Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Statutory

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Gwynedd - Gorchymyn Prynu Gorfodol

LL49 9HX•Published 26/10/26
Daily Post • 

What is happening?

GORCHYMYN PRYNU GORFODOL PROSIECT ATGYFNERTHU AC ADNEWYDDU
NATIONAL GRID ELECTRICITY TRANSMISSION PLC
(PENTIR I DRAWSFYNYDD) 2026.
Deddf Trydan 1989
Deddf Caffael Tir 1981
Pryniant Tir Gorfodol a Hawliau Newydd

1. Hysbysir drwy hyn bod National Grid Electricity Transmission plc wedi gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol 2026 National Grid Electricity Transmission plc (Prosiect Atgyfnerthu ac Adnewyddu Pentir i Drawsfynydd) o dan Adran 10 a pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”). Mae ar fin cyflwyno'r gorchymyn hwn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net i'w gadarnhau, ac os caiff ei gadarnhau, bydd y gorchymyn yn awdurdodi National Grid Electricity Transmission plc i brynu'r tir yn orfodol a'r hawliau newydd a ddisgrifir isod er mwyn cyflawni'R gweithgareddau a awdurdodir gan ei drwydded trawsyrru o dan Ddeddf 1989 ac yn fwy penodol ar gyfer Prosiect Atgyfnerthu ac Adnewyddu Pentir i Drawsfynydd ("y Prosiect").

2. Mae’r Prosiect yn cynnwys ailosod ac atgyfnerthu ceblau a llinellau uwchben sydd eisoes yn bodoli a gosod ceblau a llinellau uwchben newydd rhwng is-orsafoedd presennol Pentir a Thrawsfynydd ac isorsaf newydd ym Mryncir yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae’r Prosiect tua 45 km o hyd ac mae’n cynnwys y gwaith canlynol:

a. Is-orsaf Pentir – newid a gosod ceblau tanddaearol a gwaith ategol;

b. Bryncir - is-orsaf newydd gyda ffordd fynediad, tirlunio, ail-leoli twr, cysylltiad ffeibr, a chysylltiad llinell uwchben/danddaearol 132 kV newydd a thynnu rhan o linell uwchben nad yw’n cael ei defnyddio mwyach;

c. Ceblau Glaslyn – ymestyn ac adeiladu compowndiau selio pennau ceblau, llwybrau mynediad parhaol newydd, cael gwared ar gompownd presennol Garth, gosod dwy gylched ceblau 400 kV newydd yn lle’r ceblau 400 kV a 132 kV presennol (i’w datgomisiynu, eu gwneud yn ddiogel ac, eu cadw’n rhannol), cysylltiad â thy pen twnnel presennol Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ac addasiadau i hynny, a gwaith tirweddu a lliniaru ecolegol cysylltiedig;

d. Is-orsaf Trawsfynydd – ceblau tanddaearol newydd, selio pennau ceblau, adweithydd siynt, nenbont, a lledu’r ffordd fynediad yn y compownd presennol sydd wedi’i ffensio;

e. Gwaith Llinell Uwchben - ail-ddargludo, gosod ffitiadau newydd, a newid gwifrau daear am wifren ddaear optegol ar y llinell drydan uwchben 4ZC rhwng tyrau 4ZC005–4ZC027 a thyrrau 4ZC044–4ZC070, ynghyd â gosod ceblau ffeibr optig rhwng tyrau 4ZC070–4ZC140;

f. Lliniaru Llifogydd Dros Dro – dwy orsaf bwmpio dros dro a gwaith cysylltiedig i reoli llifogydd i drosbwmpio dwr llifogydd o’r Cyt ac Afon Glaslyn i Lyn Bach yn ystod y gwaith gosod ceblau; ynghyd â ffyrdd mynediad newydd a gwell, compowndiau adeiladu dros dro, dargyfeirio llwybrau troed, gwaith tirweddu, lliniaru ecolegol a rheoli amgylcheddol, tir lliniaru, a chyfarpar, gwaith a seilwaith cysylltiedig i hwyluso’r gwaith o drosglwyddo trydan o fewn y rhwydwaith ac ar ei draws.

3. Mae copi o’r gorchymyn ac o’r mapiau y cyfeirir atynt ynddo wedi’u hadneuo yn:

Lleoliad Adneuo Cyfeiriad Lleoliad Adneuo Oriau Agor
Llyfrgell Porthmadog Stryd Y Llan, Porthmadog, LL49 9HX 10am – 6.30pm dydd Llun; 10am – 6pm
dydd Mawrth a dydd Mercher; 10am –
1pm, ac 1pm – 6pm (hunanwasanaeth yn
unig) dydd lau, a 10am – 5pm, a 5pm –
6pm (hunanwasanaeth yn unig) dydd Gwener
Llyfrgell Cricieth Encil y Coed, Stryd Fawr,
Cricieth, LL52 0RN
9.30am – 12pm ac 1pm – 4pm
(dydd Mercher a dydd Iau); 2pm
– 5pm (dydd Gwener)
Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol,
Penrhyndeudraeth, Gwynedd,
LL48 6LF
9am – 5pm (rhwng dydd Llun a dydd Iau)
a 9am – 4:30pm (dydd Gwener)

a gellir eu gweld ar bob adeg resymol.
4. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a mapiau’r gorchymyn a’r Datganiad o Resymau ar-lein yn: https://www.nationalgrid.com/electricity-transmission/network-and-infrastructure/infrastructureprojects/pentir-trawsfyndd-reinforcement-project/microsite-links/pentir-trawsfyndd-reinforcementproject-welsh neu drwy sganio’r cod QR uchod.

5. Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i’r gorchymyn yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net: Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Tîm Cyflawni Cynllunio Seilwaith Ynni, 3-8 Whitehall Place, Llundain, SW1A 2AW a/neu drwy anfon e-bost at: compulsorypurchaseorders@energysecurity.gov.uk cyn Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2026 a dylai nodi teitl y gorchymyn, sail y gwrthwynebiad, cyfeiriad y gwrthwynebydd a’i fuddiannau yn y tir.

DISGRIFIAD O’R TIR A’R HAWLIAU NEWYDD
Y tir sydd i'w gaffael:
Bryncir, Gwynedd: tir amaethyddol, prysgdir, gwrychoedd, priffordd a llain ymyl ffordd mabwysiedig, rhannau o wely Afon Dwyfach a'i glannau, llinellau trydan uwchben a hawl tramwy cyhoeddus. Mae’r tir i’r de o’r A487 ac i’r dwyrain o Felin Llecheiddior. Gellir disgrifio’r tir hefyd fel tir wrth ymyl tyrau trydan 4ZC067 a 4ZC068, a’r B4411/Ffordd Caernarfon.

Penmorfa, Gwynedd: Compownd Selio Pennau Ceblau trydan, twr 4ZC044, llinellau trydan uwchben, trac mynediad, tir amaethyddol, coetir a phrysgdir. Mae’r tir i’r gogledd-ddwyrain o Fryn-y-wern ac i’r de o Eglwys Sant Beuno.

Minffordd, Gwynedd: llawr caled, tir gweithredol ac anweithredol, glaswelltir, cyrsiau dwr, coetir a gwrychoedd yn Swyddfa Safle Darpariaeth Effaith Weledol Eryri HOCHTIEF a Chompownd Selio Pennau Ceblau Garth, ger Lôn y Chwarel a Rhes Syenite, Minffordd. Mae rhannau wedi'u dynodi yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Yn gyffredin i bob llain - Mae’r tir yn cynnwys mwyngloddiau a mwynau lle disgrifir hynny yn yr Atodlen. Ni ddylid caffael unrhyw fuddiannau a eithrir fel y’u nodir yn y Gorchymyn a’r Atodlen.

Yr Hawliau canlynol:
Hawliau er mwyn atgyfnerthu ac adnewyddu’r llinell drydan uwchben bresennol rhwng Is-orsaf Pentir y National Grid ac Is-orsaf Trawsfynydd, Gwynedd, gan gynnwys gosod seilwaith ceblau newydd, tynnu’r llinell uwchben bresennol ym Mryncir, a datgomisiynu, tynnu, gwneud yn ddiogel a chadw seilwaith cebl presennol rhwng Penmorfa a Minffordd, ynghyd â mynediad cysylltiedig, ardal waith, compownd adeiladu, draenio, lliniaru llifogydd, a gwaith tirweddu a lliniaru ecolegol.

Disgrifir yr hawliau hyn yn fwy manwl yn y Gorchymyn a’r Atodlen ac fe’u labelir fel a ganlyn: "Hawliau Llinellau Uwchben", "Hawliau Mynediad", "Hawliau Ardal Waith", "Hawliau Seilwaith Ceblau", "Hawliau Datgomisiynu Seilwaith Ceblau", "Hawliau Tirweddu a Lliniaru Ecolegol", "Hawliau Lliniaru Llifogydd", "Hawliau Draenio" a "Hawliau Compownd Adeiladu".

Mae’r tir y ceisir yr hawliau newydd ar ei gyfer yn cynnwys tir amaethyddol, coetir, prysgdir, gwrychoedd, ymylon ffyrdd, traciau mynediad, arwyneb caled, seilwaith trydan gweithredol, waliau cerrig, ffosydd, priffyrdd cyhoeddus a fabwysiadwyd, hawliau tramwy cyhoeddus, gwelyau afonydd a glannau afonydd, aber Afon Glaslyn, gwely a glannau Llyn Tecwyn Uchaf, tir rheilffordd, man agored cyhoeddus, caeau chwarae a thir comin, y mae rhannau ohonynt wedi’u dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae’r tir yn mynd o is-orsaf Pentir i gyfeiriad y de-orllewin yn gyffredinol, gan groesi Afon Rhythallt a’r A4086 ger Cwm-y-glo, gan fynd heibio Ceunant a chroesi’r A4085, Afon Gwyrfai a Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru ger Waunfawr. Mae’r llwybr wedyn yn mynd heibio Rhostryfan a Rhosgadfan, gan groesi Afon Llifon ger Carmel, y B4418 ac Afon Llyfni ym Mhen-y-groes, ac yn mynd tua’r de drwy Lanllyfni, gan groesi Afon Crychddwr, a Nasareth ac ar hyd yr A487 ger Pant Glas, gan groesi’r rheilffordd segur (Lôn Eifion) ac Afon Dwyfach, i Fryncir, lle mae’n croesi’r B4411. O Fryncir, mae’r llwybr yn croesi Afon Dwyfor ger Dolbenmaen ac yn mynd yn ei flaen ger Gell, Pentrefelin a Phenmorfa i Borthmadog, lle mae’r hawliau’n ymestyn ar y naill ochr a’r llall i Ffordd Osgoi Porthmadog (yr A487), ar draws Y Cyt, Rheilffordd Ucheldir Cymru ac aber Afon Glaslyn, i Gompownd Ceblau Garth ym Minffordd, i’r gogledd o Reilffordd Ffestiniog. Yna aiff y llwybr yn ei flaen i’r dwyrain heibio Llyn Tecwyn Uchaf ger Maentwrog, gan groesi’r A496, a thrwy Fryn Bwbach cyn cyrraedd Is-orsaf Trawsfynydd, i’r gorllewin o’r A470 ger Gellilydan, Blaenau Ffestiniog.

Yn gyffredin i bob llain: Mae’r hawliau newydd yn cynnwys, pan fyddan nhw wedi’u disgrifio felly yn yr Atodlen, hawliau i atal gwaith mwyngloddiau a mwynau, ymyrryd â gwaith o'r fath neu gyfyngu arno. Ni fydd yr hawliau newydd yn effeithio ar unrhyw fuddiannau a eithrir fel y’u nodir yn y Gorchymyn a’r Atodlen.

Dyddiad 21 Hydref 2026

John Lamb
Cyfarwyddwr y Prosiect
National Grid Electricity Transmission plc

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association