Cardiff Road - Temporary Road Closure
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
(HEOL CAERDYDD, FFYNNON TAF) GORCHYMYN (CAU FFORDD DROS DRO) 2023
DYMA HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi gwneud Gorchymyn o dan Adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991, a fydd yn para deunaw mis ar y mwyaf.
Mae angen cau’r ffordd er mwyn symud cerbyd mwy nag arfer sy’n dadlwytho Trenau Tram i ddepo newydd Trafnidiaeth Cymru yn Ffynnon Taf. Bydd angen i’r cerbyd gwneud mwy nag un daith yn rhan o’r gwaith yma.
Effaith y Gorchymyn fydd cau Heol Caerdydd, o’i chyffordd â Ffordd y Fynwent, tua’r gogledd-orllewin am bellter o 75 metr.
Llwybr Amgen - o ochr ogleddol y ffordd sydd wedi cau, ewch ar hyd yr A4054 Heol Caerdydd, Cylchfan Stryd Rhydychen, Cylchfan Nantgarw, yr A470, Cylchfan Ffynnon Taf a Heol Caerdydd i ochr ddeheuol y ffordd sydd wedi cau.
I’r rhai sy’n teithio o’r cyfeiriad arall, dilynwch y drefn uchod am yn ôl.
Nodwch bydd Atodlen 2 o’r Gorchymyn Rheoli Traffig dros Dro sef “Gorchymyn (Cau Ffordd Dros Dro a Therfyn Pwysau 7.5 Tunnell ac eithrio ar gyfer Bysiau) (Ffordd Bleddyn a Heol Caerdydd, Ffynnon Taf) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 2022” yn cael ei atal dros dro yn ystod cyfnod cau’r ffordd i hwyluso’r broses o ddefnyddio cerbydau mwy nag arfer i symud nwyddau i ddepo Trafnidiaeth Cymru.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau’r gwasanaethau brys.
Bydd mynediad ar gael i eiddo.
Mae disgwyl i’r ffordd fod ar gau dros nos rhwng y dyddiadau a’r amseroedd canlynol neu hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau:-
• Bydd y ffordd ar gau dros nos rhwng 10.45pm a 5.00am y bore wedyn, pan fo angen, o 4 Medi 2023 - 28 Gorffennaf 2024
Bydd arwyddion yn eu lle er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd 7 diwrnod cyn i’r ffordd gau.
Dyddiad 1 Medi 2023
Andrew Wilkins Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa’r Cambrian, Cwm Clydach, CF40 2XX
RHONDDA CYNON TAFF COUNTY BOROUGH COUNCIL
(CARDIFF ROAD, TAFFS WELL) (TEMPORARY ROAD CLOSURE) ORDER 2023
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Rhondda Cynon Taff County Borough Council have made an Order under Section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, as amended by the Road Traffic (Temporary Restrictions) Act 1991, which will have a maximum duration of eighteen months.
The closure is necessary to facilitate multiple movements of an oversized vehicle in connection with Tram Train deliveries into the new Transport for Wales depot in Taffs Well
The effect of the Order will be to close Cardiff Road, from its junction with Cemetery Road, north westwards for a distance of 75 metres.
Alternative route - available from the northern side of the closure, proceed via A4054 Cardiff Road, Oxford Street Roundabout, Nantgarw Roundabout, A470, Taffs Well Roundabout and Cardiff Road to the southern side of the closure.
If travelling from the opposite direction, reverse the directions above.
NB Schedule 2 of the Temporary Traffic Regulation Order cited as the “Rhondda Cynon Taff County Borough Council (Ffordd Bleddyn and Cardiff Road, Taffs Well) (Temporary Road Closure and 7.5 Tonne Weight Limit except for Buses) Order, 2022” shall be temporarily suspended for the duration of the above closures for oversized vehicle deliveries for the Transport for Wales depot.
Access will be maintained for pedestrians and emergency service vehicles.
Access to premises will be maintained.
The closure is expected to be in operation overnight between the following dates and times, or until such time as the works has been completed: -
• Overnight closures between 10:45pm to 05:00am the next day, as and when required, from 4th September 2023 to 28th July 2024
Advanced warning signs will be placed on site 7 days prior to each closure to inform the public.
Dated 1 September 2023
Andrew Wilkins Director of Legal Services The Pavilions, Cambrian Park, Clydach Vale, CF40 2XX
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: