Welsh Governemnt Statutory Notice
What is happening?
Hysbysiad Statudol I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
Statutory Notice For a large print copy of this Notice contact 03000 255 454 or email Transportordersbranch@gov.wales
Gorchymyn Cefnffordd Yr A44 (Rhwng Bwlch Nant Yr Arian A Phonterwyd, Ceredigion) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A44, neu gerllaw iddi, rhwng Bwlch Nant yr Arian a Phonterwyd yn Sir Ceredigion.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A44 sy’n ymestyn o bwynt 190 o fetrau i’r gorllewin o fynedfa Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian hyd at bwynt 400 metr i’r gogledd-orllewin o ‘Red Kite Café’ ger Ponterwyd, Ceredigion. Y llwybr arall ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin o ben dwyreiniol y darn o’r ffordd sydd ar gau fydd mynd ar yr A44 tua’r dwyrain i ymuno â’r A4120 ym Mhonterwyd, trwy Bontarfynach i Gylchfan Southgate, Aberystwyth, ac yna ar hyd Heol y Bont tua’r gogledd i Lanbadarn Fawr i ailymuno â’r A44 tua’r dwyrain ym mhen gorllewinol y darn o’r ffordd sydd ar gau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain o ben gorllewinol y darn o’r ffordd sydd ar gau.
Disgwylir y bydd y gwaharddiad yn weithredol dros nos (rhwng 19:00 o’r gloch a 06:00 o’r gloch) rhwng 25 Medi 2023 a 10 Tachwedd 2023, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod yr amseroedd a’r dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn arfaethedig fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
J Saddler, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
The A44 Trunk Road (Between Bwlch Nant Yr Arian And Ponterwyd, Ceredigion) (Temporary Prohibition Of Vehicles) Order 202-
The Welsh Ministers propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A44 trunk road between Bwlch Nant yr Arian and Ponterwyd in the County of Ceredigion. The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles from proceeding on the length of the A44 trunk road that extends from a point 190 metres west of the Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre access to a point 400 metres northwest of the ‘Red Kite Café’ near Ponterwyd, Ceredigion. The alternative route for westbound vehicles from the eastern extent of the closure will be via the eastbound A44 to join the A4120 at Ponterwyd, through Devil’s Bridge to Southgate Roundabout, Aberystwyth, and then northbound along Heol y Bont to Llanbadarn Fawr to re-join the eastbound A44 at the western extent of the closure. Vice versa for eastbound traffic from the western extent of the closure. It is expected that the prohibition will operate overnight (19:00 hours to 06:00 hours) from 25 September 2023 until 10 November 2023 or until the temporary traffic signs are permanently removed. Although the proposed Order is only expected to operate during the times and dates specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months as a contingency
should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required.
Advance notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work.
J Saddler Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Cambrian News series directly at: