Merthyr Mawr Road, Bridgend - Temporary Traffic Order 2023
What is happening?
GORCHYMYN TRAFFIG DROS DRO CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR (MERTHYR MAWR ROAD, PEN-Y-BONT AR OGWR) 2023 HYSBYSIR DRWY HYN fod y Cyngor, sef yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, drwy arfer ei bwerau o dan Adran 14(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) wedi gwneud Gorchymyn a fydd dros dro yn cyflwyno’r cyfyngiad a nodir yn yr atodlen isod. Mae angen y Gorchymyn i ganiatáu mynediad diogel er mwyn adnewyddu polion lamp ac mae er budd diogelwch y cyhoedd. Daw’r Gorchymyn i rym ar 13/12/2023 a bydd yn parhau mewn grym am ddeunaw mis ar y mwyaf neu nes bod y gwaith wedi ei gwblhau, p’un bynnag a ddaw yn gyntaf. Rhagwelir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud rhwng 08:00 o’r gloch a 17:00 o’r gloch rhwng 13/12/2023 a 15/12/2023. Atodlen- Ni chaiff neb beri i unrhyw gerbyd fynd ar hyd Merthyr Mawr Road, Pen-y-bont ar Ogwr. Effeithir ar 200 metr o ffordd o gyffordd yr A48 hyd at gyffordd Rhodfa Bowham. Y llwybr amgen i gerbydau yw ar hyd Merthyr Mawr Road, A48, B4265, A473, Merthyr Mawr Road ac i’r gwrthwyneb. Bydd mynediad ar gael drwy’r cyfyngiad i’r Heddlu a’r Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans yn ymateb i argyfyngau. Bydd mynediad i gerddwyr i bob eiddo o fewn y cyfyngiad yn dal ar gael ar hyd llwybrau diffiniedig drwy gydol y cyfnod cau. Er hynny, ni fydd y cyfyngiad yn gymwys ond ar yr adegau ac i’r graddau a nodir o bryd i’w gilydd gan arwyddion traffig a ragnodir gan Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016. Dyddiedig: 07/12/2023
K Watson, Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol – Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.
BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL (MERTHYR MAWR ROAD, BRIDGEND)) TEMPORARY TRAFFIC ORDER 2023 NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Council as the Highway Authority for Bridgend in exercise of its powers under Section 14(1) of the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) has made an Order which temporarily introduces the restriction set out in the schedule below. The Order is necessary to allow safe access for lamp post renewal and is in the interest of public safety. The Order will come into force on the 13/12/2023 and will continue in force for a maximum period of 18 months or until such time as the works are completed, whichever is the sooner. It is anticipated the planned works will be undertaken between the hours of 08:00 and 17:00 from the 13/12/2023 to 15/12/2023. Schedule- No person shall cause any vehicle to proceed Merthyr Mawr Road, Bridgend. There is 200 meters of road affected from junction of A48 to junction of Bowham Avenue. The alternative route for vehicles is via Merthyr Mawr Road, A48, B4265, A473, Merthyr Mawr Road and vice versa. Access will be provided through the restriction for Police, Fire and Ambulance Services responding to emergencies. Pedestrian access to all properties within the restriction will be maintained along defined routes throughout the period of the closure. The restrictions shall however only apply at such time and to such extent as shall from time to time be indicated by traffic signs prescribed by The Traffic Signs Regulations and General Directions 2016. Dated: 07/12/2023
K Watson, Chief Officer Legal & Regulatory Services, Human Resources and Corporate Policy – Chief Executive’s Directorate, Bridgend County Borough Council, Civic Offices, Angel Street, Bridgend CF31 4WB.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: