Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Nant Gwynant - A498 Road - Class 1 Road - Experimental Order - Prohibition Of Waiting - No Waiting At Any Time

LL55 4NHPublished 23/08/23Expired
Caernarfon Herald • 

What is happening?

CYNGOR GWYNEDD GORCHYMYN ARBROFOL - GWAHARDD AROS - DIM AROS AR UNRHYW ADEG A
DEILIAID TRWYDDED PARCIO I DRIGOLION NEU GYFYNGIAD AMSER 90 MUNUD DIM DYCHWELYD O FEWN 2 AWR - 8 Y.B. HYD AT 4 Y.P. - NANT GWYNANT 2023

Ar yr 16eg dydd o Awst, 2023 gwnaed Gorchymyn gan Gyngor Gwynedd o dan Adran 9 a Rhannau III a IV o Atodlen 9 o Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984. Daw’r Gorchymyn i rym ar yr 28ain o Awst, 2023 a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod dim hwy na 18 mis.
Pan ddaw’r Gorchymyn i rym ei effaith fydd:-
1. Gwahardd i unrhyw gerbyd rhag aros ar unrhyw adeg a deiliaid trwydded parcio i drigolion neu gyfyngiad amser 90 munud dim dychwelyd o fewn 2 awr - 8 y.b. hyd at 4 y.p. ar hyd y darnau hynny o’r ffyrdd a bennir yn yr atodlen isod.
Bydd eithriadau yn caniatáu aros ar gyfer:-
(a) codi a gollwng teithwyr;
(b) llwytho neu ddadlwytho nwyddau; a lle bo hynny’n angenrheidiol yng nghyswllt:-
(c) rhai gweithfeydd adeiladu;
(ch) cynnal y ffordd;
(d) cyflenwi nwy, trydan a dŵr neu waith statudol;
(dd) cyflawni pwerau a swyddogaethau awdurdod lleol;
(e) i bwrpasau’r post;
(f) i bwrpas yr heddlu, brigâd dân neu ambiwlans;
(ff) ac o dan rhai amgylchiadau lle bo’r cerbyd yn gerbyd person methedig.
Mi fydd yna Drwydded Parcio i Drigolion a’r gost fydd :
£60 y flwyddyn am y car cyntaf a £90 y flwyddyn am ail gar.
Ymwelwyr: Mi fydd y trwyddedau yn cael eu gwerthu fesul 10 ar gost o £5.00. Bydd y drwydded, sy’n cael ei gosod ar ffenestr flaen y car gyda’r dyddiad a’r rhif plat wedi ei nodi, yn galluogi ymwelwyr i aros am hyd at 24 awr.
Mae’r Gorchymyn, ynghyd â chynlluniau yn dangos y ffyrdd yr effeithir a datganiad o resymau’r Cyngor dros wneud y Gorchymyn Arbrofol ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau gwaith arferol yn:-
(a) Swyddfeydd Cyngor, Caernarfon a Pwllheli (b) Swyddfeydd Post Beddgelert, Caernarfon a Porthmadog (c) Llyfrgelloedd Cyhoeddus, Caernarfon a Porthmadog.
Mae manylion llawn y gorchymyn hefyd ar gael ar https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Parcio-ffyrdd-a-theithio/Gorchymynion-Rheoleiddio-Traffig.aspx. Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried maes o law a ddylai darpariaethau’r Gorchymyn Arbrofol gael eu gwneud am gyfnod amhenodol. Os dymuna unrhyw berson wrthwynebu gwneud y Gorchymyn am gyfnod amhenodol dylid anfon gwrthwynebiadau mewn ysgrifen gan fynegi eich rhesymau dros wneud hynny i’r cyfeiriad isod ddim hwyrach na chwe mis o’r 23ain o Awst, 2023, neu os yw’r Gorchymyn Arbrofol yn cael ei amrywio gan Orchymyn arall neu yn cael ei newid o ganlyniad i adran 10(2) o Ddeddf 1984 yna chwe mis o ddyddiad daeth yr amrywiad neu’r newid neu’r amrywiad neu’r newid diwethaf i rym.
Os dymuna unrhyw berson amau dilysrwydd y Gorchymyn ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r Gorchymyn neu unrhyw gymal ohono gellir gwneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos o ddyddiad y cyhoeddir y Rhybudd hwn.

DYDDIEDIG: 23ain o Awst, 2023.

Iwan G D Evans, 
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Swyddfa’r Cyngor, CAERNARFON, Gwynedd
Am fwy o fanylion ynglŷn â’r uchod ffoniwch y Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau 01286 679650 (CAT-4171 KFD)

Atodlen 1

Lleoliad / Disgrifiad Cyfyngiadau Newydd/

NANT GWYNANT - Ffordd yr A498 - Ffordd Dosbarth 1


Ar ochr orllewinol y ffordd o bwynt oddeutu 97 metr i’r gogledd ddwyrain o fynedfa Plas Gwynant Lodge am 
bellter o oddeutu 97 metr i gyfeiriad y de orllewin.

Ar ochr orllewinol y ffordd gyferbyn a mynedfa Plas Gwynant Lodge.

Ar ochr orllewinol y ffordd o bwynt oddeutu 34 metr i’r gogledd ddwyrain o Bont Bethania am bellter o 
oddeutu 437 metr i gyfeiriad deheuol cyffredinol.

Ar ochr ddwyreiniol y ffordd o bwynt oddeutu 97 metr i’r gogledd ddwyrain o fynedfa Plas Gwynant Lodge am 
bellter o oddeutu 97 metr i gyfeiriad y de orllewin.

Ar ochr ddwyreiniol y ffordd ar naill ochr i’w gyffordd gyda Phlas Gwynant Lodge ac yn cynnwys y ffordd i’r 
maes parcio ar yr ochr orllewinol am bellter o oddeutu 35 metr.

Ar ochr ddwyreiniol y ffordd o bwynt o oddeutu 40 metr i’r gogledd ddwyrain o Bont Bethania am bellter o 
oddeutu 233 metr i gyfeiriad deheuol cyffredinol ac yn cynnwys y ffordd i’r maes Parcio ar y ddwy ochr am 
bellter o oddeutu 36 metr

Ar ochr ddwyreiniol y ffordd ar y naill ochr i’w gyffordd gyda’r ffordd sy’n croesi Pont Nant Gwynant.

DIM AROS AR UNRHYW ADEG

DIM AROS AR UNRHYW ADEG

DIM AROS AR UNRHYW ADEG

DIM AROS AR UNRHYW ADEG

DIM AROS AR UNRHYW ADEG

DIM AROS AR UNRHYW ADEG

DIM AROS AR UNRHYW ADEG

Ail Atodlen

Lleoliad / Disgrifiad Cyfyngiadau Newydd/

NANT GWYNANT - Ffordd yr A498 - Ffordd Dosbarth 1 (Hen Ffordd)
Ar ochr ddwyreiniol y ffordd yn cychwyn o bwynt gyferbyn â Chaffi Gwynant am bellter o oddeutu 38 metr 
i gyfeiriad deheuol.

Ar ochr ddwyreiniol y ffordd yn cychwyn o bwynt gyferbyn â’r eiddo o’r enw Y Capel am belter o oddeutu 
149 metr i gyfeiriad cyffredinol deheuol.

DEILIAD TRWYDDED PARCIO 
TRIGOLION NEU AROS 
CYFYNGEDIG 90 MUNUD - 
DIM DYCHWELYD O FEWN
2 AWR 8yb i 4yp

DEILIAD TRWYDDED PARCIO 
TRIGOLION NEU AROS 
CYFYNGEDIG 90 MUNUD - DIM 
DYCHWELYD 2 AWR 8yb i 4yp

CYNGOR GWYNEDD EXPERIMENTAL ORDER - PROHIBITION OF WAITING - NO WAITING AT ANY TIME AND RESIDENT PARKING PERMIT HOLDERS OR LIMITED WAITING 90 MINUTE TIME LIMIT NO RETURN WITHIN 2 HOURS - 8 A.M. UNTIL 4 P.M. - NANT GWYNANT 2023
On the 16th August, 2023 Cyngor Gwynedd made an Order under Section 9 and Parts III and IV of Schedule 9 of the Road Traffic Regulation Act 1984. The Order comes into effect on the 28th day of August, 2023 and will continue in force for a period not exceeding 18 months.
The effect of the Order when it comes into effect will be as follows:
1. Prohibit vehicles from waiting at any time and resident parking permit holders or 90 minute time limit no return within 2 hours - 8 a.m. until 4 p.m. along those lengths of roads referred to in the Schedule hereto.
Exceptions will permit waiting for:-
(a) picking up and setting down passengers;
(b) loading or unloading goods; and where necessary in connection with:-
(d) certain building operations;
(e) the maintenance of the road;
(f) the supply of gas, electricity, water or other statutory undertakings;
(g) the exercise of local authority powers and functions;
(h) the exercise of postal functions;
(i) fire brigade, ambulance and police purposes;
(j) and in certain circumstances when the vehicle is a disabled person’s vehicle.
There will be a Resident Parking Permit and the cost will be:-
£60 per year for the first car and £90 a year for a second car.
Visitors: The permits will be sold in units of 10 at a cost of £5.00. The permit, which should be placed on the front window of the car with the date and number plate noted, will enable vistors to stay for up to 24 hours.
The Order, together with maps showing the length of roads concerned, together with a Statement of Reasons for making the Order may be examined during normal working hours at the:-
(a) Council Offices, Caernarfon and Pwllheli (b) Post Offices Beddgelert, Caernarfon and Porthmadog (c) Public Libraries, Caernarfon and Porthmadog.
Full details of the order are also available on Gwynedd Council’s website -
https://www.gwynedd.llyw.cymru/en/Residents/Parking-roads-and-travel/Traffic-Regulation-Orders.aspx. Cyngor Gwynedd will be considering in due course whether the provisions of the Experimental Order should be continued in force indefinitely. Any person wishing to object to the making of an order for the purpose of such indefinite continuation should send such objections in writing stating the grounds on which such objection is made to the undersigned no later than six months from the 23rd August, 2023 or if the experimental order is varied by another order or modified pursuant to section 10(2) of the 1984 Act, then six months from the day on which the variation or modification or the latest variation or modification came into force.
Any person wishing to question the validity of the Order on the grounds that it is not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act 1984 or on the ground that any regulations made under the Act were not complied with in relation to the Order or any part of it may make an application to the High Court for that purpose within six weeks from the publication of this Notice.
DATED: 23rd August, 2023.

Iwan G D Evans, Head of Legal Services, Cyngor Gwynedd, Shirehall Street, CAERNARFON, Gwynedd, LL55 1SH

For further information regarding the above please telephone the Traffic and Projects Service on (01286) 679650 (CAT-4171 KFD)

SCHEDULE 1

Location / Description New Restrictions

NANT GWYNANT - A498 Road - Class 1 Road

On the western side of the road from a point 97 metres north east of the entrance to Plas Gwynant Lodge for 
a distance of approximately 97 metres in a south westerly direction.

On the western side of the road opposite the entrance to Plas Gwynant Lodge

On the western side of the road from a point 34 metres north east of Pont Bethania for a distance of 
approximately 437 metres in a general southerly direction.

On the eastern side of the road from a point 97 metres north east of the entrance to the Plas Gwynant Lodge 
for a distance of approximately 97 metres in a south westerly direction.

On the eastern side of the road on either side of its junction with Plas Gwynant Lodge and including the 
roadway to the car park on the westerly side for a distance of approximately 35 metres.

On the eastern side of the road from a point approximately 40 metres north east of Pont Bethania for a 
distance of approximately 233 metres in a general southerly direction and includes the roadway to the 
carpark on both sides for a distance of approximately 36 metres.

On the eastern side of the road on either side of its junction with roadway crossing Pont Nantgwynant.

NO WAITING AT ANY TIME

NO WAITING AT ANY TIME

NO WAITING AT ANY TIME

NO WAITING AT ANY TIME

NO WAITING AT ANY TIME

NO WAITING AT ANY TIME

NO WAITING AT ANY TIME

Second Schedule

Location / Description New Restrictions

NANT GWYNANT- A498 Road - Class 1 Road (Old Road)
On the eastern side of the road commencing from opposite Caffi Gwynant for a distance of approximately
38 metres in a southerly direction.

On the eastern side of the road commencing from opposite The Chapel House for a distance of approximately 
149 metres in a general southerly direction.

RESIDENT PARKING PERMIT 
HOLDER OR LIMITED WAITING 
90 MINUTES NO RETURN 
2 HOURS 8am to 4pm

RESIDENT PARKING PERMIT 
HOLDER OR LIMITED WAITING 
90 MINUTES NO RETURN
2 HOUR 8am to 4pm

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Caernarfon Herald directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 40 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association