Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Rhondda Cynon Taff to Aberdulais Interchange - Road Closures of Vehicles, Cyclists & Pedestrians and Alternative Routes

CF44 9YYPublished 13/12/23Expired
Western Mail • 

What is happening?

HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch
Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru

GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A465 (Y RHIGOS, RHONDDA CYNON
TAF I GYFNEWIDFA ABERDULAIS, CASTELL-NEDD PORT TALBOT)
(GWAHARDD CERBYDAU, BEICWYR A CHERDDWYR DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio
Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y
Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A465 neu gerllaw iddi rhwng y
Rhigos, Rhondda Cynon Taf a Chyfnewidfa Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir
gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith), beiciwr a cherddwr rhag mynd ar y darn o’r A465 a
ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybrau eraill yn yr Atodlen hefyd.
Disgwylir y bydd y gwaharddiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym ar 1
Ionawr 2024 ac yn weithredol yn ysbeidiol dros nos (20:00 o’r gloch – 06:00 o’r gloch) am 18 mis ar
y mwyaf. Pan fo’n ymarferol, bydd hysbysiad ynghylch cau’r ffyrdd yn cael ei arddangos tuag wythnos
ymlaen llaw.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro
a Llwybrau Eraill
1. Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin yr A465 sy’n ymestyn o’i chyffordd ag ochr orllewinol pont
Seidins Pwll Glo’r Tower yr A465 sydd â’r rhif adnabod ‘370’ i’r gorllewin o hen Gylchfan y Rhigos
(sef Cyffordd Trewaun yn fuan) yn y Rhigos hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth
Gyfnewidfa Glyn-nedd.
2. Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A465 (gan gynnwys y ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth
Gyfnewidfa Glyn-nedd) sy’n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth Gyfnewidfa
Glyn-nedd hyd at ei chyffordd ag ochr orllewinol pont Seidins Pwll Glo’r Tower yr A465 sydd â’r rhif
adnabod ‘370’ i’r gorllewin o hen Gylchfan y Rhigos (sef Cyffordd Trewaun yn fuan) yn y Rhigos.
Y llwybr arall i draffig sy’n teithio tua’r gorllewin yw mynd ar yr A4061 tua’r gorllewin i Gylchfan Ystad
Ddiwydiannol Hirwaun, ar Rhigos Road, Merthyr Road, Aberdare Road a’r B4242 High Street tua’r gorllewin
a’r A4109 tua’r de i Gyfnewidfa Glyn-nedd: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain.
3. Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin yr A465 (gan gynnwys y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth
Gyfnewidfa Glyn-nedd) sy’n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth
Gyfnewidfa Glyn-nedd hyd at ei chyffordd ag ochr ddwyreiniol Cylchfan Cwm-gwrach.
4. Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A465 sy’n ymestyn o’i chyffordd ag ochr ddwyreiniol
Cylchfan Cwm-gwrach hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gyfnewidfa
Glyn-nedd.
Y llwybr arall i draffig sy’n teithio tua’r gorllewin yw mynd ar yr A4109 tua’r gogledd a’r B4242
tua’r gorllewin i Gylchfan Cwm-gwrach: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain.
5. Y darn o’r A465 sy’n ymestyn o’i chyffordd ag ochr orllewinol Cylchfan Cwm-gwrach hyd at ei
chyffordd ag ochr ddwyreiniol Cylchfan Resolfen.
Y llwybr arall i draffig sy’n teithio tua’r gorllewin yw mynd ar y B4242 tua’r gogledd i Gyffordd
Aberpergwm, y B4242 tua’r gorllewin a’r B4434 tua’r de i Gylchfan Resolfen: i’r gwrthwyneb ar
gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain.
6. Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin yr A465 sy’n ymestyn o’i chyffordd ag ochr orllewinol
Cylchfan Resolfen hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyfnewidfa Aberdulais
7. Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr A465 (gan gynnwys y ffordd ymuno tua’r dwyrain) sy’n
ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r gogledd wrth Gyfnewidfa Aberdulais hyd at ei
chyffordd ag ochr orllewinol Cylchfan Resolfen.
Y llwybr arall i draffig sy’n teithio tua’r gorllewin yw mynd ar y B4434 tua’r gogledd, y B4242
tua’r gorllewin i Gyffordd Ynysygerwn a’r A4109 tua’r de-orllewin i Gyfnewidfa Aberdulais: i’r
gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice
contact 03000 255 454 or email
Transportordersbranch@gov.wales
THE A465 TRUNK ROAD (RHIGOS , RHONDDA CYNON TAFF TO

ABERDULAIS INTERCHANGE, NEATH PORT TALBOT) (TEMPORARY
PROHIBITION OF VEHICLES, CYCLISTS & PEDESTRIANS) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an
Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake
works on or near the A465 trunk road between Rhigos , Rhondda Cynon Taff and Aberdulais
Interchange, Neath Port Talbot.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles (other than those being used by
the emergency services and for the works), cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the
A465 described in the Schedule to this Notice. The alternative routes are also described in the Schedule.
The temporary prohibitions, which will be signed accordingly, are expected to come into force on
1 January 2024 and operate intermittently overnight (20:00 hours – 06:00 hours) for a maximum
duration of 18 months. Where practical, notice of closures will be displayed approximately one week
in advance.
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE
Temporary Prohibition of Vehicles, Cyclists & Pedestrians and
Alternative Routes
1. The length of the A465 westbound carriageway that extends from its junction with the western
side of the A465 Tower Colliery Sidings bridge with the identification number ‘370’ located west
of the old Rhigos Roundabout (soon to be the Trewaun Junction) at Rhigosto the nosing of the
westbound entry slip road at Glynneath Interchange.
2. The length of the A465 eastbound carriageway (including the eastbound entry slip road at Glynneath
Interchange) that extends from the nosing of the eastbound exit slip road at Glynneath Interchange to
its junction with the western side of the A465 Tower Colliery Sidings bridge with the identification
number ‘370’ located west of the old Rhigos Roundabout (soon to be the Trewaun Junction) at Rhigos.
The alternative route for westbound traffic is via the westbound A4061 to Hirwaun Industrial
Estate Roundabout, westbound Rhigos Road, Merthyr Road, Aberdare Road and B4242 High
Street and southbound A4109 to Glynneath Interchange: vice versa for eastbound traffic.
3. The length of the A465 westbound carriageway (including the westbound entry slip road at
Glynneath Interchange) that extends from the nosing of the western exit slip road at Glynneath
Interchange to its junction with the eastern side of Cwmgwrach Roundabout.
4. The length of the A465 eastbound carriageway that extends from its junction with the eastern
side of Cwmgwrach Roundabout to the nosing of the eastbound entry slip road at Glynneath
Interchange.
The alternative route for westbound traffic is via the northbound A4109 and westbound B4242
to Cwmgwrach Roundabout: vice versa for eastbound traffic.
5. The length of the A465 that extends from its junction with the western side of Cwmgwrach
Roundabout to its junction with the eastern side of Resolven Roundabout.
The alternative route for westbound traffic is via the northbound B4242 to Aberpergwm
Junction, westbound B4242 and southbound B4434 to Resolven Roundabout: vice versa for
eastbound traffic.
6. The length of the A465 westbound carriageway that extends from its junction with the western side
of Resolven Roundabout to the nosing of the westbound entry slip road at Aberdulais Interchange.
7. The length of the A465 eastbound carriageway (including the eastbound entry slip road) that
extends from the nosing of the northbound exit slip road at Aberdulais Interchange to its
junction with the western side of Resolven Roundabout.
The alternative route for westbound traffic is via the northbound B4434, westbound B4242 to
Ynysygerwn Junction and south-westbound A4109 to Aberdulais Interchange: vice versa for
eastbound traffic.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association