Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Welsh Government Ebbw Vale West Interchange

NP23 5SDPublished 05/07/23
Abergavenny Chronicle • 

What is happening?

Hysbysiad Statudol
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru 
Statutory Notice
For a large print copy of this Notice contact 03000 255 454 or email Transportordersbranch@gov.wales
Gorchymyn Cefnffordd Yr A465 (Y Gerbytffordd Tua’r Dwyrain Rhwng Cyfnewidfa Gorllewin Glynebwy, Blaenau Gwent A Chylchfan Glanbaiden, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr A Cherddwyr Dros Dro) 2023
 Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn caniatáu i lwythi anwahanadwy annormal (fel y diffinnir “abnormal indivisible loads” yng Ngorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) 2003 (y cyfeirir ato yma wedi hyn fel “Gorchymyn 2003”)) gael eu cludo’n ddiogel ar gefnffordd yr A465 yn siroedd Blaenau Gwent a Mynwy. Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:  i.    gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rheini sy’n teithio gyda’r llwythi anwahanadwy annormal wrth iddynt symud), beicwyr a cherddwyr rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A465 a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybrau eraill hefyd yn yr Atodlen honno i’r Hysbysiad hwn. Bydd y darnau o’r gefnffordd ar gau yn ysbeidiol dros nos o 20:00 o’r gloch tan 06:00 o’r gloch. ii.    gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rheini sy’n teithio gyda’r llwythi anwahanadwy annormal wrth iddynt symud), beicwyr a cherddwyr rhag mynd ar y darn o gilfan cefnffordd yr A465 a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn. Bydd y gilfan ar gau yn ysbeidiol o 10:00 o’r gloch tan 22:00 o’r gloch pan fydd y darnau o’r gefnffordd a ddisgrifir yn rhan i uchod ar gau. Disgwylir i’r gwaharddiadau, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, ddod i rym am 10:00 o’r gloch ar 23 Gorffennaf 2023 a pharhau yn ôl yr angen am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf.
J Saddler, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru 
Atodlen 1
Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro a Llwybrau Eraill
1.    Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain cefnffordd yr A465 sy’n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth Gyfnewidfa Gorllewin Glynebwy hyd at ei thrwyniad â’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gylchfan Glanbaiden. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain sy’n dymuno parhau ar yr A465 wrth Gyfnewidfa Gorllewin Glynebwy fydd dilyn y gwyriad tua’r gorllewin i ymadael wrth Gylchfan Tredegar ac ymuno â’r A4048 tua’r de, yr A472 tua’r dwyrain, a’r A467 tua’r gogledd, ailymuno â’r A472 tua’r dwyrain ac yna ymuno â’r A4042 tua’r gogledd i ailymuno â’r A465 wrth Gylchfan Glanbaiden. 2.    Y darn o ffordd ymuno tua’r dwyrain yr A465 yn Ystad Ddiwydiannol Rasa. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain sy’n dymuno ymuno â’r A465 yn Ystad Ddiwydiannol Rasa fydd dilyn y gwyriad tua’r de ar Alan Davies Way i fynd ar gerbytffordd tua’r gorllewin yr A465, yna ymadael wrth y gyffordd nesaf i ymuno â’r A4048 a pharhau ar hyd y prif lwybr dargyfeirio a ddisgrifir yn rhan 1. uchod. 3.    Y darn o ffordd ymuno tua’r dwyrain yr A465 yng Ngarnlydan. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain sy’n dymuno ymuno â’r A465 yng Ngarnlydan fydd dilyn y gwyriad i fynd ar gerbytffordd tua’r gorllewin yr A465 i Gyfnewidfa Tredegar a pharhau ar hyd y prif lwybr dargyfeirio a ddisgrifir yn rhan 1. uchod. 4.    Y darn o ffordd ymuno tua’r dwyrain yr A465 ym Mhontygof. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain sy’n dymuno ymuno â’r A465 ym Mhontygof fydd dilyn y gwyriad i fynd ar yr A467 tua’r de i Grymlyn ac ymuno â’r A472 tua’r dwyrain, ac yna’r A4042 tua’r gogledd i ailymuno â’r A465 tua’r dwyrain. 5.    Y darn o ffordd ymuno tua’r dwyrain yr A465 yn Saleyard. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain sy’n dymuno ymuno â’r A465 yn Saleyard fydd dilyn y gwyriad i fynd ar gerbytffordd tua’r gorllewin yr A465 i Gylchfan Pontygof ac ymuno â’r A467 i barhau ar hyd y llwybr dargyfeirio a ddisgrifir yn 4. uchod. 6.    Y darn o ffordd ymuno tua’r dwyrain yr A465 yng Ngilwern. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain sy’n dymuno ymuno â’r A465 yng Ngilwern fydd teithio tua’r dwyrain ar hyd yr A4077 y Brif Ffordd ac Abergavenny Road i ymuno â’r A465 wrth Gylchfan Glanbaiden.
Atodlen 2
Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro
Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin cilfan cefnffordd yr A465 rhwng Cylchfan Llan-ffwyst a Chylchfan Glanbaiden.

The A465 Trunk Road (Eastbound Carriageway Between Ebbw Vale West Interchange, Blaenau Gwent And Glanbaiden Roundabout, Monmouthshire) (Temporary Prohibition Of Vehicles, Cyclists And Pedestrians) Order 2023
The Welsh Ministers propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to permit the safe transportation of of abnormal indivisible loads (AIL) (as defined in the Road Vehicle (Authorisation of Special Types) (General) Order 2003 (hereinafter referred to as “the 2003 Order”)) on the A465 trunk road in the counties of Blaenau Gwent and Monmouthshire. The effect of the proposed Order will be to temporarily:  i.    prohibit all vehicles (other than those which are accompanying the AIL movement), cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the A465 trunk described in Schedule 1 to this Notice. The alternative routes are also described in that Schedule to this Notice. The closures will operate intermittently overnight from 20:00 hours until 06:00 hours. ii.    prohibit all vehicles (other than those which are accompanying the AIL movement), cyclists and pedestrians from proceeding on the length of the A465 trunk road layby described in Schedule 2 to this Notice. The closure will operate intermittently from 10:00 hours until 22:00 hours when closures on the lengths of the trunk road described at part i above are in operation. It is expected that the prohibitions, which will be signed accordingly, are expected to come into force at 10:00 hours on 23 July 2023 and remain as required, for a maximum period of 18 months.  J Saddler, Transport, Welsh Government Schedule 1
Temporary Prohibition of Vehicles, Cyclists & Pedestrians and Alternative Routes 
1.    The length of the A465 eastbound carriageway of the trunk road that extends from its nosing of the eastbound exit slip road at Ebbw Vale West Interchange to its nosing with the eastbound entry slip road at Glanbaiden Roundabout. The alternative route for eastbound traffic wishing to continue on the A465 at Ebbw Vale West Interchange will be diverted westbound to exit at Tredegar Roundabout and join the A4048 southbound, A472 eastbound, A467 northbound, re-join the A472 eastbound and then join the A4042 northbound to re-join the A465 at Glanbaiden Roundabout. 2.    The length of the A465 eastbound entry slip road at Rassau Industrial Estate. The alternative route for eastbound traffic wishing to join the A465 at Rassau Industrial Estate will be diverted southbound via Alan Davies Way on to the A465 westbound carriageway, then exit at the next junction to join the A4048 and continue via the main diversion route described at part 1. above. 3.    The length of the A465 eastbound entry slip road at Garnlydan. The alternative route for eastbound traffic wishing to join the A465 at Garnlydan will be diverted on to the A465 westbound carriageway to Tredegar Interchange and continue via the main diversion route described at part 1. above. 4.    The length of the A465 eastbound entry slip road at Pontygof. The alternative route for eastbound traffic wishing to join the A465 at Pontygof will be diverted on to the A467 southbound to Crumlin and join the A472 eastbound, then the A4042 northbound to re-join the A465 eastbound. 5.    The length of the A465 eastbound entry slip road at Saleyard. The alternative route for eastbound traffic wishing to join the A465 at Saleyard will be diverted on to the A465 westbound carriageway to Pontygof Roundabout and join the A467 to continue via the diversion route described at 4. above. 6.    The length of the A465 eastbound entry slip road at Gilwern. The alternative route for eastbound traffic wishing to join the A465 at Gilwern will be to 
travel eastbound along the A4077 Main Road and Abergavenny Road to join the A465 at Glanbaiden Roundabout.
Schedule 2
Temporary Prohibition of Vehicles, Cyclists and Pedestrians
The length of the A465 westbound carriageway of the trunk road layby between Llanfoist Roundabout and Glanbaiden Roundabout.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at:

andrew.hart@abergavennychronicle.com

01873 852187

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 40 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association