Welsh Governemnt Statutory Notice
What is happening?
Hysbysiad Statudol I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
Gorchymyn Cefnffordd Yr A479 (Cae Dderw, Llys-Wen, Powys) (Gwahardd Traffig Dros Dro) 202-
Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A479, neu gerllaw iddi, yn Llys-wen, Powys. Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro yr holl draffig (modur a difodur) a da byw rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A479 sy’n ymestyn o bwynt 100 o fetrau i’r de o ganolbwynt ei chyffordd â’r ffordd ymyl i gael mynediad i Fferm Pentresolars i’w chyffordd gylchfan â’r A4079 yn ‘Y Dderw’, Llys-wen. Y llwybr arall ar gyfer traffig tua’r gogledd fydd ar hyd yr A479 tua’r de i Fronllys, yr A438 tua’r gorllewin i’w chyffordd â’r A470 ym Mhont-y-bat a’r A470 tua’r gogledd i ailymuno â’r A479 yn Llys-wen: i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau tua’r de. Daw’r Gorchymyn i rym ar 6 Medi 2023. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau dros dro yn weithredol yn ysbeidiol o 08:00 o’r gloch ar 6 Medi 2023 hyd 18:00 o’r gloch ar 8 Medi 2023 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol. Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod mewn grym. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
J Saddler, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
Statutory Notice For a large print copy of this Notice contact 03000 255 454 or email Transportordersbranch@gov.wales
The A479 Trunk Road (Dderw Pitch, Llyswen, Powys) (Temporary Prohibition Of Traffic) Order 202- The Welsh Ministers propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A479 trunk road at Llyswen, Powys. The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all traffic (motorised and non-motorised) and livestock from proceeding on the length of the A479 trunk road that extends from a point 100 metres south of the centre-point of its junction with the side road to access Pentresolars Farm to its roundabout junction with the A4079 at ‘The Dderw’, Llyswen. The alternative route for northbound traffic will be via the southbound A479 to Bronllys, westbound A438 to its junction with the A470 at Pontybat and northbound A470 to rejoin the A479 at Llyswen: vice versa for southbound vehicles. The Order will come into force on 6 September 2023. The temporary prohibitions are expected to operate intermittently from 08:00 hours on 6 September 2023 until 18:00 hours on 8 September 2023 or until the temporary traffic signs are permanently removed. Although the Order is only expected to be in force during the period specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work begins.
J Saddler, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Brecon & Radnor Express directly at: