Gorchymyn Cefnffyrdd Yr A449A’r A40 (Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd I Ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) - Gwaharddiadau A Chyfyngiadau Traffig Dros Dro
What is happening?
Hysbysiad Statudol
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
Gorchymyn Cefnffyrdd Yr A449A’r A40 (Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd I Ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau A Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2023
Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffyrdd yr A449 a’r A40, neu gerllaw iddynt, rhwng Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd a Ffin Cymru/Lloegr, i’r gogledd o Drefynwy, Sir Fynwy.
Effaith y Gorchymyn yw gwneud y canlynol dros dro:
i. gwahardd pob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darnau o gefnffyrdd yr A449 a’r A40 a bennir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybrau eraill yn yr Atodlen honno hefyd.
ii. gosod terfyn cyflymder o 50 mya, 40 mya neu 10 mya ar y darn o’r A40/A449 a bennir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn. Bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn weithredol pan fydd gwaith confoi yn digwydd ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 20 Chwefror 2023. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro yn dod i rym yn gyntaf ar y dyddiad hwnnw ac yna byddant yn weithredol yn ysbeidiol dros nos
(20:00 -06:00 o’r gloch) am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am gau’r ffyrdd yn cael ei arddangos cyn i waith ddechrau.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd.
J Saddler, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
Atodlen 1
Gwahardd cerbydau dros dro a llwybrau eraill
1. Y darn o gefnffordd yr A449 sy’n ymestyn o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd (Cyffordd 24 yr M4) hyd at ganolbwynt Cyfnewidfa Rhaglan yr A449 a’r A40, Sir Fynwy.
Y llwybr arall ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau traffordd ac sy’n teithio tua’r gogledd yw mynd ar hyd Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48 tua’r gorllewin i Gylchfan Grove Park, ar hyd yr A4042 i Gylchfan Hardwick ac ar hyd yr A40 tua’r dwyrain i Gyfnewidfa Rhaglan: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r de.
Y llwybr arall ar gyfer traffig traffordd sy’n teithio tua’r gogledd yw mynd ar hyd yr M4 tua’r gorllewin
o Gyffordd 24 i Gyffordd 25A (Grove Park) ac yna dilyn y llwybr a ddisgrifir uchod: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r de.
2. Y darnau o ffyrdd ymuno ac ymadael tua’r gogledd a thua’r de yr A449 wrth Gyfnewidfa Brynbuga, Sir Fynwy.
3. Y darnau o ffyrdd ymuno ac ymadael tua’r gogledd a thua’r de yr A449/A40 wrth Gyfnewidfa Rhaglan, Sir Fynwy.
Codir arwyddion priodol i nodi’r llwybrau eraill yn ystod y cyfnodau pan fydd y ffyrdd ymuno ac ymadael ar gau, sef ar hyd yr A449 a/neu’r A40 tua’r gogledd/de, fel y bo’n briodol.
Atodlen 2
Terfynau cyflymder dros dro o 50 mya, 40 mya neu 10 mya a dim goddiweddyd
Y darn o gefnffyrdd yr A449 a’r A40 sy’n ymestyn o’u cyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd (Cyffordd 24 yr M4) hyd at ganolbwynt y mynediad i Chapel Farm, i’r gogledd o Drefynwy.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Monmouthshire Beacon directly at: