4143 Safeway I Ffordd Blaenau’r Cymoedd (Slipffordd), Y Fenni, Sir Fynwy - Hysbysiad Rheoleiddio Traffig Dros Dro
What is happening?
Cyngor Sir Fynwy
Hysbysiad Rheoleiddio Traffig Dros DroAdran 14 - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984
Cyngor Sir Fynwy(A4143 Safeway I Ffordd Blaenau’r Cymoedd (Slipffordd), Y Fenni, Sir Fynwy) Hysbysiad Rheoleiddio Traffig Dros Dro 2023
Hysbysir Drwy Hyn bod Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA ("y Cyngor") yn unol â'r pwerau a roddwyd gan Adran 14(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 Drwy Hyn Yn Gorchymyn A Chyfarwyddo y dylid cadw at ddibenion y rheoliadau fel a ganlyn:
1. Daw'r Gorchymyn i rym ar 4ydd Mawrth 2023 a bydd yn parhau i fod mewn grym am gyfnod nad yw'n hwy na 18 mis neu nes bod y gwaith y cynigir ei wneud wedi'i gwblhau, pa un bynnag yw'r cynharaf. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau rhwng 4ydd Mawrth a’r 5ed Mawrth 2023, gan weithredu rhwng 20:00 a 06:00.
2. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith Torri Coed mewn modd diogel yn y lleoliad. Bydd mynediad rhesymol yn cael ei gynnal ar gyfer eiddo sydd ar hyd y ffyrdd a effeithir arnynt tra y bydd yr heol ar gau.
3. Effaith y Gorchymyn fydd cau dros dro ran o’r A4143 Safeway i Ffordd Blaenau’r Cymoedd (Slip Ffordd), y Fenni, Sir Fynwy.
4. Bydd llwybr dargyfeirio fel a ganlyn: A4143 (Heol Merthyr), A465, A40 ac i’r gwrthwyneb.
5. Gellir enwi'r Gorchymyn hwn fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro A4143 Safeway i Ffordd Blaenau’r Cymoedd (Slipffordd), y Fenni, Sir Fynwy 2023.
5. Gellir enwi'r Gorchymyn hwn fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro Heol St Helen, y Fenni, Sir Fynwy 2023.
6. Yn sgil Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 bydd person sy'n torri cyfyngiad neu waharddiad a osodir dan Adran 14 y Ddeddf yn euog o drosedd.
Dyddiad: 22ain Chwefror 2023
Mark Hand
Pennaeth Creu Lleoedd, Adfywio, Priffyrdd a Llifogydd
Cyngor Sir Fynwy
Blwch SP 106
Cil-y-coed
Sir Fynwy
NP26 9AN
Atodlen
A4143 Safeway i Ffordd Blaenau’r Cymoedd (Slip Ffordd), y Fenni, Sir Fynwy
Slipffordd ar gau yn llwyr.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at: