydau eithriedig rhag mynd ar hyd y Llwybr Troed Cyd-ddefnyddio Cyhoeddus SP42/P1/3 Neuadd Coppet i Bont Wiseman - o Drwyn Neuadd Coppet , i'r gogledd-ddwyrain i'w chyffordd â ffordd fynediad sy'n arwain tuag at Gastell Hean. Y bwriad yw y bydd y cyfyngiadau, y bydd arwyddion priodol ar eu cyfer yn unol â hynny, yn dod i rym ddydd Llun, 5 Chwefror ac yn parhau mewn grym am tua chwe mis. Bydd y Gorchymyn yn parhau i fod yn ddilys am uchafswm o chwe mis fel cynllun wrth gefn pe bai angen aildrefnu'r gwaith neu os bydd unrhyw amgylchiadau annisgwyl. Dyddiedig y 17ed diwrnod hwn o Ionawr 2024. Darren Thomas Pennaeth Seilwaith a'r Amgylchedd Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir Hwlffordd
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Tenby Observer series directly at: