Welsh Governemnt Statutory Notice
What is happening?
Hysbysiad Statudol
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
Statutory Notice For a large print copy of this Notice contact 03000 255 454 or email Transportordersbranch@gov.wales
Gorchymyn Cefnffordd Yr A40 (Rhaglan I’r Fenni, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2023
Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A40, neu gerllaw iddi, rhwng Cylchfan Rhaglan a Chyfnewidfa Hardwick, y Fenni, Sir Fynwy. Effaith y Gorchymyn yw gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin y gefnffordd sy’n ymestyn o’i chyffordd ag ochr orllewinol Cylchfan Rhaglan hyd at ei chyffordd â Chyfnewidfa Hardwick, y Fenni. Y llwybr arall ar gyfer traffig trwodd yw mynd ar yr A40 tua’r dwyrain o Gylchfan Rhaglan i Gyfnewidfa Rhaglan, ac ar yr A449 tua’r de i Gyfnewidfa Coldra, cymryd y gyffordd byrger a dilyn yr M4 tua’r gorllewin, ymadael wrth Gyffordd 25a (Cylchfan Grove Park) a dilyn yr A4042 tua’r gogledd i Gylchfan Hardwick. Y llwybr arall ar gyfer traffig lleol a defnyddwyr heblaw modurwyr yw mynd ar y B4598 Clytha Road a Groesonen Road i Gyfnewidfa Hardwick. Daw’r Gorchymyn i rym ar 21 Awst 2023. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol o 20:00 o’r gloch ar 21 Awst 2023 tan 06:00 o’r gloch ar 22 Awst 2023 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol. Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn i unrhyw waith a ailamserlennir ddechrau. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar
https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
J Saddler, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
The A40 Trunk Road (Raglan To Abergavenny, Monmouthshire) (Temporary Prohibition Of Vehicles) Order 2023
The Welsh Ministers have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A40 trunk road between Raglan Roundabout and Hardwick Interchange, Abergavenny, Monmouthshire. The effect of the Order is to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services or for the works, from proceeding on the length of the westbound carriageway of the trunk road that extends from its junction with the western side of Raglan Roundabout to its junction with Hardwick Interchange, Abergavenny. The alternative route for through traffic is via the eastbound A40 from Raglan Roundabout to Raglan Interchange, the southbound A449 to Coldra Interchange, take the hamburger junction and follow the westbound M4, exit at Junction 25a (Grove Park Roundabout) and follow the northbound A4042 to Hardwick Roundabout. The alternative route for local traffic and non-motorised users is via the B4598 Clytha and Groesonen Road to Hardwick Interchange. The Order comes into force on 21 August 2023. The temporary prohibition is expected to operate from 20:00 hours on 21 August 2023 until 06:00 hours on 22 August 2023 or until the temporary traffic signs are permanently removed. Although the Order is only expected to operate during the period specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notice of any changes to times and dates will be displayed before the start of any rescheduled work. A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at
https://gov.wales/road-orders
J Saddler, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at: