Betws-y-coed, Conwy - Temporary Road Closure
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch
Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A470 (TROETFFORDD TUA’R
GOGLEDD YM METWS-Y-COED, BWRDEISTREF SIROL CONWY)
(CAU DROS DRO) 2023
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio
Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A470, neu
gerllaw iddi, ym Metws-y-coed, Bwrdeistref Sirol Conwy.
Effaith y Gorchymyn fydd cau dros dro darn cyfan o droetffordd tua’r gogledd yr A470 sy’n
ymestyn o’r fynedfa ogleddol i gilfan Coed Hafod hyd at fynedfa cyfleuster Cyngor Astudiaethau
Maes Rhyd-y-Creuau.
Y llwybr amgen ar gyfer cerddwyr sy’n mynd tua’r gogledd fydd croesi’r gerbytffordd ym mhen deheuol
y darn o’r ffordd sydd ar gau mewn man priodol ger cilfan Coed Hafod a mynd drwy’r eiddo a elwir yn
Zip World, cyn croesi yn ôl dros y gerbytffordd mewn man priodol ger Ffrith Rhedyn a Rhyd-y-Creuau
ym mhen gogleddol y darn o’r ffordd sydd ar gau. I’r gwrthwyneb i gerddwyr sy’n mynd tua’r de.
Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro, y codir arwyddion priodol yn ei gylch, yn dod i rym am
00:01 o’r gloch ar 6 Tachwedd 2023 ac yn parhau tan 23:59 o’r gloch ar 31 Ionawr 2024 neu hyd
nes y caiff yr arwyddion cau dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny,
bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 12 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith
neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r
amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar
https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice
contact 03000 255 454 or email
Transportordersbranch@gov.wales
THE A470 TRUNK ROAD (NORTHBOUND FOOTWAY AT
BETWS-Y-COED, CONWY COUNTY BOROUGH) (TEMPORARY
CLOSURE) ORDER 2023
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act
1984 which is necessary whilst works are undertaken on or near the A470 trunk road northbound
footway at Betws-y-Coed, Conwy County Borough.
The effect of the Order will be to temporarily close the entire length of the A470 northbound
footway that extends from the northern entrance to the Coed Hafod layby to the entrance of the
Rhyd-y-Creuau Field Studies Council facility.
The alternative route for northbound pedestrians will be to cross the carriageway at the southern end
of the closure at an appropriate point near the Coed Hafod layby and proceed through the property
known as Zip World, before crossing back over the carriageway at an appropriate point near Ffrith
Rhedyn and Rhyd-y-Creuau at the northern end of the closure. Vice versa for southbound pedestrians.
The temporary prohibition, which will be signed accordingly, is expected to come into force at 00:01
hours on 6 November 2023 and remain until 23:59 hours on 31 January 2024 or until the temporary
closure signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to operate during the dates specified above it will remain valid
for a maximum period of 12 months as a contingency, should the work need to be rescheduled or
consequential or other work is required. Advance notice of any changes to times and dates will be
displayed before any rescheduled work.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at
https://gov.wales/road-orders
J SADDLER, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Chronicle & Informer directly at: