Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Statutory

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Coast Road - Multiple Traffic Notices

CH8 9HE•Published 29/10/26
Daily Post • 

What is happening?

ADRAN 153 O DDEDDF CYNLLUNIO 2008
RHEOLIAD 6 O REOLIADAU CYNLLUNIO SEILWAITH (NEWID A DIRYMU GORCHMYNION CYDSYNIAD DATBLYGU) 2011
RHYBUDD O GAIS I WNEUD NEWID ANSYLWEDDOL I’R GORCHYMYN CYDSYNIAD DATBLYGU A GANLYN: GORCHYMYN FFERM WYNT ALLTRAETH AWEL Y MÔR 2023 RHIF1033

Hysbysir drwy hyn bod Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr Cyfyngedig o Windmill Hill Business Park, Whitehill Way, Swindon, Wiltshire SN5 6PB (“yr Ymgeisydd”) yn ceisio, drwy gais i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, gwneud newid ansylweddol (y “Cais”) i Orchymyn Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr 2023 (fel y’i diwygiwyd) (“y Gorchymyn”).

Rhoddodd y Gorchymyn gydsyniad datblygu ar gyfer fferm wynt alltraeth ym Môr Iwerddon tua 11 cilometr o arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Gorchymyn yn awdurdodi’r Ymgeisydd i gaffael tir a hawliau’n orfodol i gyflawni prosiect Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr. Mae’r Cais yn ceisio diwygio’r terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael yn orfodol o dan y Gorchymyn o ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y gwnaed y Gorchymyn, i’r cyfnod o 7 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y gwnaed y Gorchymyn.

Mae dogfennau’r Cais ar gael i’w harchwilio, yn rhad ac am ddim, ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio (sy’n cael ei chynnal ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) yma: https://nationalinfrastructure- consenting.planninginspectorate.gov.uk/ projects/EN010112?lang=cy. Mae nhw ar gael drwy glicio ar y tab “Dogfennau”, yn ogystal ag ar wefan yr Ymgeisydd yn: https://awelymor.cymru/?lang=cy

Dylid gwneud unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r dogfennau a’r cynlluniau drwy ffonio 0800 1978232 neu anfon neges e-bost i awelymor@rwe.com

Gellir gweld a lawrlwytho dogfennau’r Cais yn rhad ac am ddim drwy fynd i wefan yr Ymgeisydd neu wefan yr Arolygiaeth Gynllunio gan ddefnyddio’r dolenni uchod. Fel arall, gellir cael copïau papur o’r dogfennau gan yr Ymgeisydd am £150 ar gais drwy ffonio neu e-bostio’r cysylltiadau uchod.

Bydd y dogfennau a’r cynlluniau ar gael i’w harchwilio tan 23:59 04 Rhagfyr 2026.

Er budd yr amgylchedd, mae’n well i unrhyw sylwadau am y Cais gael eu hanfon dros e-bost at yr Arolygiaeth Gynllunio awelymor@planninginspectorate.gov.uk Fel arall, gellir anfon sylwadau yn ysgrifenedig at: The Planning Inspectorate National Infrastructure Team c/o QUADIENT, 69 Buckingham Avenue, Slough, SL1 4PN. Nodwch [ENW010112] - Gorchymyn Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr 2023 - Newid Ansylweddol 1’ ar unrhyw ohebiaeth.

Os ydych chi’n cael trafferth cyflwyno sylwadau, anfonwch e-bost at awelymor@planninginspectorate.gov.uk neu ffoniwch 0303 444 5000 a bydd aelod o dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio yn gallu helpu.

Sylwch y bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn cael eu trin yn unol â Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data a’u cyhoeddi ar dudalen berthnasol Porth Cynllunio Seilwaith yr Arolygiaeth Gynllunio (https://national-infrastructure-consenting. planninginspectorate.gov.uk/projects/EN010112?lang=cy) gyda’r holl wybodaeth bersonol wedi’i thynnu.

Rhaid i unrhyw sylwadau ddod i law yr Arolygiaeth Gynllunio erbyn 23:59 ar 04 Rhagfyr 2026.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association