Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Statutory

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Trunk Road (A494) - Compulsory Purchase Order

CH5•Published 19/11/26
Daily Post • 

What is happening?

HYSBYSIAD STATUDOL

I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru

GORCHYMYN PRYNU GORFODOL GWEINIDOGION CYMRU
(CEFNFFORDD DOLGELLAU I FAN I’R DE O BENBEDW (YR A494)
(GWELLIANT CYFNEWIDFA QUEENSFERRY I GARDEN CITY)) 2026 PRYNU TIR A HAWLIAU NEWYDD YN ORFODOL YNG
NGHYMUNEDAU QUEENSFERRY, SEALAND A THREFFYNNON AT Y PERCHNOGION NEU’R PERCHNOGION HONEDIG, Y
LESDDEILIAID NEU’R LESDDEILIAID HONEDIG, Y TENANTIAID NEU’R TENANTIAID HONEDIG, Y MEDDIANWYR A’R BUDDIANNAU CYMWYS ERAILL AR Y TIR A DDISGRIFIR ISOD

MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud o Orchymyn Prynu Gorfodol Gweinidogion Cymru (Cefnffordd Dolgellau i Fan i’r De o Benbedw (yr A494) (Gwelliant Cyfnewidfa Queensferry i Garden City)) 2026, o dan adrannau 239, 240, 246, 250, 254 a 260 o Ddeddf Priffyrdd 1980 ac o dan adran 2 o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 1(1)(b), (3) a (4) o Ran 1 o Atodlen 2 iddi. Bydd y Gorchymyn yn awdurdodi Gweinidogion Cymru i brynu’n orfodol y tir a’r hawliau newydd a ddisgrifir isod at ddiben:

(a) adeiladu darn newydd o gefnffordd a disodli pont dros ddyfroedd mordwyol Afon Dyfrdwy yng Nghymunedau Queensferry, Sealand a Threffynnon yn Sir y Fflint yn unol â Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau i Fan i’r De o Benbedw (yr A494) (Disodli Pont Dros Afon Dyfrdwy) 2026 fel a ganlyn;

(i) o bwynt i’r de-ddwyrain o ganolbwynt y gefnffordd bresennol ac i’r de-orllewin o lan dde-orllewinol dyfroedd mordwyol Afon Dyfrdwy, yng Nghymuned Queensferry, ac sy’n ymestyn i gyfeiriad y gogleddddwyrain hyd at bwynt i’r de-ddwyrain o ganolbwynt y gefnffordd bresennol i’r gogledd-ddwyrain o lan ogledd-ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, yng Nghymuned Sealand i gynnwys llwybr beiciau dwyffordd (â hawl tramwy ar droed) a llwybr Mynediad Cynnal a Chadw sy’n hanfodol i gefnffordd yr A494 yn rhedeg ar hyd ei ochr dde-ddwyreiniol.

(b) adeiladu a gwella priffyrdd a darparu mynedfeydd newydd rhwng Cyfnewidfa Queensferry a Garden City, yn y Cymunedau a enwyd yn y Sir a enwyd, yn unol â Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau i Fan i’r De o Benbedw (yr A494) (Gwelliant Cyfnewidfa Queensferry i Garden City) (Ffyrdd Ymyl) 2026;

(c) gwella’r gefnffordd, yn y Cymunedau a enwyd yn y Sir a enwyd;

(d) gwneud gwaith ar gyrsiau dwˆ r mewn cysylltiad ag adeiladu’r gefnffordd newydd ac adeiladu a gwella priffyrdd eraill a gwneud y gwaith arall a grybwyllir uchod;

(e) darparu adeiladau a chyfleusterau i’w defnyddio mewn cysylltiad ag adeiladu, defnyddio a chynnal y gefnffordd;

(f) eu defnyddio gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r gwaith gwella priffyrdd hwnnw a gwneud y gwaith arall a grybwyllir uchod; ac

(g) lliniaru unrhyw effeithiau andwyol a fydd gan fodolaeth neu ddefnydd o unrhyw rai o’r priffyrdd y cynigir eu hadeiladu neu eu gwella ar eu hamgylchoedd yn y Cymunedau a enwyd ac, mewn perthynas â’r effeithiau andwyol a fydd gan fodolaeth y gefnffordd newydd o ran dileu ac effeithio’n andwyol fel arall ar ardal gynefin bresennol ar lannau Afon Dyfrdwy, y ddarpariaeth i gefnogi cytrefu naturiol ardal gynefin morfa heli ar lan dde-ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, i gyd yn y Sir a enwyd.

Gellir gweld copï o’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a’r map cysylltiedig yn rhad ac am ddim ar adegau rhesymol o 19 Tachwedd 2026 tan 31 Rhagfyr 2026 yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy, Chester Road West, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SA neu yn Swyddfa Llywodraeth Cymru Cyffordd Llandudno, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno LL31 9RZ.

Daw’r Gorchymyn I rym ar y dyddiad y cyhoeddir yr Hysbysiad hwn gyntaf.

Os bydd unrhyw berson sydd wedi ei dramgwyddo gan y Gorchymyn Prynu Gorfodol am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth ynddo, ar y seiliau a ganlyn, sef:

a. nad oes pwˆ er o dan Ddeddf Caffael Tir 1981 nac unrhyw ddeddfiad o’r fath I awdurdodi’r pryniant gorfodol a ganiatawyd drwyddo fel y nodwyd yn adran 1(1) y Ddeddf; neu

b. na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad perthnasol, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos ar ôl iddo ddod yn weithredol.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar https://llyw.cymru/a494-pont-afon-dyfrdwy

DISGRIFIAD O’R TIR A’R HAWLIAU NEWYDD
SYLWER: Dynodir y tir a’r hawliau a gynhwysir ym mhob eitem isod ar y map y cyfeirir ato yn y Gorchymyn gan ddefnyddio’r rhif neu’r rhifau wrth ochr yr eitem honno isod.

YNG NGHYMUNED QUEENSFERRY, YN SIR Y FFLINT
Glaswelltir a leolir i’r de o’r hen ganolfan ailgylchu amwynderau, i’r gogledd-orllewin o’r eiddo o’r enw Dry Bridge Farm a phriffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Chester Road (East); rhan o lain las a ffos yn cydffinio â ffin dde-orllewinol hen eiddo preswyl o’r enw 1 Bridge House a hanner lled priffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Chester Road East, a leolir i’r de o Gefnffordd bresennol yr A494; rhan o lain las a ffordd fynediad i’r eiddo masnachol o’r enw Hen Iard y Cyngor, ffin dde-orllewinol cydffiniol hen eiddo preswyl o’r enw 1 Bridge House a hanner lled priffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Chester Road East, a leolir i’r de o Gefnffordd bresennol yr A494; hanner lled priffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Chester Road East, rhan o briffordd gyhoeddus ddiddosbarth sy’n cydfodoli o’r enw Chester Road East a rhan o lwybr beicio/llwybr troed, a leolir i’r gogleddddwyrain o’r eiddo masnachol o’r enw Hen Iard y Cyngor ac i’r de o Gefnffordd bresennol yr A494; llain ymyl a draen sianel agored priffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Chester Road East a rhan o briffordd gyhoeddus ddiddosbarth sy’n cydfodoli o’r enw Chester Road East, a leolir i’r gogledd-ddwyrain o’r eiddo o’r enw Dry Bridge Farm ac i’r de o Gefnffordd bresennol yr A494; yr hawl i fynd ac i fynd eto, gyda cherbydau, peiriannau, cyfarpar a deunyddiau, neu hebddynt, (o dan y rheilffordd weithredol), at bob diben sy’n gysylltiedig ag adeiladu, gwella, lledu a chynnal a chadw cefnffordd a darparu pont o dan y trac rheilffordd gweithredol (heb amharu ar ei weithrediad), ar ran o Gefnffordd bresennol yr A494 a thanffordd llwybr beicio/llwybr troed integredig a leolir o dan y trac rheilffordd gweithredol o’r enw Llinell Rheilffordd Arfordir y Gogledd; rhan o lawr caled yng nghwrtil yr hen ganolfan ailgylchu amwynderau, a leolir i’r gogledd o’r briffordd gyhoeddus o’r enw’r B5129 Chester Road East ac i’r de-ddwyrain o Gyfnewidfa Queensferry Cefnffordd yr A494 Plotiau 1/2, 1/2a, 1/2b, 1/2c, 1/2d, 1/2e, 1/2f, 1/2g, 1/2h, 1/2j)

Rhannau o brysgdir, rhan o Lwybr Troed cyhoeddus 6 (Gorllewin Saltney) a llwybr caniataol i’r llwybr troed a leolir i’r gorllewin o’r fynedfa i Waith Trin Carthion Queensferry Dwˆ r Cymru, i’r dwyrain o’r rheilffordd o’r enw Llinell Rheilffordd Arfordir y Gogledd, ac i’r gogledd-ddwyrain o’r briffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Chemistry Lane; prysgdir, Llwybr Troed cyhoeddus 3 (Gorllewin Saltney), a leolir i’r gogledd-ddwyrain ac i’r de-ddwyrain o’r fynedfa i Waith Trin Carthion Queensferry Dwˆ r Cymru, i’r dwyrain o’r rheilffordd o’r enw Llinell Rheilffordd Arfordir y Gogledd ac i’r gogledd-ddwyrain o gyffordd y priffyrdd cyhoeddus didosbarth o’r enw Chemistry Lane a Factory Road; rhan o brysgdir a rhan o ffordd fynediad breifat nas defnyddir yn arwain at Waith Trin Carthion Queensferry Dwˆ r Cymru a rhan o brysgdir yn cydffinio â Gwaith Trin Carthion Queensferry Dwˆ r Cymru, a leolir i’r de-orllewin o’r fynedfa i’r briffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Riverside Way ac i’r gogledd-ddwyrain o Waith Trin Carthion Queensferry Dwˆ r Cymru; rhan o Sianel Agored Draen Queensferry, llawr caled, prysgdir a mynediad preifat â gât i gerbydau/cerddwyr, a leolir i’r gorllewin o’r fynedfa i’r briffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Riverside Way ac i’r gogledd-ddwyrain o Waith Trin Carthion Queensferry Dwˆ r Cymru; safle Gorsaf Bwmpio Draenio Tir Queensferry ac is-orsaf drydan, a leolir i’r dwyrain o’r fynedfa i’r briffordd gyhoeddus ddiddosbarth o’r enw Riverside Way ac i’r de-orllewin o Bont Afon Dyfrdwy Cefnffordd bresennol yr A494; rhan o Lwybr Troed cyhoeddus 7 (Gorllewin Saltney), a leolir i’r de-ddwyrain o’r briffordd gyhoeddus o’r enw’r B5441 Ffordd yr Orsaf, i’r gogledd-orllewin o’r

STATUTORY NOTICE

For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales

THE WELSH MINISTERS (THE DOLGELLAU TO SOUTH OF BIRKENHEAD
TRUNK ROAD (A494) (QUEENSFERRY INTERCHANGE TO GARDEN CITY IMPROVEMENT))
COMPULSORY PURCHASE ORDER 2026

COMPULSORY PURCHASE OF LAND AND NEW RIGHTS IN THE COMMUNITIES OF QUEENSFERRY, SEALAND AND HOLYWELL
TO THE OWNERS OR REPUTED OWNERS, LESSEES OR REPUTED LESSEES, TENANTS OR REPUTED TENANTS, OCCUPIERS AND OTHER QUALIFYING INTERESTS OF THE LAND DESCRIBED BELOW

THE WELSH MINISTERS have made The Welsh Ministers (The Dolgellau to South of Birkenhead Trunk Road (A494) (Queensferry Interchange to Garden City Improvement)) Compulsory Purchase Order 2026, under sections 239, 240, 246, 250, 254 and 260 of the Highways Act 1980 and under section 2 of, and paragraph 1(1)(b), (3) and (4) of Part 1 of Schedule 2 to, the Acquisition of Land Act 1981. The Order will authorise the Welsh Ministers to purchase compulsorily the land and new rights described below for the purpose of:

(a) the construction of a new length of trunk road and a replacement bridge over the navigable waters of the River Dee in the Communities of Queensferry, Sealand and Holywell in the County of Flintshire in pursuance of The Dolgellau to South of Birkenhead Trunk Road (A494) (River Dee Bridge Replacement) Order 2026 as follows;

(i) from a point south east of the centre point of the existing trunk road and south west of the south western bank of the navigable waters of the River Dee, in the Community of Queensferry, and extending in a north easterly direction to a point south east of the centre point of the existing trunk road north east of the north eastern bank of the River Dee, in the Community of Sealand to include a two way cycle track (with a right of way on foot) and Maintenance Access route integral to the A494 trunk road running along its south eastern side.

(b) the construction and improvement of highways and the provision of new means of access between Queensferry Interchange and Garden City, in the said Communities in the said County, in pursuance of The Dolgellau to South of Birkenhead Trunk Road (A494) (Queensferry Interchange to Garden City Improvement) (Side Roads) Order 2026;

(c) the improvement of the trunk road, in the said Communities in the said County;

(d) the execution of works on watercourses in connection with the construction of the new trunk road and the construction and improvement of other highways and the execution of other works mentioned above;

(e) the provision of buildings and facilities to be used in connection with the construction, use and maintenance of the trunk road;

(f) use by the Welsh Ministers in connection with such improvement of highways and the execution of other works mentioned above; and

(g) the mitigation of any adverse effects which the existence or use of certain of the highways proposed to be constructed or improved will have on the surroundings thereof in the said Communities, and, in relation to the adverse effects which the existence of the new trunk road will have in removing and otherwise adversely effecting an existing habitat area on the banks of the River Dee, the provision to support the natural colonisation of saltmarsh habitat area on the south east bank of the River Dee all in the said County.

A copy of the Compulsory Purchase Order and accompanying map may be seen free of charge at all reasonable hours from 19 November 2026 to 31 December 2026 at Deeside Library, Chester Road West, Queensferry, Deeside CH5 1SA or at Welsh Government Llandudno Junction Office, Sarn Mynach, Llandudno Junction LL31 9RZ.

The Order comes into force on the date on which this Notice is first published.

If any person aggrieved by the Compulsory Purchase Order desires to question the validity of the Order, or of any of the provisions contained therein, on the ground that:

a. the authorisation of a compulsory purchase thereby granted is not empowered to be granted under the Acquisition of Land Act 1981 or any such enactment as is mentioned in section 1(1) of the Act; or

b. any relevant requirement has not been complied with, that person may, within 6 weeks of it becoming operative make an application to the High Court.

A copy of the Order and Notice can be viewed at https://gov.wales/ a494-river-dee-bridge .

DESCRIPTION OF THE LAND AND THE NEW RIGHTS
NOTE: The land and rights comprised in each item below are identified on the map referred to in the Order by means of the number or numbers against that item below.

IN THE COMMUNITY OF QUEENSFERRY, IN THE COUNTY OF FLINTSHIRE
Grassland located south of former amenity recycling centre, northwest of property known as Dry Bridge Farm and unclassified public highway known as Chester Road (East); part of grass verge and ditch adjoining southwest boundary of former residential property known as 1 Bridge House and half width of unclassified public highway known as Chester Road East, located south of existing A494 Trunk Road; part of grass verge and accessway into commercial property known as The Old Council Yard, adjoining southwest boundary of former residential property known as 1 Bridge House and half width of unclassified public highway known as Chester Road East, located south of existing A494 Trunk Road; half width of unclassified public highway known as Chester Road East, part of co-existent unclassified public highway known as Chester Road East and part cycleway/footway, located northeast of commercial property known as The Old Council Yard and south of existing A494 Trunk Road; verge and open channel drain of unclassified public highway known as Chester Road East and part of co-existent unclassified public highway known as Chester Road East, located northeast of property known as Dry Bridge Farm and south of existing A494 Trunk Road; the right to enter and re-enter, with or without vehicles, machinery, equipment and materials, (beneath the operational railway), for all purposes connected with construction, improvement, widening and maintenance of trunk road and provision of a bridge beneath operational railway track (without detriment to its working), upon part of existing A494 Trunk Road and integral cycleway/footway underpass located beneath operation railway track known as North Wales Coast Line; part of hardstanding within curtilage of former amenity recycling centre, located north of public highway known as B5129 Chester Road East and southeast of A494 Trunk Road Queensferry Interchange (Plots 1/2, 1/2a, 1/2b, 1/2c, 1/2d, 1/2e, 1/2f, 1/2g, 1/2h, 1/2j)

Parts of scrubland, part of public Footpath 6 (West Saltney) and permissive path to footpath located to the southwest of entrance to Welsh Water - Queensferry Sewage Treatment Works, east of railway known as North Wales Coast Line, and northeast of unclassified public highway known as Chemistry Lane; scrubland, public Footpath 3 (West Saltney), located to the northeast and southeast of entrance to Welsh Water - Queensferry Sewage Treatment Works, east of railway known as North Wales Coast Line and northeast of junction of unclassified public highways known as Chemistry Lane and Factory Road; part of scrubland and part of disused private access road leading to Welsh Water - Queensferry Sewage Treatment Works and part of scrubland adjoining Welsh Water - Queensferry Sewage Treatment Works, located southwest of entrance to unclassified public highway known as Riverside Way and northeast of Welsh Water - Queensferry Sewage Treatment Works; part of Queensferry Drain Open Channel, hardstanding, scrubland and gated vehicular/pedestrian private access, located west of entrance to unclassified public highway known as Riverside Way and northeast of Welsh Water - Queensferry Sewage Treatment Works; site of Queensferry Land Drainage Pumping Station and electricity sub-station, located east of entrance to unclassified public highway known as Riverside Way and southwest of existing A494 Trunk Road River Dee Bridge; part of public Footpath 7 (West Saltney), located southeast of public highway known as B5441 Station Road, northwest of Army Reserve Centre and southwest

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association