Gorchymyn Cydgrynhoi Rheoliadau Rheoleiddio Traffig, Terfynau Cyflymder A Pharcio
What is happening?
Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984
Hysbysiad Gwneud Gorchymyn Parhaol
Cyngor Sir Fynwy
Gorchymyn Cydgrynhoi Rheoliadau Rheoleiddio Traffig, Terfynau Cyflymder A Pharcio Cyngor Sir Fynwy 2019 (Gorchymyn Diwygio Rhif 7) 2023
Gwelliannau I Orchmynion Traffig O Fewn Gwahanol Gymunedau Yn Sir Fynwy Hysbysiad Rheoleiddio Traffig Dros Dro 2023
Hysbysir Drwy Hyn fod Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA ("y Cyngor") wedi gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Ffordd fel a ganlyn:
Effaith Y Gorchymyn: cyflwyno a diwygio -
• terfyn cyflymder o 20 mya yn Old Dixton Road, Trefynwy.
• terfyn cyflymder o 40 mya ar y B4245 rhwng Rogiet a Chil-y-coed.
• Terfyn cyflymder o 20 mya, a therfyn cyflymder o 30 mya yn Broadstone, Catbrook, Llanddingad, Llaneuddogwy, Llanisien, Llanfihangel Troddi, Tir Comin Llanfihangel, Penallt, Parkhouse, Rhaglan, Llanarfan, Pennarth, Tyndyrn, Brynbuga.
• terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr yn Llanbadog Fawr.
o fewn yr ardaloedd a nodwyd ar y cynlluniau, sydd ar gael i'w gweld yn Neuadd y Sir, Brynbuga neu ar-lein drwy https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-sir-fynwy-deddf-rheoleiddio-traffig-ffordd-1984/
Os bydd unrhyw berson yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw un o'i ddarpariaethau, ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan y Ddeddf, neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed o dan y Ddeddf, caiff y person hwnnw, o fewn chwe wythnos o ddyddiad y gorchymyn, sef 14eg Chwefror 2023 (y dyddiad y gwnaed y Gorchymyn), rhoi cais i mewn at y diben hwnnw i’r Uchel Lys.
Dyddiad: 22ain Chwefror 2023
Mark Hand
Pennaeth Creu Lleoedd, Adfywio, Priffyrdd a Llifogydd, Cyngor Sir Fynwy
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Monmouthshire Beacon directly at: