The A55 Trunk Road - Temporary Traffic Prohibitions & Restrictions
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A55 (TWNNEL PEN-Y-CLIP, BWRDEISTREF SIROL CONWY) (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2023
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A55 yn Nhwnnel Pen-y-clip, Conwy, neu gerllaw iddi.
Effaith y Gorchymyn yw gwneud y canlynol dros dro:
i. cau’r cerbytffyrdd tua’r dwyrain a’r gorllewin, am yn ail â’i gilydd, ar y darn o’r A55 a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Bydd gwrthlif yn weithredol yn y lôn allanol o ba un bynnag o’r cerbytffyrdd sy’n aros ar agor i draffig;
ii. gwahardd goddiweddyd ar y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A55 ar y pentir a ddisgrifir yn Atodlen 2 a rheoli symudiad y traffig drwy fylchau yn y llain ganol (fel a ddisgrifir yn Atodlen 5) y ddwy ochr i’r Twnnel, a gaiff ei ailagor yn ystod y gwaith, tra bo’r gwrthlif tua’r dwyrain neu’r gorllewin yn weithredol;
iii. cau’r darn o’r A55 a ddisgrifir ym mharagraff 1 o Atodlen 3 tra bo gwrthlif y gerbytffordd tua’r dwyrain (y pentir) yn weithredol. Ni fydd cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin yn gallu ymuno â’r gefnffordd o Ffordd Bangor. Y llwybr arall yw drwy Gyffordd 16 (Cylchfan y Puffin);
iv. cau’r darn o’r A55 a ddisgrifir ym mharagraff 2 o Atodlen 3 tra bo’r gwrthlif ar y gerbytffordd tua’r gorllewin yn weithredol. Y llwybr arall yw parhau tua’r dwyrain i Gyffordd 16;
v. gosod terfyn cyflymder o 40 mya a/neu 50 mya ar y darnau o’r A55 a ddisgrifir yn Atodlen 4;
vi. gwahardd cerbydau sy’n 3.2 metr o led neu’n lletach rhag mynd ar y darnau o’r A55 a bennir yn Atodlen 6, ac eithrio cerbydau a awdurdodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru. Disgrifir y llwybr arall hefyd yn yr Atodlen hon;
vii. gwahardd beicwyr rhag mynd ar y darnau o’r A55 a bennir yn Atodlen 7. Disgrifir y llwybr arall yn Atodlen 9;
viii.gwahardd cerddwyr rhag mynd ar y darn o’r A55 a bennir yn Atodlen 8. Disgrifir y llwybr arall yn Atodlen 9;
ix. gwahardd pob cerbyd rhag mynd ar y darnau o’r A55 a bennir yn Atodlen 4. Bydd arwyddion traffig a osodir ymlaen llaw yn dangos y cyfnodau pan fydd y ffordd ar gau, a disgwylir mai am gyfnodau byr y byddant yn para, a hynny yn ôl yr angen. Nid oes angen unrhyw lwybrau dargyfeiriol, ond dylai traffig sy’n dymuno gadael yr A55 wrth Gyffordd 15a, adael wrth Gyffordd 16 (Cylchfan y Puffin) yn lle hynny.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 5 Ionawr 2024. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro yn weithredol yn ysbeidiol dros nos (19:00 – 07:00 o’r gloch) am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau yn cael ei arddangos cyn pob cyfnod gwaith. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Y gwrthlif
Y darn o’r A55 sy’n ymestyn o bwynt 97 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt Cyffordd 15 (Cylchfan Llanfairfechan) hyd at bwynt 208 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt trosbont Traphont y Red Gables.
ATODLEN 2
Dim goddiweddyd
Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A55 ar y pentir sy’n ymestyn o bwynt 97 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt Cyffordd 15 (Cylchfan Llanfairfechan) hyd at bwynt 208 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt trosbont Traphont y Red Gables.
ATODLEN 3
Cau Cyffordd Gorllewin Penmaenmawr a ffordd ymadael tua’r dwyrain Cyffordd 15a
Y darn o’r A55 sy’n ymestyn o’i chyffordd â’r ffordd sirol a elwir Ffordd Bangor hyd at farciau ymyl y gerbytffordd ar ochr ddeheuol prif gerbytffordd tua’r gorllewin yr A55.
Y darn o ffordd ymadael tua’r dwyrain yr A55 wrth Gyffordd 15a.
ATODLEN 4
Gwahardd cerbydau (cyfnodau byr yn unig) a therfynau cyflymder o 40 mya a/neu 50 mya
Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A55 sy’n ymestyn o ganolbwynt yr ynys hollti ar y ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth Gyffordd 13 (pentref Abergwyngregyn) hyd at bwynt 100 metr i’r dwyrain o ganolbwynt Cyffordd 16 (Cylchfan y Puffin), gan gynnwys y ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gyffordd 14 (Cyfnewidfa Madryn), y ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth Gyffordd 15a a’r bylchau yn y llain ganol a nodir yn Atodlen 5.
Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin yr A55 sy’n ymestyn o bwynt 100 metr i’r dwyrain o ganolbwynt Cyffordd 16 (Cylchfan y Puffin), gan gynnwys y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth y gyffordd hon, hyd at ganolbwynt y drosbont wrth Gyffordd 14 (Cyfnewidfa Madryn), gan gynnwys y bylchau yn y llain ganol yn Atodlen 5.
ATODLEN 5
Terfynau’r bylchau yn y llain ganol
Y bwlch yn y llain ganol sydd rhwng pwynt 78 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt trosbont Traphont y Red Gables a phwynt 208 o fetrau i’r dwyrain o’r drosbont honno.
Y bwlch yn y llain ganol sydd rhwng pwynt 97 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt Cyffordd 15 (Cylchfan Llanfairfechan) hyd at bwynt 226 o fetrau i’r dwyrain o’r gylchfan honno.
ATODLEN 6
Cyfyngiad ar led cerbydau
Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A55 sy’n ymestyn o bwynt 25 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt Cyffordd 15 (Cylchfan Llanfairfechan) hyd at drwyniad ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gyffordd 18 (Cyfnewidfa Cyffordd Llandudno).
Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin yr A55 sy’n ymestyn o drwyniad ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 18 (Cyfnewidfa Cyffordd Llandudno) hyd at bwynt 25 o fetrau i’r dwyrain o ganolbwynt Cyffordd 15 (Cylchfan Llanfairfechan), gan gynnwys y ffyrdd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyffordd 18 a Chyffordd 17.
Llwybr arall
Y llwybr arall ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin yn ystod oriau golau dydd yw gadael yr A55 wrth Gyffordd 19 a dilyn yr A470 tua’r de i Fetws-y-coed a’r A5 tua’r gorllewin i ailymuno â’r A55 wrth Gyffordd 11 (Llandygái): i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r dwyrain.
O ran yr adegau eraill pan fydd y ffordd ar gau, bydd dau fan cynnull ar gael y ddwy ochr i’r Twnnel.
Codir arwyddion ynglyˆ n ln â’r rhain gyda rhif ffôn i lorïwyr allu cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru i gael cyngor. Nid oes disgwyl i’r cerbydau gael eu cadw yn y mannau cynnull hyn am gyfnodau estynedig.
ATODLEN 7
Gwahardd beicwyr
Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A55 sy’n ymestyn o drwyniad ynys hollti Cyffordd 14, i gyfeiriad y dwyrain o amgylch Pentir Pen-y-clip i’r groesfan ag arwyddion i gerddwyr sy’n agos at borth dwyreiniol Twnnel Pen-y-clip, gan gynnwys y darn o’r droetffordd sy’n ymestyn o ganolbwynt y drosbont i gerddwyr i’r dwyrain o Gyffordd 15, i gyfeiriad y dwyrain i’r groesfan ag arwyddion i gerddwyr sy’n agos at borth dwyreiniol Twnnel Pen-y-clip.
ATODLEN 8
Gwahardd cerddwyr
Y darn o’r droetffordd sy’n ymestyn o ganolbwynt y drosbont i gerddwyr i’r dwyrain o Gyffordd 15, i gyfeiriad y dwyrain i’r groesfan ag arwyddion i gerddwyr sy’n agos at borth dwyreiniol Twnnel Pen-y-clip.
ATODLEN 9
Y llwybr arall ar gyfer beicwyr a cherddwyr
Y llwybr arall ar gyfer beicwyr a cherddwyr sy’n mynd tua’r dwyrain yw dilyn Llwybr Beicio 5, gan adael yr A55 wrth Gyffordd 14, a theithio ar Ffordd Aber, Ffordd Penmaenmawr, Pendalar a’r Llwybr Traffig heb Dwnnel o amgylch pentir Pen-y-clip i Benmaenmawr: i’r gwrthwyneb ar gyfer beicwyr a cherddwyr sy’n mynd tua’r gorllewin.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 03000 255 454 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A55 TRUNK ROAD (PEN-Y-CLIP TUNNEL, CONWY COUNTY
BOROUGH) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS & RESTRICTIONS) ORDER 2023
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A55 trunk road at the Pen-y-clip Tunnel, Conwy.
The effect of the Order is to temporarily:
i. close, alternately, the eastbound and westbound carriageways of the length of the A55 described in Schedule 1 to this Notice. Contraflow will operate in the offside lane of whichever carriageway remains open to traffic;
ii. prohibit overtaking on the eastbound headland carriageway of the length of the A55 described in Schedule 2 and control the movement of traffic through gaps in the central reservation (as described in Schedule 5) either side of the Tunnel, which will be re-opened during the works, whilst eastbound or westbound contraflow is in operation;
iii. close the length of the A55 described in paragraph 1 of Schedule 3 while the eastbound carriageway (headland) contraflow is in operation. Vehicles travelling westbound will not be able to enter the trunk road from Ffordd Bangor. The alternative route is via Junction 16 (Puffin Roundabout);
iv. close the length of the A55 described in paragraph 2 of Schedule 3 whilst contraflow is in operation on the westbound carriageway. The alternative route is to continue eastbound to Junction 16;
v. impose a 40 mph and/or 50 mph speed limit on the lengths of the A55 described in Schedule 4;
vi. prohibit vehicles with a width of or exceeding 3.2 metres from proceeding on the lengths of the A55 specified in Schedule 6, except for vehicles authorised by North Wales Police. The alternative route is also described in this Schedule;
vii. prohibit cyclists from proceeding on the lengths of the A55 specified in Schedule 7. The alternative route is described in Schedule 9;
viii.prohibit pedestrians from proceeding on the length of the A55 specified in Schedule 8. The alternative route is described in Schedule 9;
ix. prohibit all vehicles from proceeding on the lengths of the A55 specified in Schedule 4. Any such closures will be indicated by advance traffic signs and are expected to be for short periods, as required. No diversionary routes are necessary but traffic wishing to leave the A55 at Junction 15a should instead leave at Junction 16 (Puffin Roundabout).
The Order comes into force on 5 January 2024. The temporary prohibitions and restrictions are expected to operate intermittently overnight (19:00 – 07:00 hours) for a maximum period of 18 months. Notice of the prohibitions and restrictions will be displayed in advance of all work periods.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Contraflow
The length of the A55 that extends from a point 97 metres east of the centre-point of Junction 15 (Llanfairfechan Roundabout) to a point 208 metres east of the centre-point of the Red Gables Viaduct over-bridge.
SCHEDULE 2
No overtaking
The length of the A55 eastbound headland carriageway that extends from a point 97 metres east of the centre-point of Junction 15 (Llanfairfechan Roundabout) to a point 208 metres east of the centrepoint of the Red Gables Viaduct over-bridge.
SCHEDULE 3
Closure of Penmaenmawr West Junction & Junction 15a eastbound exit slip road
The length of the A55 that extends from its junction with the county road known as Ffordd Bangor to the edge of the carriageway markings on the southern side of the main A55 westbound carriageway.
The length of the A55 eastbound exit slip road at Junction 15a.
SCHEDULE 4
Prohibition of vehicles (short periods only) & 40 mph and/or 50 mph speed limits
The length of the A55 eastbound carriageway that extends from the centre-point of the eastbound exit slip road splitter island of Junction 13 (Abergwyngregyn village) to a point 100 metres east of the centre-point of Junction 16 (Puffin Roundabout), including the eastbound entry slip road at Junction 14 (Madryn Interchange), the eastbound exit slip road at Junction 15a and the central reserve gaps specified in Schedule 5.
The length of the A55 westbound carriageway that extends from a point 100 metres east of the centre point of Junction 16 (Puffin Roundabout), including the westbound entry slip road at this junction, to the centre-point of the over-bridge at Junction 14 (Madryn Interchange), including the central reserve gaps in Schedule 5.
SCHEDULE 5
Limits of the central reserve gaps
The gap in the central reservation situated between a point 78 metres east of the centre-point of the Red Gables Viaduct over-bridge and a point 208 metres east of that over-bridge.
The gap in the central reservation situated between a point 97 metres east of the centre-point of Junction 15 (Llanfairfechan Roundabout) to a point 226 metres east of that roundabout.
SCHEDULE 6
Vehicle width restriction
The length of the A55 eastbound carriageway that extends from a point 25 metres east of the centrepoint of Junction 15 (Llanfairfechan Roundabout) to the nosing of the eastbound entry slip road at Junction 18 (Llandudno Junction Interchange).
The length of the A55 westbound carriageway that extends from the nosing of the westbound exit slip road at Junction 18 (Llandudno Junction Interchange) to a point 25 metres east of the centrepoint of Junction 15 (Llanfairfechan Roundabout), including the westbound entry slip roads at Junction 18 and Junction 17.
Alternative route
The alternative route for westbound vehicles during daylight hours is to leave the A55 at Junction 19 and follow the southbound A470 to Betws-y-Coed and the westbound A5 to re-join the A55 at Junction 11 (Llandygai): vice versa for eastbound vehicles.
For closures during other times two holding areas either side of the Tunnel will be available. These will be signed with a phone number for hauliers to contact North Wales Police for advice. It is not expected that vehicles will be held at these areas for extended periods.
SCHEDULE 7
Prohibition of cyclists
The length of the A55 eastbound carriageway that extends from the nose of the splitter island for Junction 14, eastbound around Pen-y-clip Headland to the signed pedestrian crossing point adjacent to the eastern portal of Pen-y-clip Tunnel, including the length of the footway that extends from the centre-point of the pedestrian over-bridge to the east of Junction 15, eastbound to the signed pedestrian crossing point adjacent to the eastern portal of Pen-y-clip Tunnel.
SCHEDULE 8
No overtaking
The length of the footway that extends from the centre-point of the pedestrian over-bridge to the east of Junction 15, eastbound to the signed pedestrian crossing point adjacent to the eastern portal of Pen-y-clip Tunnel.
SCHEDULE 9
Alternative route for cyclists and pedestrians
The alternative route for eastbound cyclists and pedestrians is to follow Cycle Route 5, leaving the A55 at Junction 14, travelling via Aber Road, Penmaenmawr Road, Pendalar and the Non-Tunnel Traffic Route around Pen-y-Clip headland to Penmaenmawr: vice versa for westbound cyclists and pedestrians
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: